Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nododd swyddogion Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys yr unigolion fel rhan o ymchwiliad troseddol parhaus, ac fe wnaethant gyhoeddi hysbysiadau yn eu cynghori i stopio’r gweithgarwch yn syth neu wynebu erlyniad.
Drwy gydol mis Chwefror, ymwelodd y tîm â phobl a oedd yn gysylltiedig â thwyllwr tybiedig, fel rhan o Ymgyrch Henhouse – ymgyrch fis o hyd ar gyfer mynd i’r afael â throseddau twyll.
Wrth siarad â’r rhai a oedd yn gysylltiedig â’r mater, dysgodd swyddogion sut oedd yr unigolion wedi agor cyfrifon banc ar-lein gan ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol a’u prawf adnabod ac wedi rhoi’r manylion ar gyfer mewngofnodi i’w cyfrifon i droseddwyr yn gyfnewid am arian. Yna, defnyddiodd y troseddwyr hyn eu cyfrifon banc i wyngalchu arian a gafwyd drwy droseddu.
Cynigiodd y tîm gyngor diogelu a’u rhybuddio am beryglon agor cyfrifon banc i gael eu defnyddio gan rywun arall ar gyfer gweithgarwch troseddol.
Roedd llawer yn anymwybodol o oblygiadau’r hyn yr oeddent wedi’i wneud, ac yn credu ei bod yn ffordd hawdd o wneud arian. Rhoddwyd rhoddion ariannol o £50 i £200 i rai, tra bod arian wedi’i addo i eraill, ond nid oeddent wedi derbyn ceiniog.
Dywedodd Siân Stevens, Ymchwilydd Twyll Heddlu Dyfed-Powys:
“Drwy gudd-wybodaeth, cawsom wybod am dwyllwr a recriwtiodd nifer o bobl yn ardal Llanelli i agor cyfrifon banc, a gafodd eu defnyddio wedyn ar gyfer dibenion gwyngalchu arian.
“Ymwelodd y Tîm Troseddau Economaidd â dros 120 o unigolion ym mis Chwefror i esbonio eu bod wedi cael eu defnyddio fel mul arian – rhywun sydd wedi caniatáu i’w gyfrif banc gael ei ddefnyddio i anfon arian troseddol yw hwn. Rhoddom hysbysiad ymatal iddynt i ymyrryd ag unrhyw dwyll pellach drwy sicrhau eu bod yn ymwybodol bod yr hyn yr oeddent yn ei wneud yn weithgarwch troseddol.
“Roedd llawer o’r bobl yn gysylltiedig â’i gilydd. Roedd rhai’n aelodau teulu neu yn yr un grŵp ffrindiau, yn amrywio o oedolion ifainc i bensiynwyr. Roedd y cyfrifon wedi’u hagor yn dilyn cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r twyllwr.
“Er enghraifft, roedd rhai achosion lle’r oedd unigolyn wedi agor cyfrif banc yn dilyn cysylltiad â’r twyllwr, ac yna aeth ymlaen i ddweud wrth ei ffrindiau, “Gallwch chi ennill £50 os agorwch chi gyfrif banc a rhoi’r manylion i’r unigolyn hwn,” ac ati. Dyma un o nifer o enghreifftiau o sut y llwyddodd y twyllwr i gael manylion banc personol.”
Dywedodd Paul Callard, Rheolwr Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys: “Mae pobl yn dioddef twyll bob dydd, a gall yr effaith ar ddioddefwyr fod yn enbyd, yn ariannol ac yn emosiynol.
“Gall troseddwyr gymryd mantais ohonynt a’u hannog i adael i’w cyfrifon gael eu defnyddio. Dylai pobl fod yn ofalus iawn pwy maen nhw’n rhoi eu gwybodaeth bersonol iddynt.
“Ni fyddwn ni’n dioddef gweithgarwch twyllodrus a byddwn ni’n edrych ar fynd i’r afael â throseddwyr ar bob cyfle.”
⚠️ Gallech fod yn agored i erlyniad a mynd i’r carchar am hyd at 14 mlynedd.
⚠️ Bydd hi’n anodd cael cytundeb ffôn.
⚠️ Bydd eich cyfrifon banc yn cael eu cau.
⚠️ Byddwch chi’n cael trafferthion gwneud cais am gredyd.