Stamp amser presennol: 21/07/26 14:20:18
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu Dyfed-Powys yn atgyfnerthu perthnasau gweithio cryf gyda phartneriaid er mwyn sicrhau haf diogel

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro
Cyhoeddwyd: 00:00 13/04/2026

Yn dilyn yr anhrefn treisgar a ddigwyddodd yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod nos Fawrth 7 Ebrill, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i weithio’n agos ag asiantaethau partner yn ystod misoedd yr haf er mwyn sicrhau diogelwch yn ein cymunedau ac ymagwedd gadarn tuag at droseddu treisgar. 

Bydd swyddogion yn gweithio’n agos â phartneriaid hirsefydlog megis Cyngor Sir Benfro, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, a gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru i roi tawelwch meddwl i bobl leol, perchnogion busnes a thwristiaid.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Louise Harries, Comander URS ar gyfer Sir Benfro: “Mae Dyfed-Powys yn gartref i rai o’r lleoliadau pertaf a mwyaf croesawgar yn y wlad. Mae ein preswylwyr yn ffodus i’w cael ar garreg eu drws, ac maen nhw’n denu miloedd o dwristiaid drwy gydol y flwyddyn. 

“O’r herwydd, nid ydym eisiau i fisoedd y gwanwyn a’r haf gael eu diffinio mewn unrhyw ffordd gan ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anhrefn treisgar yn digwydd, sydd yn ddealladwy’n creu ofn a phryder.

“Roedd yr hyn a ddigwyddodd yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod nos Fawrth 7 Ebrill yn gwbl annerbyniol. Ymatebodd Heddlu Dyfed-Powys yn syth ar ôl y digwyddiad, ond nawr, ein cydweithwyr yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sydd yn cael blaenoriaeth dros yr achos hwn ac maen nhw’n cynnal ymholiadau sy’n symud yn gyflym er mwyn sefydlu’r ffeithiau.

“Er ein bod ni’n cynnal perthynas gweithio cryf gyda’n partneriaid drwy gydol y flwyddyn, mae’r digwyddiad hwn, wrth gwrs, wedi annog gwaith arbenigol pellach ar y cyd er mwyn mynd i’r afael yn gadarn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddigwyddiadau treisgar, yn ogystal â sicrhau tawelwch meddwl ein cymunedau.”

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gall aelodau o’r cyhoedd ddisgwyl gweld presenoldeb heddlu amlwg mewn lleoliadau problemus o ran y digwyddiadau hyn, a fydd yn tawelu meddyliau ac yn atal troseddwyr posibl.

Os oes angen, bydd swyddogion yn arestio ac yn cyflawni erlyniadau mewn ymateb i unrhyw ymddygiad troseddol, yn ogystal â bod â’r pŵer i gyhoeddi gorchmynion o dan ddeddfwriaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys mynnu bod unigolion yn darparu eu manylion o dan Adran 50 Deddf Diwygio’r Heddlu, ac adrannau 34 a 35 y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, sy’n cyfeirio pobl i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Harries: “Yn ogystal, hoffwn estyn ein gwerthfawrogiad i’n cymuned leol a pherchnogion busnes am eu cymorth a’u cefnogaeth bob amser, nid dim ond ar ôl y digwyddiad treisgar yn Ninbych-y-pysgod.  Ein pobl leol a pherchnogion busnes yw asgwrn cefn ein cymunedau, ac rydyn ni’n cydnabod bod ymddygiad annerbyniol yn effeithio ar ysbryd cymunedol a bywoliaeth y busnesau hynny.

“Ni ddylai neb sydd â phryderon deimlo na all gysylltu â ni am gymorth, ni waeth pa mor fân maen nhw’n teimlo yw’r mater. Mae pob adroddiad i’r heddlu’n helpu i adeiladu cudd-wybodaeth a dealltwriaeth o ble mae angen inni bennu ein hadnoddau. Rydyn ni eisiau i’ch cymuned fod yn amgylchedd pleserus i dreulio amser ynddi, felly rhowch wybod inni am unrhyw bryderon.

“Mae’r adroddiadau rydyn ni wedi derbyn yn ein hystafell reoli, yn ogystal â sgyrsiau mae swyddogion wedi’u cael wrth batrolio ar droed, wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran ein helpu i greu darlun o sut y gallwn symud ymlaen.”

Dywedodd Richard Brown, Prif Swyddog Gweithredol Cynorthwyol Cyngor Sir Benfro: “Roedd y digwyddiad yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod yn destun pryder mawr, ac mae ein meddyliau gyda phawb a gafodd eu heffeithio ganddo. Yn ddealladwy, mae digwyddiadau o’r natur hwn yn achosi pryder i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

“Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner i gefnogi’r ymchwiliad sy’n mynd rhagddo a mynd i’r afael â materion ehangach sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hon yn her a rennir, ac mae atal effeithiol yn dibynnu ar adrodd cynnar, gwaith partneriaeth cryf ac ymyrraeth amserol.

“Byddem yn annog preswylwyr a pherchnogion busnes i adrodd am bryderon, a gofynnwn i rieni a gofalwyr bod yn ymwybodol o ble mae pobl ifainc yn treulio amser, yn arbennig gyda’r nos.

“Wrth inni agosáu at gyfnod yr haf, byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn chwarae ein rhan yn llawn ochr yn ochr â’r heddlu a phartneriaid i helpu i gynnal diogelwch ac ymddiriedaeth y cyhoedd.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jonathon Cooze o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Rydyn ni’n cydnabod y pryder a deimlir o fewn y gymuned yn dilyn y digwyddiad diweddar yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod, a hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod ein hymchwiliad yn datblygu’n gyflym.

“Ddoe (9/4), arestiwyd tri unigolyn arall yn eu harddegau ar amheuaeth o Niwed Corfforol Difrifol ac Anhrefn Treisgar, a chawsant eu rhyddhau’n ddiweddarach ar fechnïaeth. Mae bachgen 16 oed a dyn 19 oed a gafodd eu harestio’n flaenorol hefyd wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau ychwanegol yn parhau.

“Byddwn yn annog unrhyw un a oedd yn dyst i’r digwyddiad, neu’r digwyddiadau’n arwain ato, i gysylltu â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun at 61016 neu drwy alw 0800 40 50 40, gan ddyfynnu cyfeirnod 916 y 7fed o Ebrill.

“Gall preswylwyr ddisgwyl gweld mwy o swyddogion heddlu yn ardal Dinbych-y-pysgod dros y dyddiau nesaf. Bydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn parhau i weithio’n agos â Heddlu Dyfed-Powys, Trafnidiaeth Cymru ac asiantaethau partner eraill er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi tawelwch meddwl i’r gymuned leol.”

Bydd gan gwmni Trafnidiaeth Cymru dimoedd diogelwch ychwanegol mewn gorsafoedd ac ar drenau ledled gorllewin Cymru’r penwythnos hwn a thrwy fisoedd yr haf.

Dywedodd Simon Turton, Rheolwr Diogelwch Trafnidiaeth Cymru: “Yn ffodus, mae digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol yn anghyffredin, ac rydyn ni eisiau sicrhau ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr bod y rheilffordd yn le diogel i’r cyhoedd.

“Bydd gennym swyddogion diogelwch ychwanegol mewn gorsafoedd ac ar drenau, yn arbennig ar drenau sy’n rhedeg yn hwyr y nos ac mewn lleoliadau allweddol ar draws ein rhwydwaith.

“Mae TCC yn cefnogi’r presenoldeb ychwanegol hwn mewn gorsafoedd ac ar drenau, ac mae ein criw trên yn gwisgo camerâu corff.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.