Stamp amser presennol: 03/08/2026 09:03:23
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu Dyfed-Powys ar y brig yn y Deyrnas Unedig o ran yr amser cyfartalog ar gyfer ateb galwadau brys 999.

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 00:00 17/10/2025

Ym mis Medi 2025, atebodd Heddlu Dyfed-Powys alwadau 999 mewn 4.33 eiliad ar gyfartaledd, gan wneud Heddlu Dyfed-Powys y cyflymaf allan o’r 43 heddlu yn y Deyrnas Unedig. Y targed sydd wedi’i osod yn genedlaethol ar gyfer ateb galwadau 999 yw 10 eiliad, a’r cyflymder cenedlaethol cyfartalog ar gyfer ateb galwadau ym mis Medi  2025 oedd 7.71 eiliad.

imageegxdf.png

Heddlu Dyfed-Powys ar y brig yn y Deyrnas Unedig o ran yr amser cyfartalog ar gyfer ateb galwadau brys 999.

 

Mae data a gyhoeddwyd gan police.uk ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr hyd at a chan gynnwys mis Awst 2025 yn dangos mai Canolfan Gyfathrebu Heddlu Dyfed-Powys oedd y cyflymaf ar gyfer ateb galwadau 999 gan y cyhoedd.

 

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud dros y 18 mis diwethaf ar ôl cyflwyno technoleg newydd, ffyrdd gwell i weithio, a chyflogi 20 aelod tîm newydd diolch i fuddsoddiad gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

 

Mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n parhau i reoli galw mawr ar gyfer gwasanaethau heddlu, gyda dros 47,000 o alwadau brys wedi’u derbyn rhwng mis Ionawr a mis Medi 2025. Hefyd, derbyniodd y tîm dros 117,000 o alwadau difrys drwy’r llinell ffôn 101, a 32,000 o gysylltiadau digidol pellach drwy gyfryngau cymdeithasol, gwefan yr heddlu, a thrwy e-bost – y cyfan o fewn y naw mis diwethaf.

 

Nid yn unig y mae’r tîm ymroddedig o Weithredwyr a Goruchwylwyr yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu wedi ymateb i’r her, maen nhw wedi rhagori ar ddisgwyliadau, gan ddarparu gwasanaeth cyflymach a symlach i’r cyhoedd yn y pen draw.

 

Ym mis Medi 2025, atebodd Heddlu Dyfed-Powys alwadau 999 mewn 4.33 eiliad ar gyfartaledd, gan wneud Heddlu Dyfed-Powys y cyflymaf allan o’r 43 heddlu yn y Deyrnas Unedig. Y targed sydd wedi’i osod yn genedlaethol ar gyfer ateb galwadau 999 yw 10 eiliad, a’r cyflymder cenedlaethol cyfartalog ar gyfer ateb galwadau ym mis Medi  2025 oedd 7.71 eiliad.

 

Ond nid yw hyn yn ymwneud â rhifau yn unig. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaeth hanfodol i’r rhai sydd wir angen cymorth brys.

 

💬Dywedodd Karen Marshall, Rheolwr Cyfathrebu’r Heddlu: “Mae’n dda iawn gennyf fod Heddlu Dyfed-Powys yn medru ateb galwyr sydd angen cymorth yr heddlu’n gyflym. Mae pawb yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’n cymunedau a’r rhai sy’n ymweld ag ardal Dyfed-Powys.”

 

Ym mis Ionawr 2025, cefnogodd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys gynnig praesept y Comisiynydd yn unfrydol ar gyfer 2025/26, gydag eiddo cyfartalog band D yn codi 8.6%.

 

Mae’r arian ychwanegol hwn wedi’i fuddsoddi mewn meysydd plismona allweddol â’r nod o hybu galluoedd rheng flaen. Defnyddiwyd cyllid i gynyddu nifer y swyddogion rheng flaen, gan alluogi swyddogion profiadol i gael eu rhyddhau o ymchwiliadau wrth ddesg a rolau cymorth eraill i gefnogi plismona bro ac ymateb.

 

Pennwyd arian hollbwysig i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu hefyd, sydd wedi gweld system deleffoni newydd yn cael ei chyflwyno, hyfforddiant hollgymhwysol ar gyfer y trinwyr galwadau a chynnydd yn nifer yr aelodau staff.

 

✅ Technoleg ar gyfer Yfory

Mae’r system ffôn newydd yn cyfeirio galwadau i’r gweithredwr mwyaf addas yn seiliedig ar ei sgiliau. Y mae hefyd yn clustnodi dau weithredwr sydd bob amser yn rhydd i gymryd galwad 999; os yw’r ddau’n derbyn galwad ar yr un pryd, bydd yn clustnodi trydydd gweithredwr.

 

Nodwedd arall sydd wedi’i gwella yw’r swyddogaeth galw yn ôl. Mae’r system hon yn rhoi’r dewis i’r galwr adael ei rif ffôn yn hytrach nag aros mewn ciw. Mae hyn yn golygu y gallant alw aelodau o’r cyhoedd yn ôl ar adeg gyfleus (20 – 60 munud fel arfer) os yw pob gweithredwr wrthi’n ateb galwadau 999.

 

✅ Gwella Sgiliau gyda Hyfforddiant Hollgymhwysol

Efallai mai un o’r newidiadau mwyaf yw’r rhaglen hyfforddiant hollgymhwysol newydd, sy’n paratoi staff Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu i fod yn fedrus yn holl agweddau trin cyswllt, gan gynnwys derbyn galwadau, anfon swyddogion at leoliadau digwyddiad, monitro’r ddesg ddigidol a gweithredu TCC.

 

Ymunodd Chris â Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu fel triniwr galwadau ym mis Chwefror 2024, ac ers hynny, mae wedi derbyn yr hyfforddiant hollgymhwysol.  

 

💬Meddai Chris: “Am ein bod ni wedi derbyn hyfforddiant ym mhob rôl, mae’n golygu ein bod ni’n medru estyn ein hadnoddau i fodloni’r galw. Os ydyn ni’n profi galw mawr mewn maes penodol, gellir sicrhau bod mwy o staff yn y maes hwnnw er mwyn sicrhau bod amserau aros yn cael eu cadw’n isel a bod y cyhoedd yn derbyn ymateb yn gyflym.  

 

“Nawr fy mod i hefyd wedi fy hyfforddi fel anfonwr, mae gennyf ddealltwriaeth well o’r hyn y mae angen i swyddogion wybod o’r alwad ffôn gychwynnol honno. O ganlyniad, mae ein hamserau galwad yn fyrrach. Nid yw pob galwad rydyn ni’n derbyn yn faterion ar gyfer yr heddlu, a diolch i’r hyfforddiant, rydyn ni’n medru cyfeirio at wasanaethau eraill heblaw’r heddlu’n gynt, gan gadw ein llinellau ffôn yn rhydd ar gyfer argyfyngau.”

 

Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu hefyd wedi croesawu 20 aelod staff newydd, gan ychwanegu cadernid a chapasiti i wasanaethau anghenion y cyhoedd pan fo ei angen fwyaf.

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Rwy’n eithriadol o falch o Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu am eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad parhaus. Fe wnaethant chwarae rôl hollbwysig o ran sicrhau bod pobl yn ardal Dyfed-Powys yn cael y cymorth maen nhw angen pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

 

“Mae’r buddsoddiad ychwanegol a wnaed drwy’r praesept llynedd wedi helpu i gryfhau’r gwasanaeth hwn, gan gefnogi cyflwyno systemau teleffoni newydd a gwell hyfforddiant ar gyfer staff. Mae’n amlwg bod y ffocws hwn ar wella’n talu ar ei ganfed, gyda’n cymunedau’n elwa o wasanaeth hyd yn oed yn fwy ymatebol ac effeithiol.

 

“Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau staff sy’n gweithio yn yr Ystafell Reoli am eu gwaith caled a’u hymrwymiad, ac rwy’n hyderus y bydd eu hymdrechion parhaus yn cynnal y lefel perfformiad uchel hwn. “

 

 

Angen cysylltu â’r heddlu? Cofiwch ddilyn y 4 cam hyn a helpwch i gadw ein llinellau’n rhydd i ateb galwadau gan bobl sydd fwyaf angen cymorth yr heddlu.  

  1. Yr Heddlu neu Bartneriaid? Ai mater ar gyfer yr heddlu yw hwn, neu a oes gwasanaeth arall sydd mewn sefyllfa well i’ch helpu? Gallwch wirio fan hyn
  2. A yw’r wybodaeth rydych chi ei angen ar ein gwefan yn barod? Cymerwch bip fan hyn cyn galw.
  3. A yw’r trosedd eisoes wedi digwydd, ac rydych chi eisiau adrodd amdano? Gallwch adrodd am achosion difrys ar-lein.
  4. Galwch 101 - Ydych chi eisiau rhannu gwybodaeth gyda ni, neu siarad gyda rhywun penodol? Galwch y llinell ddifrys.

Cewch ragor o wybodaeth am sut a phryd i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys fan hyn: Galw'n Gywir | Heddlu Dyfed-Powys

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.