Stamp amser presennol: 03/08/2026 14:11:37
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mam mewn galar yn sôn am golled enbyd wrth i lofrudd ei mab gael ei garcharu

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:33 03/03/2025

Mae mam mewn galar wedi disgrifio’r profiad enbyd o golli ei mab ‘cariadus, gofalgar a doniol’ wrth i’w lofrudd gael ei garcharu.

Bu farw Liam Morgan Whittle ar ôl dioddef anafiadau trychinebus i’w ben o ddau ergyd yn dilyn noson allan yn Llanelli.

Roedd ond yn 22 oed.

Heddiw, mae Jason Thomas wedi’i garcharu am ddynladdiad ar ôl cyfaddef ei fod yn gyfrifol am yr ergydion angheuol ddydd Sul 25 Mawrth 2023.

Dywedodd mam Liam, Claire Whittle: “Mae beth mae hyn wedi’i wneud i mi ac i ni fel teulu’n rhywbeth na fyddwn eisiau i unrhyw un arall orfod mynd trwyddo. Nid oedd gan Liam salwch â’i gymrodd yn rhy fuan, ni chafodd ddamwain annisgwyl, ac nid oedd eisiau marw.

“Cafodd ei ladd.

“Does dim gwahaniaeth beth ddywedaf i, ni all geiriau esbonio’r boen, y dinistr, a’r dicter rydyn ni wedi’i ddioddef ers i Liam gael ei gymryd. Ni ddylai neb fynd trwy drasiedi fel ydyn ni wedi ei dioddef oherwydd mae’n ddiddiwedd.  

“Ni fyddwn fyth yn dod i delerau ag ef, ac ni fyddwn fyth yn gwella.”

Liam Morgan Whittle (1).jpg

Liam Morgan Whittle

Clywodd y llys sut yr oedd Liam wedi bod ar noson allan yn Llanelli pan aeth i gyfeiriad ar Stryd Robinson gyda ffrind. Roedd Jason Thomas yno hefyd, a bu ffrae rhwng y ddau, gan arwain at Liam yn dioddef ymosodiad.

Pan gyrhaeddodd parafeddygon a’r heddlu, roedd Liam yn anymwybodol yn y fflat. Yn drist, bu farw yn ystod oriau mân y bore.

Er bod adroddiadau cychwynnol yn dweud bod Liam wedi cwympo i gysgu ar y llawr yn y fflat, sefydlodd ymholiadau’r heddlu ei fod wedi dioddef ymosodiad.

Arestiwyd Thomas ac fe’i cyhuddwyd yn ddiweddarach â dynladdiad. Cyfaddefodd i hyn ddydd Llun 10 Chwefror 2025.

Heddiw, mae wedi’i garcharu am ddwy flynedd a hanner.

Jason Thomas (cropped).jpg

Jason Thomas

Ychwanegodd mam Liam: “Roedd Liam yn 22 oed pan gafodd ei gymryd oddi wrthym ni. Roedd amser o’i blaid i wireddu ei freuddwydion. Mae’r breuddwydion hynny wedi’u chwalu yn awr, yn ogystal â’m breuddwydion i iddo.  

“Ni chredais am eiliad na fyddwn i byth yn ei weld eto y tro diwethaf imi weld Liam, y byddai noson allan yn troi’n oes o petai a phetasai. 

“Rwy’n ceisio cofio Liam fel y dyn oedd e. Roedd e’n gorwynt a oedd yn llenwi ystafell, hyd yn oed os nad oedd e’n dweud unrhyw beth. Roedd ei chwerthiniad yn heintus, a’r mynegiannau wyneb hynny – rhoddwn unrhyw beth i’w gweld nhw eto. Roedd yn ddoniol ac yn dweud pethau ar hap, a gwyddai ffeithiau nad oedd neb arall yn eu gwybod. Roedd yn gariadus a gofalgar, yn hwyliog ac yn swnllyd.

“Ni fydd terfyn i’r dioddefaint diddiwedd hwn sy’n effeithio arnom ni fel teulu Liam. Mewn byd lle nad oes gen i Liam bellach, ni allaf mwyach ateb cwestiynau, ei arwain a bod yno iddo.

“Nawr, mae’n rhaid imi fyw gydag ef yn fy nghalon, sydd wedi torri am byth.

“Dechreuom ddedfryd oes y diwrnod y cymerwyd Liam oddi wrthym, ac ni ddaw i ben hyd nes y cymerwn ein hanadl olaf.”

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wayne Bevan, yr uwch swyddog ymchwilio: “Yn gyntaf oll, mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Liam, a fydd yn dioddef canlyniadau gweithredoedd Jason Thomas am byth. Er na fydd yn lleihau eu colled, rwy’n gobeithio bydd dedfryd heddiw’n rhoi rhywfaint o gysur iddynt o weld bod cyfiawnder wedi’i sicrhau. 

“Bu farw Liam mewn amgylchiadau trasig yn dilyn noson allan gyda ffrind. Arweiniodd ymddygiad treisgar dyn arall, sef Jason Thomas, at y canlyniad mwyaf trychinebus, a bydd yn rhaid i deulu Liam, ynghyd â Jason Thomas, fyw gyda’i weithredoedd am weddill eu bywydau.

“Gall canlyniadau trais sy’n gysylltiedig ag alcohol fod yn drasig, fel yr ydym wedi gweld fan hyn yn anffodus, ac anogwn bobl i ystyried effaith bosibl eu gweithredoedd.

“Os ydych chi’n cael ei herio, cerddwch i ffwrdd. Gallech achub eich bywyd eich hun neu fywyd rhywun arall drwy gymryd y cam dewr hwnnw.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.