Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyrrodd Zac Thomas o Gastellnewydd Emlyn i mewn i gae yn ddi-hid, gan anafu tri o’i deithwyr yn ddifrifol, pan fethodd â stopio ar gyfer yr heddlu ddydd Sadwrn 21 Medi 2024.
Gwelodd swyddogion yn Aberteifi gerbyd yn gyrru’n afreolaidd yn y dref ac fe wnaethant droi eu goleuadau glas ymlaen, a chyfeirio’r cerbyd i stopio. Yn lle hynny, gyrrodd Thomas i ffwrdd, gan oryrru ar hyd lôn trac sengl, a rhoi ei hun a’i bedwar teithiwr mewn perygl.
Yn y pen draw, gyrrodd y cerbyd - Volkswagen Polo - yn syth i mewn i gae, gan wrthdaro â thomen o bridd. Fe wnaeth effaith y gwrthdrawiad achosi un o’r teithwyr i saethu allan o’r sgrin wynt, tra bod dau deithiwr arall hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i’r goes a’r pen.
Ymatebodd swyddogion yn gyflym, gan roi cymorth cyntaf i’r anafedigion cyn iddynt gael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth bellach.
Arestiwyd Thomas, a oedd yn 18 oed ar y pryd, ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol. Plediodd yn euog i bob trosedd pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ar 31 Gorffennaf 2025.
Cyfeiriwyd y digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a gyfeiriodd yr achos yn ôl at yr heddlu ar gyfer ymchwiliad lleol. Canfu Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion wedi gweithredu’n gymesur ac yn unol â pholisi’r heddlu.
Dedfrydwyd Thomas i 3 blynedd o garchar mewn sefydliad troseddwyr ifainc pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 20 Hydref. Y mae hefyd wedi’i wahardd rhag gyrru am 5 mlynedd a 6 mis.