Stamp amser presennol: 03/08/2026 05:14:29
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Swyddogion Gwarant Bro yn carcharu siopladron mynych

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 09:00 16/04/2026

Cafodd swyddogion gwarant bro ym Mhowys effaith gadarnhaol yn ystod eu mis cyntaf, gydag ymchwiliadau’n arwain at siopladron mynych yn cael eu carcharu.

Nododd y tîm siopladrata fel prif bryder, ac maen nhw eisoes wedi datrys 22 trosedd. Cyflawnwyd 15 o’r troseddau hynny gan dri throseddwr mynych. Cawsant eu cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa cyn derbyn cyfanswm o 37 wythnos o garchar.

Arweiniodd eu hymagwedd ragweithiol at y saith trosedd siopladrata arall yn cael eu datrys gyda gorchmynion datrys cymunedol neu addysg. Mae’r ymagwedd hon sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr yn anelu i atgyweirio niwed a achosir gan drosedd.

Mae’r swyddogion hyn wedi cael eu darparu drwy’r Warant Bro. Mae’r fenter hon yn defnyddio cyllid gan y Swyddfa Gartref i gynyddu adnoddau mewn plismona bro. Y nod yw helpu i gryfhau atal trosedd a diogelwch cymunedol.

Cyflwynodd y warant hon bum swyddog Plismona Bro ychwanegol i ardal Sir Drefaldwyn. Daethant yn weithredol ddechrau Mawrth ac maen nhw wedi canolbwyntio ar faterion cymunedol yn ystod eu mis cyntaf.

Maen nhw wedi bod yn patrolio yn ardaloedd siopa’r Drenewydd a’r Trallwng. Mae’r rhain wedi bod yn gymysgedd o batrolau amlwg a phatrolau mewn dillad cyffredin i aflonyddu ar droseddwyr. Mae’r swyddogion hefyd wedi cefnogi timoedd eraill â dod o hyd i droseddwyr perygl uwch yn y gymuned, galwadau pryderon lles, a gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Matthew Price o Heddlu Dyfed-Powys:  

“Mae hyn wedi bod yn ddechrau cadarnhaol iawn, ac mae’r manteision i’w gweld yn barod. Rwy’n hyderus y bydd y swyddogion yn cario’r momentwm hwn ymlaen ac yn parhau i greu cysylltiadau â phobl leol.

“Mae hyn wedi rhoi llwyfan da iddynt barhau i fynd i’r afael â materion cymunedol ac atal gweithgarwch troseddol gyda phlismona a arweinir gan gudd-wybodaeth. Bydd ymgysylltu cymunedol yn allweddol ar gyfer casglu’r wybodaeth hon ac mae’n dda gennyf weld bod hyn eisoes yn digwydd.”

Yn ogystal â’u hymchwiliadau a’u gwaith atal, ymwelodd y tîm â Choleg y Drenewydd i siarad â swyddogion posibl y dyfodol a hyrwyddo’r rhaglen Cwnstabliaid Gwirfoddol. Swyddogion Heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sydd â phwerau heddlu llawn, lifrai ac offer. Maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â SCCH a Swyddogion Heddlu llawn amser.

Mae’r heddlu’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer Cwnstabliaid Gwirfoddol, a byddai unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn ardal Trefaldwyn yn gweithio gyda’r tîm plismona bro newydd yn dilyn hyfforddiant. Cewch ragor o wybodaeth am Gwnstabliaid Gwirfoddol a’r broses ymgeisio ar Rôl Cwnstabl Gwirfoddol | Heddlu Dyfed-Powys

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.