Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd parth cyfyngiad hedfan dros dro, yn effeithio’n benodol ar dronau, yn cael ei osod dros Ddinbych-y-Pysgod fel rhan o’r gweithrediad plismona yn ystod Ironman 2025.
Bydd cyfyngiad gofod awyr dros dro ar waith rhwng 3yb a 11yh ar y 21 o fis Medi 2025, sy’n golygu y bydd yn drosedd i unrhyw awyrennau di-griw i hedfan o dan 2,000 troedfedd uwch lefel y môr yn yr ardal dynodedig, heb ganiatâd penodol Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd defnyddwyr dronau sy’n hedfan o fewn y cyfyngiad gofod awyr sydd heb gael caniatâd yn cyflawni trosedd a gellid eu herlyn yn ogystal â chael eu hoffer wedi’i atafaelu.
Bydd y cyfyngiadau gofod awyr yn effeithio ar Systemau Awyrennau Di-griw (Unmanned Aircraft Systems – UAS) sy’n cyfeirio at dronau a’u defnyddwyr.
Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar gael ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (Civil Aviation Authority – CAA). Mae peilotiaid dronau hefyd yn cael eu hannog i wirio ffynonellau eraill o wybodaeth er engraifft NOTAM Info a Drone Safety Map, cyn hedfan.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno cael ystyriaeth ar gyfer hedfan drôn yn ddiogel ac yn briodol yn yr ardaloedd yma i gael caniatad wrth Heddlu Dyfed-Powys trwy yrru ebost i: [email protected]
Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar gael ar wefan yr Civil Avitation Authority (CAA): Drones | UK Civil Aviation Authority.