Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu’r fam o Lanelli, Sophie Evans, yn dweud na fyddant byth yn anghofio ei ‘gwên brydferth a’i ffyrdd cysurlon’ wrth i ddyn gael ei garcharu am ei llofruddiaeth.
Pan adawodd y ddynes 30 oed dad ei phartner i mewn i’w chartref ar 5 Gorffennaf 2024, credodd ei fod yno i drwsio rhywbeth.
Ond llai na 40 munud ar ôl iddo gyrraedd, roedd Richard Jones wedi lladd y fam i ddau.
Ar ôl cael ei ganfod yn euog o lofruddiaeth yn gynharach eleni, mae Jones, 50 oed, o’r Rhodfa ym Mhorth Tywyn, wedi’i garcharu heddiw am oes.
Clywodd Llys y Goron Abertawe am effaith aruthrol ei weithredoedd ‘gwarthus’ ar deulu Sophie.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedon nhw: “Roedd Sophie ni’n fam, merch, chwaer a modryb garedig, ofalgar ac arbennig.
“Roedd pawb ohonom yn ei haddoli. Hi oedd craig ein teulu a’r fam orau i’w dwy ferch fach. Roedd hi’n goleuo pob ystafell, yn rhoi’r cyngor gorau, ac yn caru ei theulu gymaint.
“Rydyn ni ar goll yn lân heb ei gwên hardd a’i ffyrdd cysurlon. Mae ein bywydau wedi’u dinistrio’n llwyr gan y weithred ddisynnwyr a chreulon hon.
“Ni fydd neb byth yn cymharu â Sophie. Mae’n rhaid inni fyw ein bywydau gyda rhan enfawr ohonom ar goll.”
Yn ystod achos llys bythefnos o hyd fis Ionawr, dangoswyd darn ffilm TCC o Sophie’n mynd â’i merched i’r ysgol hanner awr yn unig cyn i Jones gyrraedd ei chartref ar Ffordd Bigyn.
O fewn 40 munud, yr oedd wedi ymosod ar Sophie a’i gadael yn farw yn ei chegin.
Ni hysbyswyd y gwasanaethau brys tan 5.27 o’r gloch y noson honno, ar ôl i Jones ddweud wrth gyn bartner mewn cyfres o negeseuon testun ei fod wedi lladd y ddynes 30 oed.
Aeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys i gartref Sophie yn syth, lle cadarnhawyd ei bod hi wedi marw. Ar y pryd, roedd Jones dal yn cysylltu â’i gyn bartner, yn gofyn iddi beidio â datgelu beth oedd wedi’i wneud.
Drwy ymholiadau TCC, digidol ac ariannol, daeth yr heddlu o hyd i Jones ger y fynedfa i Barc Gwledig Pen-bre am 8 o’r gloch y noson honno. Cafodd ei arestio, ac ar ôl naw cyfweliad, cafodd ei gyhuddo â llofruddiaeth.
Ychwanegodd teulu Sophie: “Ni fydd byth digon o gyfiawnder am yr hyn y mae wedi’i wneud a’i achosi i ni.
“Roedd Sophie’n ymddiried yn y dyn hwn a gadawodd hi ef i mewn i’w chartref lle’r oedd hi’n byw gyda’i dwy ferch, oherwydd dyna’r math o berson oedd hi. Cymerodd y dyn hwn fantais o fenyw ifanc agored i niwed yn y ffordd fwyaf cywilyddus.
“Mae dwy ferch fach yn llefain bob nos am eu bod nhw’n colli eu mam, mae tad wedi colli ei ferch gariadus, ac rydyn ni wedi colli ein chwaer anhygoel.
“Mae e wedi cymryd popeth wrthym yn y ffordd fwyaf ffiaidd bosibl.
“Byddwn ni byth yn anghofio ein Sophie hardd. Bydd hi’n aros yn ein calonnau gan mai dyna’r cyfan sydd gyda ni nawr.
“Y cyfan am ddim byd oherwydd bod rhywun wedi colli ei dymer.”
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Roberts o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu Sophie, sydd wedi dioddef tor calon mwy nag y gallwn ei ddychmygu ar ôl colli eu mam, merch, chwaer a modryb.
“Roedd marwolaeth Sophie’n gwbl osgoadwy, yn ganlyniad trais disynnwyr a sbardunwyd pan gollodd Richard Jones ei dymer.
“Roedd Sophie’n agored i niwed pan ymosododd Jones arni, ar ben ei hun yn ei chartref heb ffordd o amddiffyn ei hun. Fe’i gadawyd ag anafiadau angheuol pan adawodd Jones y lleoliad, heb deimlo unrhyw edifeirwch na synnwyr o gyfrifoldeb am yr hyn yr oedd wedi’i wneud.
“Gallaf ond obeithio bod teulu Sophie’n cael rhywfaint o gysur o ddedfryd heddiw. Nawr bod y gweithdrefnau cyfreithiol drosodd, rwy’n siŵr y byddant yn ceisio canolbwyntio ar yr atgofion melys sydd ganddynt ohoni.”