Stamp amser presennol: 03/08/2026 08:18:38
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dedfrydu cyn-weithredwr TCC am ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a throseddau diogelu data.

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion
Cyhoeddwyd: 12:00 25/11/2025

DEDFRYD | Dedfrydu cyn-weithredwr TCC am ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a throseddau diogelu data.

Roedd Russell Hasler, 42 oed, o Landysul yn gweithio fel gweithredwr TCC gyda Heddlu Dyfed-Powys pan gafodd ei arestio gan swyddogion o’r Adran Safonau Proffesiynol ym mis Hydref 2023.

Ymddiswyddodd fis yn ddiweddarach, ac wedi hynny, cafodd ei gyhuddo o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol tuag at ei gyn-bartner, yn ogystal â throseddau diogelu data a chamddefnyddio cyfrifiaduron.

Cyfaddefodd Hasler i’r drosedd diogelu data, ac i gychwyn, gwadodd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ond newidiodd ei ble ddeuddydd cyn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Gollyngwyd y drosedd camddefnyddio cyfrifiaduron o’r gweithdrefnau.

Mewn datganiad, disgrifiodd y dioddefydd effaith y cam-drin a wynebodd, gan ddweud: “Roedd adegau pan oedd y boen emosiynol, poenydio a natur ddidostur y cam-drin mor llethol, roeddwn i’n cwestiynu pa un ai a allwn barhau.

“Mae’r cam-drin wedi effeithio ar bob rhan o’n bywydau. Ni ellir dadwneud y difrod a achoswyd, ac mae’r boen rydyn ni wedi dioddef yn rhywbeth rydyn ni’n parhau i fyw gydag ef bob dydd.

Aeth yn ei blaen i ddweud: “Rwy’n profi anawsterau gwybyddol yn aml, gan gynnwys anghofrwydd a meddwl pŵl, yn arbennig wrth geisio adalw gwybodaeth. Mae meddyliau ymwthiol neu feddyliau sy’n rasio’n dueddol o fod ar fy meddwl o hyd, sy’n effeithio’n sylweddol ar fy ngallu i ganolbwyntio. Yn ogystal, rwy’n aml yn dioddef poen ac anghysur corfforol, ac rwy’n credu bod gan hyn gysylltiad agos â gorbryder cronig a lefelau straen uwch.”

Ddoe, dydd Llun 24 Tachwedd, rhoddwyd dedfryd o 17 mis o garchar i’r dyn 42 oed - wedi’i gohirio am 18 mis - ac fe’i gorfodwyd i wneud 180 awr o waith di-dâl; mynychu 20 diwrnod o weithgarwch adsefydlu, a thalu dirwy o £500. Y mae hefyd yn destun gorchymyn atal am bum mlynedd.

Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Gwnstabl Simon Reynolds o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n croesawu’r ple euog a’r ddedfryd a roddwyd gan y llys heddiw.

"Ni ddylai neb deimlo ofn na chael eu rheoli yn eu bywydau eu hun, ac rwyf eisiau canmol y dioddefydd am ei dewrder o ran dod ymlaen ac am barhau i gefnogi’r ymchwiliad hwn gan Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys.

"Mae gan ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, ac mae’r ffaith bod Russell Hasler yn aelod o staff yr heddlu adeg y troseddu, a chymhlethir gan dorri deddfwriaeth Diogelu Data, yn fradychiad difrifol o’r safonau mae’r cyhoedd yn disgwyl yn briodol.

"Dylai’r ddedfryd a roddwyd heddiw helpu i sicrhau’r cyhoedd bod troseddu gan weithwyr heddlu, er yn anghyffredin, yn cael ei drin yn ddifrifol iawn gan ymchwilwyr.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.