Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Dathlu a Chydnabod Staff Heddlu, siaradwn gyda Rhiannon Evans, sy’n gweithio fel Ymchwilydd Ariannol Achrededig yn ein Tîm Troseddau Economaidd. Mae hi wedi gweithio i Heddlu Dyfed-Powys ers pum mlynedd.
Mae gan y Tîm Troseddau Economaidd dîm o 21 ymchwilydd a dadansoddwr ariannol, twyll a seiberdroseddu, sy’n gymysgedd o staff heddlu a swyddogion heddlu. Mae’r tîm yn gyfrifol am gyflenwi ymateb yr Heddlu i dwyll a seiberdroseddu drwy gynnal ymchwiliadau troseddol, yn ogystal â rhoi cyngor arbenigol, arweiniad a chymorth i ddioddefwyr, a hwyluso rhaglen ddiogelu uwch ar gyfer dioddefwyr sy’n agored i niwed.
“Mae’r rôl mor agos â gewch chi i Robin Hood cyfoes - cymryd budrelw i ffwrdd wrth y troseddwyr sy’n niweidio ein cymunedau, ac yna ail-fuddsoddi’r arian hwnnw mewn prosiectau cymunedol a mentrau atal trosedd.”
Rydw i wedi gweithio mewn rôl ymchwiliol erioed. Yn y gorffennol, rwyf wedi gweithio fel Swyddog Safonau Masnachu ac fel Ymchwilydd Twyll gyda’r GIG. Daw nifer o’m cydweithwyr o gefndir bancio, felly mae gennym gymysgedd da o brofiad yn ein tîm.
Fel Ymchwilydd Ariannol Achrededig, mae gennyf lwyth achos prysur sy’n fy ngweld i’n ymgymryd ag ymholiadau ariannol i gefnogi ymchwiliadau o unigolion coll perygl uwch i dwyll a llofruddiaeth. Gall cymryd rhan mewn ymchwiliadau mawr fod yn werth chweil – gan helpu i gyfrannu at ymdrech tîm gyda swyddogion a staff ar draws yr Heddlu.
Fel rhan o’m swydd, rwyf hefyd yn cynnal ymchwiliadau atafaelu manwl, sy’n cynnwys cyfrifo elw ariannol troseddwr sydd wedi’i euogfarnu o’i droseddolrwydd a nodi pa asedau sydd ar gael iddo. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â swyddog yr achos, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a’r llysoedd, felly mae sgiliau cyfathrebu da a dawn am drin ffigurau’n hanfodol.
Rwyf wrth fy modd â’m swydd. Mae’n amrywiol, yn heriol, ac fel nifer o rolau gorfodi’r gyfraith, yn esblygu o hyd.
Rydyn ni’n ceisio cyfleoedd i atafaelu arian wrth droseddwyr yn rhagweithiol. Gallech ddweud bod y rôl mor agos â gewch chi i Robin Hood cyfoes - cymryd budrelw i ffwrdd wrth y troseddwyr sy’n niweidio ein cymunedau, ac yna ailfuddsoddi’r arian hwnnw mewn prosiectau cymunedol a mentrau atal trosedd.
“Rwyf wedi cael gorchmynion fforffedu gwerth dros £800,000”
Yn fwy diweddar, rwyf wedi arwain ymchwiliadau adfer sifil, sy’n defnyddio arfau aflonyddu amgen o dan y Ddeddf Elw Troseddau i symud eiddo troseddol o gylchrediad.
Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac yn y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi cael gorchmynion fforffedu gwerth dros £800,000, gyda 50% o hyn wedi’i ail-fuddsoddi yn Heddlu a’r gymuned leol.
“Er y gall croesholi beri straen, rwyf wir yn mwynhau theatr gweithdrefnau llys a’r bodlonrwydd o gael canlyniad da.”
Rwy’n treulio llawer o amser yn y llys gydag achosion atafaelu ac adfer sifil, sy’n gallu bod yn orchwyl brawychus i gychwyn, ond daw’n haws gydag ymarfer.
Weithiau, cawn gyfle i fynd allan i helpu i chwilio eiddo, sy’n gallu bod yn fuddiol iawn, gan ein bod ni’n edrych gyda phâr gwahanol o lygaid – i nodi asedau a deunydd ariannol. Rwy’n gweld eisiau mynd allan ar warantau o’m dyddiau gyda Safonau Masnachu, felly mae hi bob amser yn braf cael mynd allan o’r swyddfa a bwrw iddi.
Rwyf nawr yn astudio am radd meistr mewn Troseddau Economaidd, sy’n helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth am bynciau megis gwyngalchu arian a theori troseddeg.
Ymchwiliadau diddorol:
Mae rhai o’m hymchwiliadau mwyaf diddorol wedi cynnwys:
Dywedodd Paul Callard, rheolwr y Tîm Troseddau Economaidd:
“Mae Troseddau Economaidd yn faes plismona gwych i weithio ynddo. Rydyn ni’n wynebu amryw o heriau newydd bob dydd, yn arbennig oherwydd y peryglon a gyflwynir gan y byd rydyn ni’n byw ynddo, sy’n fwyfwy digidol, ac mae’n rhaid inni feddwl yn arloesol er mwyn bodloni’r heriau hynny.”