Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw 31 oed wedi ei charcharu am ymgais i gyflawni lladrad wedi iddi fynd mewn i Siop Gornel Pill gyda chyllell a mynnu arian gan weithwraig y siop.
Ymddangosodd Jessie Thompson yn Llys y Goron Abertawe wedi ei chyhuddo o ymgais i gyflawni lladrad a meddiant o erfyn llafnog yn dilyn y digwyddiad ar Orffennaf 11.
Clywodd y llys bod Thompson a’i chyd-droseddwr Bethan John, 25 oed, wedi cerdded i mewn i’r siop gyda mygydau dros eu hwynebau, yn chwifio cyllell cegin. Bygythiodd un o’r pâr y weithwraig gyda’r gyllell, a dweud ‘rho dy arian i gyd i fi’.
Amddiffynnodd gweithwraig y siop ei hun gyda chrât llaeth, a dihangodd Thompson a John o’r siop. Ni chafodd unrhyw arian nag eitemau eu dwyn.
Yn ddiweddarach galwodd aelod o’r cyhoedd Heddlu Dyfed Powys i ddweud bod bag o ddillad wedi cael ei daflu i’w ardd. Sefydlodd ymholiadau bod y rhain yn cyfateb i’r dillad yr oedd Thompson a John yn eu gwisgo, wedi iddynt gael eu hadnabod drwy recordiad teledu cylch cyfyng.
Wrth iddynt gael eu harestio, dwedodd Thompson a John eu bod yn mynd i’w hildio eu hunain, a dwedasant wrth swyddogion eu bod wedi taflu’r gyllell i glawdd ger Ystâd Mount.
Wedi iddi gyfaddef i’r troseddau, dedfrydwyd Thompson i dair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Plediodd John yn euog hefyd a bydd yn cael ei dedfrydu ar ddyddiad diweddarach.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dean Chilcott: “Rydym yn falch bod difrifoldeb y digwyddiad hwn wedi ei gydnabod gan y llys, a bod Thompson wedi ei dedfrydu’n briodol am y rhan a chwaraeodd.
“Mae’r siop hwn wedi cael ei dargedu’n gyson gan droseddwyr, tra bod y perchnogion a’r gweithwyr yn ceisio gwneud eu gwaith wrth ddarparu gwasanaeth ar gyfer y gymuned leol. Ni ddylent byth orfod ofni am eu diogelwch pan yn y gwaith, na bod mewn sefyllfa o orfod amddiffyn eu hunain rhag trais.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn anfon neges ein bod ni, ac y byddwn yn parhau i weithredu’n gadarn yn erbyn y rhai hynny sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau ofnadwy fel hyn.”