Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi ymgyrch ar gyfer gwneud rhedeg yn fwy diogel i fenywod y gaeaf hwn.
Mae Athletau Cymru wedi lansio Ein Nos Ni, sef ymgyrch genedlaethol sy’n cydnabod y pryderon sy’n tyfu ymysg menywod am eu diogelwch wrth redeg pan mae’n dywyll ac yn gobeithio eu lleihau.
Nod yr ymgyrch yw:
Mae Ein Nos Ni’n ceisio dod â rhedwyr, clybiau a’r cyhoedd at ei gilydd i greu amgylchedd mwy cynhwysol ar gyfer menywod sy’n rhedeg.
Dywed Hannah Baulch, Pennaeth Cyfranogiad Athletau Cymru: “Mae rhedeg yng Nghymru’n profi twf aruthrol ar hyn o bryd, gyda 293,000 o oedolion yn cymryd rhan yn rheolaidd drwy weithgarwch wedi’i drefnu a gweithgarwch anffurfiol. Rydyn ni wrth ein boddau bod rhedwyr benywaidd wedi cyfrannu i dros hanner ein ffigurau aelodaeth ers 2020. Mae’n anodd ailadrodd yr ystadegyn hwn mewn chwaraeon eraill.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n ymwybodol iawn bod rhedwyr benywaidd yn wynebu nifer o heriau yn ystod misoedd y gaeaf. Nid y tywydd oer neu ffyrdd llithrig yn unig ydyw. Mae’n ymwneud â diogelwch. Mae ymchwil gan This Girl Can yn dangos bod bron tri chwarter (72%) o fenywod yn y DU yn newid eu harferion o ran gweithgarwch awyr agored yn ystod y gaeaf, a datgelodd arolwg diweddar gan Our Streets Now bod 93% o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus wrth redeg. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac rydyn ni eisiau’ch cymorth chi i wneud newid cymdeithasol.
“Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i wneud ein strydoedd yn fwy diogel, ond rydyn ni hefyd eisiau cymunedau ledled Cymru i gefnogi drwy fod yn oleuni i redwyr eraill drwy eu parchu a herio ymddygiad gwael. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi’r ymgyrch hon, a bydd Timoedd Plismona Bro ac Atal yn ymweld â digwyddiadau a chlybiau lleol i siarad gyda rhedwyr am eu profiadau o redeg yn ystod misoedd y gaeaf.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wayne Bevan, arweinydd yr heddlu ar gyfer diogelu pobl sy’n agored i niwed yn Heddlu Dyfed-Powys: “Ni ddylai menywod deimlo bod yn rhaid iddynt newid eu harferion rhedeg yn ystod misoedd y gaeaf, ond yn anffodus, gwyddom fod nifer yn gwneud hynny. Mae pawb yn haeddu bod yn ddiogel, a theimlo’n ddiogel, ac nid yw’n iawn bod menywod yn ofni rhedeg ar hyd eu llwybrau arferol neu yn ystod eu hamser arferol pan mae’n tywyllu’n gynt gyda’r nos.
“Mae’n dda gennym gefnogi’r ymgyrch hon gan Athletau Cymru, a gobeithiwn y bydd yn grymuso menywod i barhau i redeg drwy fisoedd y gaeaf. Byddwn yn chwarae’n rhan ni drwy ymweld â chlybiau rhedeg lleol, digwyddiadau parkrun a digwyddiadau rhedeg er mwyn siarad â rhedwyr a gwrando ar eu pryderon.
“Dylai unrhyw un sy’n profi aflonyddu neu ymddygiad bygythiol wrth redeg adrodd amdano wrth yr heddlu fel ein bod ni’n medru ymchwilio iddo. Os ydych chi’n teimlo’n anniogel ar unrhyw un o’ch llwybrau rhedeg arferol o ganlyniad i’r amgylchedd, er enghraifft, golau gwael, adroddwch amdano drwy wefan StreetSafe.”
Mae StreetSafe yn galluogi pobl i adrodd am bryderon diogelwch, gan gynnwys materion megis strydoedd heb fawr o olau, adeiladau gadawedig neu fandaliaeth. Nid yw ar gyfer adrodd am droseddau.
Adroddwch am fater diogelwch fan hyn: StreetSafe | Heddlu Dyfed-Powys
Er mwyn adrodd am drosedd, gallwch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r ffyrdd canlynol:
Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
E-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, galwch 999.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a sut i gymryd rhan, galwch heibio i: https://www.welshathletics.org/cy/page/own-the-night