Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydyn ni’n dathlu’r menywod anhygoel mewn plismona ac ar draws ein cymunedau. Thema eleni yw ‘gweithredu carlam ar gyfer cydraddoldeb rhywedd’, sy’n pwysleisio pwysigrwydd dileu rhwystrau a chreu cyfleoedd cyfartal ar gyfer menywod ym mhob agwedd o gymdeithas, ac yn arbennig plismona. Eleni, rydyn ni’n canolbwyntio ar rai o’r menywod sy’n gweithio yn yr Adran Gweithrediadau Arbenigol, gan glywed am eu rôl, y gweithle, a chydbwysedd bywyd a gwaith.

Gyda 22 mlynedd o wasanaeth, rwyf wedi ymroi llawer o’m gyrfa i blismona lifrog, gan gychwyn fel Cwnstabl Gwirfoddol cyn ymuno fel Cwnstabl yn y Drenewydd, Powys, yn 2003. Yn 2008, symudais i Sir Gaerfyrddin, lle’r wyf wedi gwasanaethu mewn amryw o rolau yn falch ar draws rhengoedd gwahanol, gan gynnwys CID, Ymateb, Plismona Bro, Safonau Proffesiynol, ac fel Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu.
Mae plismona wedi rhoi’r cyfle imi ddatblygu set sgiliau amrywiol, o Ôl-reoli Digwyddiadau a Rheoli Ymlidiau, i reoli ymgyrchoedd mawr ar lefelau efydd, arian ac aur, yn ogystal â Rheoli Arfau Saethu Tactegol a Strategol. Rwyf hefyd wedi cael y fraint o dreulio blwyddyn ar secondiad gyda Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, gan weithio ar bortffolio Rheoli Perfformiad Cenedlaethol y Prif Gwnstabl, Dr Lewis. Yn 2023, derbyniais radd Meistr mewn Gwyddoniaeth mewn Plismona (Arweinyddiaeth Strategol a Gweithredol).
Roeddwn i’n fam sengl i’m merch pan ymunais â’r heddlu. Rwyf ond yn sôn am hyn fel prawf fod datblygiad mewn plismona’n bosibl, beth bynnag yw eich amgylchiadau personol. Gydag ychydig dros ddwy flynedd o wasanaeth, llwyddais yn fy arholiadau CID a Rhingyll. Er fy mod i wedi gweithio llawn amser drwy gydol fy ngyrfa, gan ymgymryd ag amryw o batrymau sifft, rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi’r hyblygrwydd mae plismona’n cynnig, gyda chyfleoedd ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg, neu ran amser.
Weithiau, mae’n golygu cadw’r fantol yn wastad, ond rwyf wedi bod yn ffodus i gael cefnogaeth ddiysgog fy ngŵr, cydweithwyr a goruchwylwyr.
Fel mam i ddau o blant, rwy’n parhau i ganfod cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol. Tu allan i’r gwaith, byddwch chi naill ai’n fy ngweld i’n rhedeg neu’n cefnogi fy mab yn falch mewn gemau rygbi. Mae fy merch, sydd nawr yn nyrs yn Abu Dhabi, yn rhoi’r esgus perffaith imi ymweld â’r Emiraethau Arabaidd Unedig bob blwyddyn!
Fel Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol, rwy’n frwd dros ysbrydoli mwy o fenywod i ymuno â’r heddlu – fel swyddogion, gwirfoddolwyr, neu staff – a’u hannog i ymgymryd â rolau arbenigol megis Plismona’r Ffyrdd, Plismona Arfog, Triniwr Cŵn, Swyddog Morol, Trefn Gyhoeddus, neu gamu i mewn i arweinyddiaeth fel Comander Gweithredol.
Mae cynnydd yn digwydd pan rydyn ni’n grymuso ac yn rhoi hwb i’n gilydd. Trwy gamu ymlaen gyda’n gilydd, rydyn ni’n parhau i greu gwasanaeth heddlu lle mae gan bob menyw’r cyfle i arwain, llwyddo a ffynnu.

Ymunais â’r adran gŵn 13 mlynedd yn ôl ar ôl cael fy nghyfareddu wrth wylio trinwyr a’u cŵn cyffuriau’n cynorthwyo â gwarantau a gwylio’r cŵn amlbwrpas yn ceisio dod o hyd i bobl ar ffo rhag yr heddlu.
Cefais fy magu ar fferm felly roeddwn i’n gyfarwydd iawn â chŵn ac yn teimlo’n gyfforddus o’u cwmpas, ond doeddwn i erioed wedi hyfforddi ci gweithio o’r blaen. Fodd bynnag, dysgais hyn ar gyrsiau cychwynnol a roddodd yr hyder imi ymgeisio. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol o’r ymrwymiad sydd angen ar gyfer y rôl hon gan fod y cŵn yn byw yn y cartref gyda’r trinwyr ac mae angen gofal 24/7 arnynt. Roeddwn i’n ffodus i gael cefnogaeth fy ngŵr. Pe na bawn i, buasai wedi gorfod mynd!
Ers ymuno â’r adran, rwyf wedi gweithio sawl ci aml-bwrpas a chi cyffuriau. Rwyf nawr yn gweithio ci celain ac rwy’n un o’r hyfforddwyr ar gyfer cŵn aml-bwrpas. Rwy’n caru fy swydd; weithiau, mae’r cŵn yn cael eu galw fel dewis olaf er mwyn ceisio dod o hyd i ddarn coll o dystiolaeth i sicrhau euogfarn, a does dim teimlad gwell na phan mae’r cŵn yn dod o hyd i rywbeth ac mae’r hyfforddiant yn dwyn ffrwyth.
Mae bywyd yn brysur tu allan i’r gwaith hefyd â minnau’n magu dau o fechgyn yn ogystal â gweithio llawn amser. Ar ein diwrnodau gorffwys, mae’r bechgyn yn aml yn gorfod dod gyda mi i ymarfer y cŵn os yw fy ngŵr yn y gwaith. Yn ffodus, maen nhw’n caru’r cŵn hefyd ac yn eu hystyried yn rhan o’n teulu, ac maen nhw wedi cofleidio’r ffordd o fyw. Mae’r Adran Gŵn yn uned gefnogol, ac mae pawb ohonom yn ceisio helpu’n gilydd drwy newid sifftiau funud olaf pan fod angen.
Asgwrn cefn unrhyw adran yw’r staff gweinyddol. Ystyrir Helen a Rachel yn asedau craidd i’r Adran Gŵn.

Dechreuais weithio yn yr Adran Gŵn yn 2022, ar ôl gweithio fel Swyddog y Ddalfa am 20 mlynedd.
Yr wyf wedi fy nghyfareddu erioed â gwaith cŵn yr heddlu, a phan gododd swydd yn yr adran, ni oedais i wneud cais amdani. Rwy’n cynorthwyo’r Rhingyll â’r holl dasgau gweinyddol er mwyn sicrhau bod yr uned yn rhedeg yn esmwyth. Mae’r tasgau hyn yn cynnwys rheoli rotâu, prosesu anfonebau, archebu unrhyw offer sydd ei angen, ac ymgysylltu â’r Uned Cynnal Cerbydau er mwyn cynnal ein cerbydau. Rwyf hefyd yn trefnu ymweliadau ag ysgolion, grwpiau, a sioeau, lle mae trinwyr yn mynd â’u cŵn i gynnal arddangosfeydd a siarad am eu rôl.
Er bod fy swydd fel Cynorthwyydd Gweinyddol wedi’i lleoli mewn swyddfa yn bennaf, rwy’n cael cynorthwyo â gwaith ymarferol arall sy’n cynnwys y cŵn, ac rwyf wir yn mwynhau hynny.
Rwy’n helpu ein Swyddog Lles Anifeiliaid i ymarfer y cŵn pan maen nhw yng nghytiau’r heddlu ac yn mynd â nhw i apwyntiadau gyda’r milfeddyg os oes angen. Weithiau, rwy’n helpu i hyfforddi’r cŵn. Rydyn ni’n cael ein defnyddio i guddio er mwyn i’r cŵn ddod o hyd inni neu’n cael ein defnyddio fel “actorion” mewn senarios hyfforddi eraill. Rwyf hefyd wedi mynd i arddangosfeydd gyda’r trinwyr, gan gynorthwyo gyda’r cŵn a chymryd rhan.
Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i gael swydd rwy’n ei mwynhau gymaint. Mae’r Adran Gŵn yn adran gefnogol iawn. Rydyn ni’n gweithio’n dda fel tîm ac yn rhoi cymorth ar y cyd pan fod angen. Mae’r swydd yn ddelfrydol ar gyfer cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y cartref, ac rwyf wedi teimlo croeso a gwerthfawrogiad o’r diwrnod cyntaf.

Ar ôl gwirfoddoli mewn canolfan achub anifeiliaid dramor, gwyddwn fy mod i eisiau gyrfa’n gweithio gyda chŵn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynais wireddu fy mreuddwyd a dydw i ddim wedi edrych nôl.
Ymunais â’r Adran Gŵn yn 2021 fel y Cynorthwyydd Lles Anifeiliaid, a’m cyfrifoldeb i yw gofalu am ein cŵn heddlu pan maen nhw yng nghytiau’r heddlu. Rwy’n treulio fy nyddiau’n cerdded, glanhau, bwydo, chwarae, bathio, a brwsio (mae’r rhestr yn mynd ymlaen!). Mae’n gyfrifoldeb mawr, a gall fod yn heriol weithiau, ond mae’n werth chweil gwybod fy mod i’n gwneud fy rhan i sicrhau bod cŵn yr heddlu’n hapus, yn iach, ac yn barod am waith! Mae gan bob ci ei bersonoliaeth unigryw ei hun, a’m hoff ran o’r swydd yw dod i adnabod pob recriwt pedwar coes!
Tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau mynd i lefydd newydd gyda fy nyweddi, treulio amser gyda fy nheulu (rhai gyda dau goes a rhai gyda phedwar coes!), cerdded (nid fy mod i’n cael unrhyw drafferth cael fy nghamau i mewn!) a mynd i’m dosbarth bale lleol ar gyfer oedolion.

Rwyf wedi bod yn swyddog heddlu ers bron 11 mlynedd, ac rwyf wedi treulio’r 4 blynedd diwethaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod i wedi derbyn y swydd hon. Mae’n swydd heb ei thebyg. Mae llawer o gyfrifoldeb yn gysylltiedig â hi ac mae angen set sgiliau eang.
Ar ôl dychwelyd o gyfnod mamolaeth bron i flwyddyn yn ôl, yn sicr, mae gennyf flaenoriaethau newydd, ac mae cydbwysedd llwyddiannus rhwng bywyd a gwaith yn sicr yn bwysig imi, ond rwyf dal yn mwynhau mynd i’r afael ag unrhyw swydd y medraf, a helpu i warchod ein cymunedau. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, gan wneud fy ngorau i sicrhau bod teuluoedd y rhai sy’n colli eu bywydau ar ein ffyrdd yn cael y cyfiawnder sydd angen arnynt.
Mae fy rôl gyda’r Uned Plismona’r Ffyrdd wedi fy helpu i brofi i’m hun nad oedd bod yn ddynes 5’ 2” yn rhwystr i gyflawni fy amcanion.

Ymunais â Heddlu De Cymru yn 2005 a chefais fy anfon i Sblot, Caerdydd, fel swyddog bît. Es ymlaen i weithio mewn gorsafoedd amrywiol yng Nghaerdydd, ac yn 2009, des yn aelod o’r cefnlu gyda’r Uned Chwilio ac Adfer Arbenigol, gan gwblhau cymhwyster plymio masnachol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a chymwysterau chwilio, symud protestwyr, mannau cyfyng, a gweithio o uchder. Roeddwn i’n mwynhau amrywiaeth y rôl a’r heriau roeddwn i’n eu hwynebu’n weithredol.
Yn ystod fy amser gyda Heddlu De Cymru, cynrychiolais yr heddlu bob blwyddyn ym Mhencampwriaeth Achub Bywyd yr Heddlu.
Wedi diflasu ar fywyd y ddinas, gan fy mod i wedi cael fy magu ar fferm yn Sir Benfro, penderfynais fod ansawdd bywyd yn bwysig, a throsglwyddais i Heddlu Dyfed-Powys yn 2012. Cefais fy anfon i Aberdaugleddau, ac yn syth bin, daeth Cwnstabl Aled Bowen ataf i ofyn imi gystadlu dros HDP mewn achub bywyd! Roedd gwaith bît yn ysgytwad diwylliannol gan fod y niferoedd bît yn llai na’r hyn a brofais yng Nghaerdydd.
Ym mis Rhagfyr 2013, ymunais â’r Uned Forol (yr agosaf fedrwn i fod at Uned Blymio Heddlu De Cymru) lle’r wyf wedi derbyn fy nghymhwyster Cocs Tactegol yr heddlu a theori ac ymarferol meistr Cwch Hwylio'r Gymdeithas Hwylio Genedlaethol. Mae’r rôl wedi datblygu dros y blynyddoedd i rôl wrthderfysgaeth lle mae angen mynd ar fwrdd tanceri anferth yn rheolaidd i gasglu cudd-wybodaeth a darparu patrolau amlwg ar y dŵr gyda’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau heddlu, o bobl goll i gludo swyddogion arfau saethu a hwyluso eu byrddio ar longau ar gyfer digwyddiadau arfau saethu llawn.
Rwyf wedi arallgyfeirio i rolau Chwilio, Drôn, a Chemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear i gynnal mantais holistig i blismona gweithrediadau arbenigol HDP.
Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys yn 2017 ar ôl gwasanaethu gyda’r Heddlu Metropolitanaidd am 16 mlynedd. Yn ystod fy amser gyda’r Heddlu Metropolitanaidd, cefais fy Nyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant a des yn hyfforddwr trefn gyhoeddus.
Ar ôl trosglwyddo i HDP, cefais fy lleoli yn Llanbedr Pont Steffan yn gyntaf oll, lle y des yn Hyfforddwr Diogelwch Personol, ac yna i Aberteifi, lle yr ychwanegais at fy sgiliau drwy ddod yn Hyfforddwr Gwn Taser.
Yn 2019, ymunais â’r tîm hyfforddi Gweithrediadau arbenigol fel hyfforddwr llawn amser gan ddysgu am Ynnau Taser, Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear, symud protestwyr, hyfforddiant diogelwch personol a hyfforddiant trefn gyhoeddus.
Yn ystod fy amser gyda’r adran gweithrediadau arbenigol, rwyf wedi cael y cyfle i ddod yn ymgynghorydd tactegol Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear, a Threfn Gyhoeddus. Mae hyn wedi fy ngalluogi i deithio hyd a lled y wlad, gan gael fy anfon i roi cyngor i’m cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon fel ymgynghorydd tactegol Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear pan oedd yr Arlywydd Biden yn bresennol, a COP26 fel ymgynghorydd trefn gyhoeddus. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ymestyn fy set sgiliau a rhyngweithio â swyddogion ar draws gwahanol wasanaethau heddlu.
Fi yw arweinydd Taser HDP nawr. Mae hyn yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt sengl ar gyfer yr holl ddefnydd o ynnau taser ledled Heddlu Dyfed-Powys. Rwyf hefyd yn arbenigwr pwnc yn y maes gynnau taser, ac ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gyflwyno gwn taser T10 newydd Axon i’r heddlu.