Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Derbyniodd Cwnstabl Phil Thomas 6 pwynt cosb ar ei drwydded yrru a rhoddwyd dirwy o £275 a hefyd gordal o £110 iddo eu talu o fewn 28 diwrnod wedi iddo bledio’n euog, yn Llys y Goron Abertawe, i yrru’n ddiofal pan ar ddyletswydd, yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffordd yn ardal Rhydaman ar ddydd Llun 29 Medi 2024.
Yn wreiddiol cafodd wŷs i ymddangos yn y llys i ateb cyhuddiad o yrru peryglus, y gwnaeth ei wadu, fodd bynnag cyfaddefodd i’r drosedd o yrru’n ddiofal a dderbyniwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Clywodd y llys sut roedd cerbyd gyda marciau’r heddlu, yr oedd Cwnstabl Thomas yn ei yrru, yn dilyn cerbyd a oedd yn teithio ar gyflymder gormodol, pan wyrodd i’r ffordd gerbydau i’r cyfeiriad arall. Aeth i wrthdrawiad gyda phanel ochr allan cerbyd a oedd yn teithio tuag ato, ac yna gyda pholyn lamp. Cafodd gyrrwr y cerbyd arall fân anafiadau (rhwygiadau/cytiau) ac aeth i’r ysbyty fel rhagofal.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Phil Rowe, Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol:
“Mae Cwnstabl Thomas yn yrrwr ymateb yr heddlu ac y mae wedi ymgymryd â hyfforddiant, a oedd yn cynnwys dilyn a cheisio stopio cerbydau gyda’r goleuadau glas wedi eu goleuo, ond fe wnaeth ei yrru ar y diwrnod hwnnw ddisgyn islaw’r safon a ddisgwylir gan swyddog wedi ei hyfforddi ar gyfer y fath amgylchiadau. Mae’n briodol ei fod wedi ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd."
Mae Cwnstabl Thomas wedi ei ail-leoli o ddyletswyddau llinell flaen ers y digwyddiad ac mae hefyd yn destun archwiliad camymddwyn difrifol cyfochrog gan yr Adran Safonau Proffesiynol, lle gwneir penderfyniad ynghylch achos i’w ateb gan yr Awdurdod Priodol yn ei dro.