Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae prif swyddogion heddlu wedi ymrwymo i greu diwylliant heddlu lle nad yw trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu byth yn cael ei oddef, ei leihau na’i esgusodi.
Mae’r Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu wedi’i lofnodi gan y Prif Gwnstabl Ifan Charles, y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Gary Phillips, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Andrew Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl a’r Sefydliad Linda Williams, y Cyfarwyddwr Cyllid Ed Harries, a Phennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol y Ditectif Uwch-arolygydd Phil Rowe fel addewid i roi ymateb unigol, cefnogol a grymusol i unrhyw ddioddefwr-goroeswr sy’n profi troseddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu.
Mae’r llw wedi’i lansio ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, sef diwrnod lle mae unigolion a sefydliadau ar draws y byd yn ymrwymo i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod a merched, ei oddef nac aros yn dawel amdano.
Drwy roi eu henwau i’r Llw Rhuban Gwyn a’r Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu, mae prif swyddogion wedi cadarnhau eu cyfrifoldeb fel cynghreiriaid i fenywod a merched mae’r heddlu’n eu gwasanaethu ac yn gweithio gyda nhw.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles: “Mae’n hollbwysig bod gan ein cymunedau hyder a ffydd ynom fel heddlu, pe bai byth angen iddynt adrodd am weithred o drais neu gam-drin domestig neu rywiol a gyflawnir gan yr heddlu.
“Gwyddom fod dioddefwyr-goroeswyr yn wynebu rhwystrau ychwanegol sylweddol i adrodd am droseddau a gyflawnir gan yr heddlu, ac rwyf i – ynghyd â’r prif swyddogion eraill – wedi ymrwymo i sicrhau nad yw hyn yn wir yma yn Nyfed-Powys.
“Rydyn ni’n addo dileu unrhyw rwystrau, a chynnig ymateb wedi’i deilwra i’ch gwarchod a’ch cefnogi. Arwyddo’r llw hwn, ynghyd â’r llw Rhuban Gwyn, yw ein ffordd ni o arddangos yr ymrwymiad hwn i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”
O dan y llw, gwneir yr addewidion canlynol i ddioddefwyr troseddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu: