Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bob blwyddyn, mae o leiaf 40,000+ o bobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu hadrodd ar goll am y tro cyntaf.
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â’r elusen MedicAlert i gyflwyno protocol newydd ar gyfer pobl ar goll ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys. Mae Protocol Herbert (a enwyd ar ôl George Herbert, cyn-filwr rhyfel o laniadau Normandi, a oedd yn byw gyda Dementia) yn gynllun cenedlaethol a gynlluniwyd i gynorthwyo i ganfod unigolion agored i niwed, yn enwedig y rhai sy'n byw gyda dementia, a allai fynd ar goll.
Mae’r Protocol yn gofyn i ofalwyr, aelodau teulu a ffrindiau gwblhau, ymlaen llaw, ffurflen sy’n cofnodi manylion hanfodol fel y feddyginiaeth sydd ei hangen, rhifau ffôn symudol, lleoliadau y cafwyd hyd i’r unigolyn yn flaenorol, ffotograff ayb. Dylid cadw’r ffurflen mewn man diogel lle y gellir dod o hyd iddi’n hawdd a’i rhannu’n gyflym gyda’r asiantaethau perthnasol pe byddai adroddiad bod yr unigolyn y maent yn agos iddynt wedi mynd ar goll.
💬 Meddai DC Meinir Thomas, Cydlynydd Pobl ar Goll, “Bob tro y mae rhywun sy’n byw gyda Dementia’n mynd ar goll neu ddim yn dod adref pan ddisgwylir nhw, y mae’n achos gofid mawr i’r teulu, a gall felly fod yn anodd dwyn gwybodaeth i gof. Gall y ffurflen hon ddarparu gwybodaeth werthfawr i gynorthwyo gyda’r ymgyrch chwilio a chynyddu’r cyfleoedd i ddod o hyd i’r unigolyn yn gyflym ac yn ddiogel.”
Os oes gennych chi anwylyd sy'n byw gyda Dementia ac yn poeni y gallent fynd ar goll, mae rhagor o wybodaeth (gan gynnwys y ffurflen) ar gael yma.