Stamp amser presennol: 03/08/2026 09:02:58
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Apêl o’r newydd i adnabod dyn y daethpwyd o hyd iddo yng nghronfa ddŵr Claerwen

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 11:09 14/10/2025

Claerwen appeal.png

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi apêl o’r newydd am wybodaeth flwyddyn ar ôl i gorff gael ei ganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys.

Ar ôl 12 mis o ymholiadau, nid yw Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i adnabod y dyn y daethpwyd o hyd iddo’n farw yng nghronfa ddŵr Claerwen yng Nghwm Elan eto.

Wrth i ben-blwydd y darganfyddiad agosáu, mae’r heddlu’n gofyn i’r cyhoedd gyflwyno unrhyw wybodaeth a allai helpu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Mae’r ffaith ein bod ni heb lwyddo i adnabod rhywun blwyddyn ar ôl ei ganfod yn farw yn sefyllfa anarferol iawn.

“Rydyn ni wedi dilyn sawl llwybr ymholi, ond nid ydym ronyn yn nes at ddarganfod pwy yw’r dyn hwn, o ble y daeth, a sut y collodd ei fywyd.

“Mae’n fab i rywun, yn bartner i rywun o bosibl, yn frawd neu’n dad, a hoffem ei ddychwelyd i unrhyw deulu neu anwyliaid a allai fod yn gweld ei eisiau.

“Gallai unrhyw wybodaeth sydd gennych fod yn allweddol i ddarganfod pwy ydyw.”

Derbyniodd ystafell reoli Heddlu Dyfed-Powys alwad 999 ychydig cyn 8.30 o’r gloch y bore ar 18 Hydref 2024 yn adrodd bod corff dyn wedi’i weld yn y dŵr gan gerddwr.

Rhuthrodd y gwasanaethau brys i’r lleoliad, sef rhan anghysbell o’r gronfa ddŵr, a chasglu’r corff.

Drwy archwiliad post-mortem, canfu mai corff dyn chwe throedfedd rhwng 30 a 60 oed ydoedd. Amcangyfrifir bod y corff wedi bod yn y dŵr am hyd at 12 wythnos.

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw eitemau personol o gwmpas y gronfa ddŵr ac nid oedd y dyn yn gwisgo oriawr na gemwaith, felly’r unig eitem oedd ar gael i swyddogion gynnal ymholiadau oedd siwt wlyb.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ponting: “Roedd y dyn yn gwisgo siwt wlyb Zone 3 Agile maint mawr iawn, sy’n golygu bod y gwisgwr o bosibl yn 6’ i 6’ 5”, tua 202 bwys i 220 pwys, gyda brest 44 modfedd i 48 modfedd.

“Heblaw hynny, nid oes gennym unrhyw wybodaeth neu fanylion eraill am eiddo personol a allai’n helpu i’w adnabod.

“Doedd dim cerbydau, beiciau na dulliau trafnidiaeth eraill yn yr ardal a allai fod wedi dangos sut y cyrhaeddodd yno, neu y gallem fod wedi defnyddio i sefydlu llwybr teithio.”

Dros y 12 mis diwethaf, mae swyddogion wedi gwirio ei ddisgrifiad yn erbyn rhestri o unigolion coll o Ddyfed-Powys a phob ardal heddlu arall yn y DU, ymgysylltu â heddluoedd rhyngwladol, a chynnal ymholiadau gyda chronfeydd data DNA ac olion bysedd.

Ond bu pob llwybr ymholi’n aflwyddiannus.

“Mae’n rhaid bod rhywun yn gweld eisiau’r unigolyn hwn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Ponting. “Cysylltwch â ni os ydych chi’n credu’ch bod chi’n medru’n helpu i’w adnabod.”

Os wnaethoch chi ymweld â Chronfa Ddŵr Claerwen rhwng Gorffennaf a 18 Hydref 2024, a gweld rhywbeth a allai helpu ymholiadau, neu rydych chi’n gwybod am rywun sydd heb ei weld ers cryn amser ac sy’n cyfateb â’r disgrifiad uchod, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r ffyrdd canlynol:

Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/

E-bost: [email protected]

Ffôn: 101

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.