Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pensiynwr â salwch terfynol, a gollodd £250,000 ar ôl dioddef twyll rhamant, yn un o nifer o bobl y mae Rebecca Jones wedi’u helpu wrth weithio fel swyddog diogelu rhag twyll gyda Thîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys.
Mae Rebecca’n gyfrifol am sicrhau bod dioddefwyr twyll yn cael eu diogelu, yn arbennig y bobl hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl o dwyll. Ei gwaith hi yw sicrhau eu bod nhw’n cael eu haddysgu ac yn derbyn cyngor am sut i ddiogelu eu hunain. Mae hi hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’r banciau er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei ddiogelu yn ogystal â cheisio cael arian sydd wedi’i golli i dwyll yn ôl.
Meddai Rebecca: “Yn anffodus, mae twyll rhamant yn gyffredin iawn. Mae troseddwyr yn meithrin perthynas gyda phobl mewn ffordd gyffredin ac yna’n eu defnyddio â’r nod o gael arian neu wybodaeth bersonol ganddynt.
“Roedd y dyn a gefnogais yn credu mai hwn oedd ei gyfle olaf i fod yn hapus. Fe’i gadawyd heb ddim. Roedd yn byw bywyd syml ac unig iawn, a daeth i’n sylw drwy ein cudd-wybodaeth fel dioddefydd twyll rhamant â cholled dybiedig o £250,000.
“Pan ymwelom ag ef gyntaf, doedd ganddo ddim syniad ei fod yn ddioddefydd twyll. Ar ôl ymgysylltu helaeth, o’r diwedd, dechreuodd ymddiried ynom, sy’n gallu bod yn anodd iawn gan fod troseddwyr yn gallu bod yn llawn argyhoeddiad. Yr oedd wedi colli swm sylweddol o arian ac fe’i gadawyd â dyledion cerdyn credyd. O ganlyniad, nid oedd ceiniog ar ôl ganddo.”
Gadawyd y dioddefydd mewn sefyllfa anodd iawn, ac roedd angen i Rebecca, sydd wedi bod yn ei swydd ers chwe blynedd, drin y mater yn ofalus a chefnogi’r dyn am amser hir.
Fe’i cefnogodd am sawl mis er mwyn adennill ei hyder a sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar waith megis ei ymdoddi i’r gymuned, trefnu cyfeiriadau banc bwyd, ei helpu i gyflwyno adroddiad i’r banc a’i helpu i fynd i’r afael â phryderon am unigrwydd.
“Roedd hwn yn achos anodd iawn,” meddai Rebecca.
“Yn aml, gall fod yn anodd iawn torri’r cysylltiad. Mae dioddefwyr twyll yn aml yn cael eu gwthio gan y troseddwr a gall fod yn anodd torri’r cwlwm rhwng dioddefydd a’r twyllwr. Gall hyn fod yn rhwystredig iawn, fodd bynnag, gydag amser ac amynedd, mae’r bobl rwy’n eu cefnogi yn aml yn derbyn eu bod nhw wedi dioddef twyll, a byddant yn diolch ichi am ymyrryd.
“Prif wobr y swydd hon yw’r gallu i ymyrryd ac atal pobl rhag dioddef rhagor o golledion ariannol. Pan fyddwch chi wedi helpu’r dioddefydd i gael arian a gollwyd i dwyll yn ôl, mae’r teimlad hwn yn wobr yn ei hun. Mae twyll yn cael effaith barhaol ar ddioddefwyr, yn emosiynol, yn feddyliol, ac weithiau’n gorfforol. Byddaf yn sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael yr holl gefnogaeth sydd angen arno.”
O ganlyniad i’w gwaith caled a’i dyfalbarhad gyda dioddefwyr twyll, enillodd Rebecca Wobr Cymunedau Mwy Diogel 2023 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (categori Diogelu), a chyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Heddlu Dyfed-Powys yn 2021 hefyd.
Ychwanegodd: “Mae pob dydd yn wahanol a dydw i ddim yn credu y gwnaf i fyth diflasu ar helpu dioddefwyr twyll. Pan rwy’n llwyddo i gynorthwyo dioddefydd i gael iawndal, mae hyn bob amser yn foment balch, ni waeth beth yw’r gwerth.”
Adnabod arwyddion twyll rhamant:
Cyngor ar gyfer diogelu’ch hun:
Cyngor ar gyfer gwarchod anwylyn:
Adnabod yr arwyddion:
Mae’n bwysig cofio nad os byth bai ar y dioddefydd o ran twyll rhamant.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn ddioddefydd twyll rhamant, medrwch adrodd amdano drwy glicio fan hyn
Neu gallwch adrodd yn ddienw drwy wefan Crimestoppers neu drwy alw 0800 555 111.