Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhuddwyd Daniel Gravell o dreisio dynes 19 oed a oedd yn mwynhau noson allan gyda’i ffrindiau yn 2002.
Clywodd y llys sut oedd y dioddefydd wedi bod allan gyda’i ffrindiau yng Nghaerfyrddin pan ddechreuodd deimlo’n anhwylus a gofyn am gael mynd adref.
Tra’r oedd hi yn nhŷ ffrind, deffrodd i ganfod bod Gravell yn ei threisio, ond nid oedd hi’n gallu ei wthio i ffwrdd. Dywedodd wrth y llys ei fod wedi ateb, “Mae’n iawn, mae’n iawn,” ac wedi dweud mai ei sboner hi ydoedd pan ddywedodd wrtho am stopio.
Ar ôl 20 mlynedd o ‘deimlo cywilydd’ yn ôl ei disgrifiad hi, yn ddewr, dewisodd y dioddefydd adrodd am y digwyddiad wrth yr heddlu, ac arestiwyd Gravell ar amheuaeth o dreisio.
Ar ôl trafod am chwe awr, canfu’r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe Gravell yn euog o’r trais a chafodd ei anfon yn ôl i’r ddalfa tan ei fod yn cael ei ddedfrydu.
Cyhuddwyd Gravell hefyd ag achos o lygadu mewn achos o bornograffi dial yn erbyn dynes yr oedd wedi cwrdd â hi ar-lein. Roedd Gravell wedi ychwanegu’r dioddefydd fel ffrind ar Facebook, ac ar ôl sgwrsio am ychydig wythnosau, fe wnaethant drefnu cwrdd wyneb yn wyneb. Cawsant ryw cydsyniol, ond yn ddiarwybod i’r dioddefydd, cymerodd Gravell luniau ohoni’n noeth.
Dri diwrnod yn ddiweddarach, derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad bod Gravell wedi anfon ffotograffau cignoeth ar WhatsApp, ynghyd ag enw a chyfeiriad y ddynes yn y llun. Sefydlodd swyddogion pwy oedd hi, a chadarnhaodd y dioddefydd mai hi oedd yn y ffotograffau. Cadarnhaodd hefyd nad oedd hi wedi caniatáu i’r ffotograffau gael eu tynnu, a bod Gravell wedi honni nad oedd yn deall sut oedd ei ffôn yn gweithio pan sbardunodd fflach y camera drwy ddamwain.
Cafodd Gravell ei roi ar brawf hefyd am ddau drosedd trais arall y dywedwyd eu bod wedi digwydd yn 2005 a 2022. Ni ddaeth y rheithgor i benderfyniad ynghylch digwyddiad 2005, ac fe’i cafwyd yn ddieuog o ddigwyddiad 2022. Gwneir penderfyniad wythnos nesaf ynglŷn â pha un ai a fydd yn wynebu ail dreial.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Ringyll Lee James o Heddlu Dyfed-Powys: “Yn gyntaf oll, hoffwn ganmol y dioddefwyr yn yr achos hwn am eu cryfder a’u dewrder o ran dod ymlaen i wneud yr adroddiadau anodd hyn, ac am eu cydweithrediad yn ystod ein hymchwiliad.
“Rydyn ni wedi clywed am effaith drychinebus gweithredoedd Gravell, ac rwy’n gobeithio y gall pawb sydd wedi eu heffeithio gan yr achos hwn ddechrau symud ymlaen gyda’u bywydau yn awr.”
“O ran Gravell, rwy’n cytuno’n llwyr â’r dioddefydd â’i ddisgrifiodd fel rheibiwr. Dyma ddyn sy’n amlwg yn meddwl dim am yr effaith y byddai ei ymddygiad gwarthus yn siŵr o’i gael.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Dale Thomas: “Gall adrodd am drais a throseddau rhywiol fod yn anodd dros ben a pheri gofid, ac fel yr ydym wedi gweld fan hyn, gall gymryd nifer o flynyddoedd i ddioddefwyr agor i fyny am eu profiadau. Hoffwn sicrhau ein bod ni’n ymdrin â phob adroddiad yn sensitif a thosturiol, ac y byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i erlid y troseddwr.”