Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n dda gan Heddlu Dyfed-Powys gyhoeddi lansiad y rhaglen problemau trosedd diweddaraf i’w hymgymryd gan ‘Wirfoddolwyr Rhithwir’ sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar droseddau gwledig, gyda ffocws arbennig ar ladradau peiriannau fferm gan grwpiau troseddu trefnedig.
Ysgrifennwyd y rhaglen gan Alicia Edwards, sef myfyrwraig o Brifysgol Bangor sy’n ymchwilio i droseddau gwledig ar gyfer ei doethuriaeth. Ymgynghorodd Heddlu Dyfed-Powys â’r Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison o Heddlu Gogledd Cymru, sef arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer troseddau gwledig a bywyd wyllt, ynghylch y rhaglen.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dominic Jones o Ganolfan Atal Ganolog Heddlu Dyfed-Powys: “Gall unrhyw fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru wirfoddoli i’r heddlu nawr drwy ymwneud â’r broblem trosedd niweidiol hon sydd o bryder gwirioneddol i’r cymunedau gwledig rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae myfyrwyr yn ystyried y cymhlethdodau niferus sy’n gysylltiedig â throsedd o’r natur hwn, yn ymchwilio i’r pwnc, ac yna’n cael eu hannog i fynd i’r afael â’r cwestiynau heriol a godir o fewn y broblem. Ar ôl gorffen gwirfoddoli, mae pob gwirfoddolwr sy’n fyfyriwr yn derbyn llythyr o werthfawrogiad gan y Prif Gwnstabl Ifan Charles i gydnabod eu cyfraniad.”
Mae’r rhaglen Gwirfoddolwyr Rhithwir ym Mhrifysgol De Cymru eisoes wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael ag amrediad o droseddau eraill, megis trin canabis mewn adeiladau gwag, twyll rhamant, gwyngalchu arian a throseddau a hwylusir gan ddeallusrwydd artiffisial. Yn y dyfodol agos iawn, gofynnir i fyfyrwyr argymell datrysiadau newydd ac arloesol ar gyfer troseddau cam-drin menywod a merched a alluogir gan dechnoleg hefyd, sydd wedi’i awdurdodi gan y Ganolfan Genedlaethol Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelwch Cyhoeddus, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.