Stamp amser presennol: 03/08/2026 13:11:16
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Tri dyn yn cael eu carcharu am herwgipio ac ymosod ar ddyn yn dilyn cynllwyn gofalus a chymhleth

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion
Cyhoeddwyd: 07:00 18/03/2025 Diweddarwyd: 07:00 18/03/2025

Mae’r tri dyn wedi’u carcharu am wyth mlynedd a mis yr un am ddenu’r dioddefwr yn fwriadol i leoliad anghysbell, gorfodi iddo ddioddef trais sylweddol a’i atal â gefynnau.

Twyllodd Mohammad Comrie, 22 oed, o Leeds; Faiz Shah, 22 oed, o Bradford; ac Elijah Ogunnubi-Sime, 20 oed o Croydon y cynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain i deithio i orllewin Cymru ar 26 Awst 2024 lle gwnaethant ei herwgipio ac ymosod arno. Yn ystod yr ymosodiad, dioddefodd anafiadau i’w wyneb a’i ben.

Trefnodd y diffynyddion i’r cynhyrchydd deithio i Sir Gaerfyrddin gan ddweud wrtho ei fod yn mynd i fynychu gwersyll recordio cerddoriaeth yng Nghymru a gweithio gyda cherddorion eraill, a’r cyfan wedi ei drefnu gan yr hyn a gredai ef oedd yn gwmni cynhyrchu a recordio cerddoriaeth dilys.

Pan adawodd y diffynyddion yr ystafell lle’r oeddent wedi ei gadw, llwyddodd y dioddefwr i ddianc trwy godi ei ddwylo mewn gefynnau i fyny polyn a rhyddhau ei hun o’r lleoliad, ac yna rhedodd allan o’r eiddo. Cafodd ei gludo i’r ysbyty o ganlyniad i’r digwyddiad.

Roedd y tri dyn wedi ffoi o’r eiddo ond daethpwyd o hyd iddynt yn ddiweddarach y noson honno ar ôl defnyddio adnoddau heddlu sylweddol, gan gynnwys hofrennydd heddlu, wedi i’r heddlu ymateb i adroddiadau o ymosodiad mewn eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder. Roeddent yn cuddio mewn caeau o amgylch yr eiddo.

Cafodd y tri eu harestio a’u cyhuddo yn hwyrach. Plediodd y tri yn euog i herwgipio ar ddiwrnod cyntaf eu hachos yn Llys y Goron Abertawe ar Chwefror 18.


Dedfrydwyd Mohammad Comrie i wyth mlynedd a mis o garchar, dedfrydwyd Faiz Shah is wyth mlynedd a mis o garchar, ac fe ddedfrydwyd Elijah Ogunnubi-Sime i wyth mlynedd a mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc heddiw.

Dywedodd yr Arolygydd Gareth Jones, Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio yn yr achos: “Mae’n amlwg bod y drosedd hon wedi cael effaith ddofn, dirdynnol a pharhaol ar y dioddefwr a’i deulu. Roedd y drosedd wedi’i chynllunio’n drylwyr ac roedd elfennau’n soffistigedig, gan gynnwys yr hunaniaethau ffug a ddefnyddiwyd.

“Roedd yn amlwg yn gynnar iawn yn eu negeseuon i’w gilydd mai eu bwriad oedd herwgipio’r dioddefwr. Mae’r cymhelliad yn ymddangos yn ddeublyg – yn gyntaf, roedd yn amlwg eu bod yn bwriadu cribddeilio arian gan y dioddefwr ac ar ben hynny efallai roedd cymhelliant gwleidyddol hefyd.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â dod â’r achos yma i’r llys, yn enwedig y tîm ymchwilio am eu dycnwch a phroffesiynoldeb ac am ymdrechion penderfynol a diflino y swyddogion oedd yn y fan a’r lle yn ceisio dod o hyd i’r diffynyddion ar ol chwilio hirfaith ac anodd a sicrhau tystiolaeth hollbwysig. Sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwr oedd ein blaenoriaeth o’r cychwyn.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r Community Security Trust (CST) am gefnogi’r dioddefwr yn dilyn y digwyddiad dirdynnol yma, a oedd yn cynnwys rhoi cefnogaeth seicolegol ac emosiynol hanfodol.

“Mae’r ddedfryd hon heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd hon – a’n gobaith yw y bydd y dioddefwr yn teimlo ei fod yn cael cyfiawnder. Diolchwn iddo am ei rym a’i amynedd wrth i ni gynnal ymchwiliad trylwyr i’r hyn oedd yn drosedd anarferol.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.