Stamp amser presennol: 20/06/26 04:38:58
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Canfod dau yn euog o gynllwynio i ladd yn dilyn ymosodiad arfog ar garafán

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 13:36 21/10/2025

Mae dau unigolyn a gynllwyniodd ymosodiad arfog ar garafán wedi’u canfod yn euog o gynllwynio i ladd yn dilyn treial bythefnos o hyd.

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed sut y cynllwyniodd Michelle Mills a Geraint Berry i ladd Christopher Mills fel eu bod nhw’n medru parhau â’u perthynas.

Cafwyd trydydd unigolyn – Steven Thomas – yr honnwyd ei fod wedi’i recriwtio gan Berry i gynorthwyo â’r cynllwyn, yn ddieuog o gynllwyno i ladd. Yr oedd eisoes wedi cyfaddef i gyhuddiad o feddu ar arf saethu â’r bwriad o wneud i Christopher Mills gredu y byddai trais anghyfreithlon yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn ef neu rywun arall.

Clywodd y llys bod Mills a Berry wedi bwriadu lladd gŵr Mills a gwneud iddo edrych fel pe bai wedi lladd ei hun.

Ymosodiad arfog:

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad 999 yn fuan ar ôl 11.30y.h. ar 20 Medi 2024 yn adrodd bod dau ddyn mewn mygydau a oedd yn cario gynnau wedi mynd i mewn i garafán yng Nghenarth, Ceredigion, ac ymosod ar Mr Mills. Er ei fod wedi’i guro’n ddrwg, llwyddodd y dioddefydd i ymladd yn erbyn y ddau ddyn, a rhedodd yr ymwthwyr i ffwrdd.  

Wrth wneud yr alwad brys, dywedodd Michelle Mills, 46 oed, bod ei gŵr wedi dioddef anaf i’w ben yn yr ymosodiad, a honnodd nad oedd yn adnabod y ddau ddyn, a oedd yn gwisgo dillad du ac wedi gorchuddio eu hwynebau. 

Anfonwyd swyddogion ymateb ac arfog i’r ardal yn syth, ynghyd â’r uned gŵn a hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, a welodd ddau unigolyn yn cysgodi mewn isdyfiant gerllaw.

Daethpwyd o hyd i Berry, 46 oed, a Thomas, 47 oed, ac fe’u harestiwyd ar amheuaeth o fyrgleriaeth waethygedig. Wrth chwilio am y pâr, daeth swyddogion o hyd i fygydau nwy a nodyn hunanladdiad ffug wedi’i gyfeirio at Mills, yn honni ei fod wedi’i ysgrifennu gan ei gŵr.

  • Op Dunvegan gun 3
    Daeth yr heddlu o hyd i arf yn ystod chwilio
  • Op Dunvegan mask 1
    Canfuwyd mwgwdau nwy gan yr heddlu yn ystod chwilio
  • Op Dunvegan mask 2
    Canfuwyd mwgwd gan yr heddlu yn ystod chwilio
  • Op Dunvegan ties 1
    Canthorau ceblau yn cael eu darganfod mewn car
  • Op Dunvegan blood 1
    Gwaed yn y carafan
  • Sleid flaenorol
  • Sleid nesaf
  • Daeth yr heddlu o hyd i arf yn ystod chwilio

  • Canfuwyd mwgwdau nwy gan yr heddlu yn ystod chwilio

  • Canfuwyd mwgwd gan yr heddlu yn ystod chwilio

  • Canthorau ceblau yn cael eu darganfod mewn car

  • Gwaed yn y carafan

Yr ymchwiliad:

Lansiwyd ymchwiliad, dan arweiniad CID, a sefydlodd yn gyflym bod Mills, o Faes Tŷ Gwyn yn Llangennech, Llanelli, yn gysylltiedig â’r cynllwyn troseddol. Er ei bod hi wedi dweud wrth swyddogion nad oedd syniad ganddi pam y byddai ei gŵr wedi’i dargedu, darganfuwyd ei bod hi’n llwyr ymwybodol y byddai’r rhagod yn digwydd, a’i bod hi’n rhan annatod o gynllwynio i lofruddio ei gŵr. Nid yn unig roedd hi’n adnabod Berry, roedd hi wedi bod mewn perthynas gydag ef ers tua thri mis.

Datgelodd gwaith fforensig digidol negeseuon rhwng Mills a Berry a oedd yn cyfeirio at ffyrdd y gallent ladd Mr Mills. Daeth ymchwilwyr o hyd i negeseuon wedi’u dyddio mor gynnar â 7 Awst yn dweud y dylai Mr Mills farw.

Erbyn 9 Awst, roeddent yn trafod ffyrdd y gallai Berry drefnu bod Mr Mills yn cael ei ladd. Dywedodd Michelle Mills ei bod hi’n dymuno gwenwyno ei gŵr gan ddefnyddio tabledi cysgu, tra bod Berry wedi dechrau gwneud trefniadau i rywun ei saethu. Anfonodd neges at gyswllt yn holi am ddryll gydag ataliwr, a holodd sut i wneud cerbyd Mini Cooper S ffrwydro wrth ei gychwyn. Hwn oedd y car a oedd yn cael ei yrru gan y dioddefydd ar y pryd.

Pan ddywedodd Berry wrth Mills ei fod yn mynd i gwrdd â ‘bechgyn’ i gynllunio ‘beth maen nhw’n mynd i’w wneud ag ef’, atebodd Mills, “Iawn, hyfryd, diolch.”  

Yr unig bryder a ddangosodd Mills oedd pryder y byddai hi neu Berry’n cael eu dal.

Tystiolaeth hanfodol:

Roedd y dystiolaeth ddigidol yn hanfodol ar gyfer profi euogrwydd Mills a Berry, esboniodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory o Heddlu Dyfed-Powys.

“Roedd yr ohebiaeth rhwng Mills a Berry yr oedd modd i ni ei adfer yn dangos yn glir bod y pâr wedi bod mewn perthynas gyfrinachol ers diwedd mis Mehefin 2024,” meddai. 

“Mewn amser byr, gydag anogaeth Mills, daeth Berry i deimlo’n fwyfwy elyniaethus tuag at ei gŵr, a thrafododd y pâr nifer o ffyrdd y gallent ei ladd.

“Er gwaethaf y sgyrsiau hyn, honnodd Mills ei bod hi’n meddwl mai ffantasi oedd y cynlluniau hyn ac na fyddent byth yn gweithredu ar eu syniadau.”

Roedd negeseuon yn manylu dau ymweliad â charafán Mr Mills a gafodd eu hatal ar 28 a 29 Awst, gyda Thomas yn anafu ei ben-glin ar ôl iddo syrthio ar yr ail noson.

Ar y trydydd ymgais – 20 Medi – dywedodd Mills wrth Berry y byddai’n annog ei gŵr i yfed fel y byddai’n syrthio i gysgu.

Adferwyd negeseuon gan Berry’n hysbysu Mills ei fod e wedi cyrraedd y parc gwyliau, funudau yn unig cyn iddynt ruthro i mewn i’r garafán.

Bron yn syth ar ôl i’r dynion adael, anfonodd Mills neges ar Berry’n dweud, “Mae’r heddlu wedi’u galw. Dihanga, dilea’r holl ohebiaeth ... plîs, ar y ddau ffôn ... rwy’n dy garu di.”

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gregory: “Roedd Berry a Mills wedi trafod defnyddio nwy i ladd Mr Mills yn flaenorol, a gwneud iddo edrych fel pe bai wedi cymryd ei fywyd ei hun.  

“Roedd Berry wedi gofyn i Mills ble’r oedd y bwyler, ac fe gariodd ef a Thomas fygydau nwy a fyddai wedi eu gwarchod tra bod Mr Mills yn mogi.

“Nid oes unrhyw esboniad wedi’i roi gan yr un o’r tri diffynnydd am y nodyn hunanladdiad ffug na’r mygydau nwy yn y sach teithio. Yr hyn sy’n glir yw bod yr eitemau hyn ddim yn cael eu defnyddio i godi ofn ar Mr Mills – roeddent yno i sefydlu hunanladdiad ffug.”

Op Dunvegan NPAS 1
Gwelodd y hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol Heddlu Berry a Thomas o'r awyr

Euog:

Cafodd Mills ei harestio a’i chyhuddo o gynllwynio i ladd ei gŵr. Pan gafodd ei harestio, dywedodd wrth swyddogion, “Rwy’n mynd i’r carchar am hyn, mae’n siŵr?”

Wynebodd Berry a Thomas, o Glos Coffa yng Nghlydach, yr un cyhuddiad, gyda’r tri ohonynt yn ei wadu.  

Ar ôl treial bythefnos o hyd, canfu Michelle Mills a Geraint Berry’n euog o gynllwynio i ladd gan reithgor.

Canfu Steven Thomas yn ddieuog o’r cyhuddiad. Yr oedd eisoes wedi pledio’n euog i feddu ar arf saethu â’r bwriad o achosi Christopher Mills i gredu y byddai trais anghyfreithlon yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn ef neu rywun arall.  

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gregory: “Rwy’n falch bod Michelle Mills a Geraint Berry wedi’u canfod yn euog yn awr o gynllwynio i ladd, ac y byddant yn cael eu dedfrydu’n briodol am eu rhan yn eu cynlluniau i ladd Mr Mills.

“Roedd yr achos hwn yn debyg i ddrama deledu, ond mae cynllwyn go iawn i gymryd bywyd rhywun wrth wraidd y mater, ac roedd canlyniadau angheuol posibl i’r ymosodiad a drefnwyd ar gyfer 20 Medi.

“Roedd Mills a Barry wedi cynllwynio nid un, nid dau, ond tri ymgais i gymryd bywyd Mr Mills, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddent wedi parhau i gynllwynio pe na baent wedi cael eu dal y noson honno.

“Byddant yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd yn awr.

“Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a staff a weithiodd ar yr ymchwiliad hwn, ac a gasglodd dystiolaeth gref i sicrhau’r euogfarnau hyn, yn ogystal â Mr Mills am ei onestrwydd a’i gydweithrediad drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.”

Bydd Michelle Mills, Geraint Berry a Steven Thomas yn cael eu dedfrydu ar 19 Rhagfyr.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.