Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Russell Hasler, 41 oed, o Landysul, wedi pledio’n euog i ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a throseddau diogelu data ddeuddydd cyn ei achos llys yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd Hasler yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys fel gweithredwr TCC – rôl staff heddlu wedi’i lleoli yn y pencadlys – o fis Mai 2019 i fis Tachwedd 2023.
Ar 18 Hydref 2023, arestiwyd y gweithredwr TCC gan swyddogion o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys ar amheuaeth o gyflawni troseddau diogelu data, ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a chamddefnyddio cyfrifiaduron.
Ymddiswyddodd Hasler o’i swydd staff heddlu pan oedd yn destun ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol.
Cafodd Hasler ei gyhuddo wedyn â’r tri throsedd a chyfaddefodd i’r troseddau diogelu data ar 5 Mawrth 2025. Mynnodd y dyn 41 oed ei fod yn ddieuog o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol tan ddydd Llun 20 Hydref, pan blediodd yn euog ddeuddydd yn unig cyn yr achos llys.
Gwadodd y cyhuddiad o gamddefnyddio cyfrifiaduron ac nid oes unrhyw gamau gweithredu pellach yn cael eu cymryd mewn perthynas â’r cyhuddiad hwn.
Bydd Russell Hasler yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun 24 Tachwedd yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Phil Rowe, Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol: “Ni fydd cam-drin domestig yn cael ei oddef yn Heddlu Dyfed-Powys – p’un a yw’r troseddwr yn aelod o’r cyhoedd neu’n sefydliad.
"Fel heddlu, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio tuag at ddileu cam-drin domestig, ac mae hynny’n flaenoriaeth o fewn ein cymunedau, ac yn fewnol yma yn Heddlu Dyfed-Powys. Rydym yn croesawu’r ple euog hwn ac yn disgwyl y ddedfryd.”