Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o Wythnos o Ddathlu Staff yr Heddlu’n Genedlaethol, dyma ni’n siarad â dau o’n hymchwilwyr archwilio troseddfannau, Sharlene Watkins a Jo Chalmers, am y rôl y maent yn ei chwarae wrth gasglu tystiolaeth fforensig o droseddfannau, sydd yn y pen draw yn helpu i arwain at ganfod ac erlyn troseddwyr. Bydd ymchwilydd archwilio troseddfannau yn ymweld ag amrywiaeth o droseddfannau, megis troseddfannau bwrgleriaethau a throseddau sy’n ymwneud â cherbydau, i ddigwyddiadau mawr megis llofruddiaeth a throseddau rhywiol.
Rôl ymchwilydd archwilio troseddfannau yw ymweld â throseddfannau pan roddir y dasg honno iddynt. Maent yn dogfennu ac yn cofnodi’r troseddfan gan ddefnyddio technegau arbenigol yn ystod yr archwiliad i leoli, cadw ac adfer tystiolaeth. Mae cyfrifoldebau nodweddiadol yn cynnwys:
Mae Sharlene Watkins wedi bod yn ymchwilydd archwilio troseddfannau ers bron i 23 mlynedd. Ymunodd fel ymchwilydd archwilio troseddfannau yn Llanelli yn 2002 a throsglwyddodd i Heddlu De Swydd Efrog yn 2009 cyn dychwelyd i Heddlu Dyfed-Powys yn 2009 fel uwch ymchwilydd archwilio troseddfannau. Cafodd ei dyrchafu’n uwch reolwr Gweithrediadau Fforensig yn 2017.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y swydd?
Mae gennyf radd mewn Bioleg Gymhwysol, doethuriaeth mewn Biocemeg, ac roedd gen i swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Sienna, yn yr Eidal, ac wedi hynny ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne. Gweithiais i’r cwmni fferyllol Roche yn y Swistir fel ffarmacolegydd clinigol cyn dod yn ôl i Gymru yn 2002. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn gwaith fforensig ac roeddwn yn aelod o'r Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig o ganlyniad i gwblhau fy ngradd. Gofynnais i ffrind a oedd yn rhaid bod yn swyddog yr heddlu i fod yn ymchwilydd archwilio troseddfannau, a dywedodd wrthyf am swydd a oedd yn cael ei hysbysebu ar gyfer ymchwilydd archwilio troseddfannau rhan amser yn Llanelli, ond roedd y dyddiad cau i wneud cais ymhen 24 awr. Ffoniais yr adran adnoddau dynol, a gofynnais iddynt anfon y ffurflen gais ataf drwy ffacs, a chwblheais y ffurflen gais a'i danfon â llaw i’r adran adnoddau dynol yn y pencadlys ychydig cyn yr amser cau. Cefais fy nghyfweld yr wythnos ganlynol, cefais y swydd, a dechreuais yr wythnos ar ôl cwblhau cwrs ymchwilydd archwilio troseddfannau 12 wythnos o hyd. Hen hanes yw’r gweddill!
Pam mae ymchwilwyr archwilio troseddfannau yn bwysig?
Maent yn hollbwysig gan y dibynnir fwyfwy ar dystiolaeth fforensig i gynorthwyo ymchwiliadau a dod â’r rhai sy’n gyfrifol o flaen eu gwell. Un cyfle sydd gennych chi mewn gwaith fforensig. Ni allwch fynd yn ôl gan y bydd tystiolaeth yn altro, yn dadfeilio, yn dirywio, yn cael ei difwyno neu’n diflannu. Fy arwyddair i yw “mae'n well cael a pheidio ag angen, nag angen a pheidio â chael.” Mae'n rhaid i ni hefyd gael popeth yn iawn gan y bydd unrhyw gamgymeriadau'n creu cyfleoedd i'r amddiffyniad i ryddfarnu diffynnydd, er ei fod wedi cyflawni'r drosedd efallai.
Beth yw'r rhan orau o'ch swydd?
Gweithio ochr yn ochr â chymaint o gydweithwyr dawnus a gwybodus ac arbenigwyr allanol fel rhan o’r tîm ymchwilio i gasglu tystiolaeth fforensig y gellir ei defnyddio i helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr troseddau. Mae angen gwaith tîm i nodi holl ddarnau’r jig-so er mwyn dangos bod unigolyn yn euog neu’n ddieuog, sydd yr un mor bwysig, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gamweinyddiadau cyfiawnder. Rwyf wir yn mwynhau rhannu'r wybodaeth yr wyf wedi'i dysgu dros y 23 mlynedd diwethaf pan fyddaf yn cymryd rhan mewn hyfforddiant, tra hefyd yn dysgu a datblygu fy hun yn gyson.
A allwch chi ddisgrifio’r adegau sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi?
Roedd dau o’r ymchwiliadau mwyaf heriol yr wyf wedi bod yn rhan ohonynt, wrth gyflawni rolau rheolwr archwilio troseddfannau a chydlynydd archwilio troseddfannau, yn hyn rydyn ni’n eu galw’n ymchwiliadau i ‘lofruddiaeth heb gorff.’ Mae hyn pan nad yw corff bydd yn cael ei ganfod i gynorthwyo'r ymchwiliad i benderfynu beth a ddigwyddodd nac i ddangos cysylltiadau tystiolaethol rhwng y troseddwr a'r drosedd. Mae'r rhain yn cyflwyno heriau sylweddol sy’n fwy nag unrhyw ymchwiliadau eraill.
Trwy ddiwydrwydd, proffesiynoldeb, ymrwymiad, ac ymroddiad pawb a fu’n rhan o’r achosion, roeddem yn gallu cael rhywfaint o gyfiawnder i’r teuluoedd dan sylw, drwy gael y rhai a oedd yn gyfrifol yn euog o lofruddiaeth a rhoi dedfrydau oes iddynt, oherwydd y dystiolaeth ysgubol a gasglwyd. Nid wyf yn siŵr ai balchder yw’r disgrifiad gorau o’r teimlad ar y diwedd pan gawn euogfarnau llwyddiannus, ond yn hytrach ymdeimlad o ryddhad nad oedd yr holl waith caled a wnaed gan bawb wedi bod yn ofer, tra’n cael yr anrhydedd a’r fraint o fod wedi gweithio ar ymchwiliadau mor bwysig a heriol a chyfrannu atynt.
Beth yw rhan anoddaf eich swydd?
Gweld dioddefaint aelodau teuluoedd pan fydd troseddau erchyll wedi'u cyflawni. Allwn i byth fod yn swyddog cyswllt â theuluoedd gan y byddai'n waith rhy emosiynol. Wrth ymdrin â gwaith fforensig, gallaf wahanu’r ochr emosiynol drwy ganolbwyntio ar y dystiolaeth i gynorthwyo’r ochr ymchwiliol.
A oes unrhyw achosion heriol y bu'n rhaid i chi ymdrin â nhw?
Bûm yn rheolwr / cydlynydd archwilio troseddfannau yn achos llofruddiaeth y ferch fach, Lola James, ym mis Gorffennaf 2020 yn Hwlffordd. Oherwydd y gwaith fforensig a chymorth y patholegydd a’r gwyddonwyr, roeddem yn gallu profi nad oedd yr anafiadau trychinebus i’r ymennydd yn gyson â honiad yr unigolyn dan amheuaeth, Kyle Bevan, fod Lola wedi disgyn i lawr y grisiau. Cafwyd ef yn euog o’i llofruddiaeth, a chafwyd ei mam Sinead James yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch. Nid oeddem yn gallu nodi achos yr anafiadau, ond cawsom euogfarn, a hynny o ganlyniad i’r dystiolaeth a gasglwyd. Roedd hyn yn cynnwys fideo ar ffôn Kyle ar ôl iddo achosi’r anafiadau angheuol, sydd hyd heddiw yn cyffwrdd fy nghalon, gan na ddylai unrhyw blentyn ddioddef yr hyn a ddioddefodd y ferch fach hon.
Disgrifiwch shifft arferol yn y gwaith
Dydych chi byth yn gwybod beth rydych chi'n mynd i ddelio ag ef. Mae pethau'n ddynamig iawn ym myd ymchwilwyr archwilio troseddfannau, yn enwedig pan fydd digwyddiadau difrifol yn digwydd. Mae’n achos o dorchi llewys a rhoi eich holl amser a’ch ymdrech i’r ymchwiliad. Fel arall, mae fy nyddiau’n gymysgedd o gyfarfodydd a hyfforddiant yn bennaf, tra’n cynorthwyo’r tîm a’r swyddogion mewn unrhyw ffordd y gallaf.
A oes gennych unrhyw straeon o lwyddiant lle buoch yn gweithio gyda'ch gilydd fel tîm?
Cyflawniad balch arall o ganlyniad i waith tîm rhagorol gan bob aelod unigol o’r tîm archwilio troseddfannau, ac unigolion eraill o fewn gwasanaethau fforensig, yw ein hachrediad 17020 archwilio troseddfannau gan y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni. Ni oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i gael unrhyw achrediad ynghylch archwilio troseddfannau. Roedd hwn yn gamp arbennig gan dîm bychan iawn a dylai pawb deimlo ymdeimlad enfawr o gyflawniad a boddhad. Mae’n anrhydedd ac yn fraint i fod yn rhan o dîm mor anhygoel ac mae pob aelod unigol yn cael ei werthfawrogi.
Mae Jo Chalmers wedi bod yn ymchwilydd archwilio troseddfannau, a adwaenid yn flaenorol yn swyddog troseddfannau, ers bron i 28 mlynedd.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y swydd?
Roeddwn yn astudio dylunio ffotograffig yn y brifysgol ac wedi dangos diddordeb arbennig mewn ffotograffiaeth yn ymwneud â’r heddlu. Cefais ganiatâd i weithio gyda swyddfa troseddfannau Dyfnaint a Chernyw, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel y swyddfa archwilio troseddfannau, unwaith yr wythnos. Roedd hyn dros 30 mlynedd yn ôl, pan oedd y camerâu yn wahanol iawn (fformat canolig), ond mae'r swydd yn dal i fod yr un peth. Gorffennais yn y Brifysgol a’r flwyddyn ganlynol ymgeisiais am a chefais y rôl Swyddog Lleoliad Troseddau (SOCO) gyda Heddlu Swydd Gaerlŷr, yna gweithiais i Heddlu Swydd Stafford, yn yr un rôl, cyn ymuno â Heddlu Dyfed Powys yn 2018.
Beth yw'r rhan orau o'ch swydd?
Gwybod fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth, p’un a ydyw’n fater o helpu gyda thwyll ar y trothwy neu ofalu’n barchus am unigolyn ymadawedig, gan gofio bob amser mai aelod o deulu rhywun ydyw, a’i fod yn haeddu gofal.
A allwch chi ddisgrifio adeg sy’n rhoi balchder i chi?
Rwy'n dal i fod yn falch o adegau lle rwy’n medru adnabod olion bysedd a DNA. Mae bod yn rhan o'r tîm yn Heddlu Dyfed-Powys, pan fydd achosion yn cael canlyniad cadarnhaol yn y llys, yn werth chweil hefyd. Rwy'n falch iawn cael gweithio yma.
Gweithiais ar achos o dân mawr mewn gwesty, sef fy achos mawr cyntaf yn yr heddlu. Roeddwn yn gweithio fel ymchwilydd archwilio troseddfannau a rheolwr archwilio troseddfannau oherwydd prinder staff ac i gyflenwi, a gwnaethom godi â llaw 50 tunnell o falurion o adfeilion y gwesty. Fodd bynnag, fel tîm, gwnaethom ddod o hyd i'r ymadawedig a’i ddwyn o’r safle, a daethom o hyd i fan cychwyn y tân, gan weithio gyda'r Gwasanaeth Chwilio ac Achub Trefol, a ailadeiladodd rannau o'r gwesty i'n helpu ni.
Beth yw rhan anoddaf eich swydd?
Yn ogystal â’r achos o dân mawr a oedd yn rhan o gwmpas fy ngwaith, mae unrhyw waith neu achosion sy’n ymwneud â phlant yn peri gofid i mi, o achos o farwolaeth annisgwyl sydyn yn ymwneud â phlentyn i achosion o gam-drin. Rwyf hefyd yn gweld achosion o dwyll ar y trothwy yn anodd, lle mae ymddiriedaeth unigolion yn cael ei hecsbloetio.
A oes unrhyw achosion heriol y bu’n rhaid i chi ymdrin â nhw?
Yn anffodus, rydym yn delio â llawer o hunanladdiadau, ac mae’r rhain yn heriol yn feddyliol. Yn ddiweddar cefais fy ngalw i achos trasig o ddau unigolyn ymadawedig. Bu’n rhaid i mi weithio fel rhan o dîm gyda'r Gwasanaeth Adnabod Dioddefwyr Trychineb, y gwasanaeth tân ac ambiwlans i adfer dyn o danc carthion. Roedd hefyd gofyn i fi fynd at wrthdrawiadau awyrennau a hunanladdiadau trên mewn heddluoedd blaenorol. Byddwch fel arfer yn dod o hyd i fi ar lwyfannau awyr mewn lleoliadau tân neu’n hongian oddi ar graen mewn basged – dydw i ddim yn rhy hoff o uchder.
Disgrifiwch sifft arferol?
Rydyn ni’n ein tasgio ein hunain at orchwylion ac yn gwneud yn siŵr fod gweddill y tîm yn iawn i fod yn bresennol. Yn aml gallaf fod unrhyw le ar draws ardal yr heddlu, ac yn ymdrin ag unrhyw beth o ddifrod i farwolaeth. Mae’n rôl ryfeddol ond heriol, ac rydw i’n parhau i ddysgu bob dydd.