Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn lansio ymgyrch haf wedi’i hanelu at ymgysylltu â chymunedau, busnesau ac ymwelwyr er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a threisgar dros fisoedd yr haf.
Mae Ymgyrch Lion yn ymgyrch flynyddol ragweithiol sy’n gweld Heddlu Dyfed-Powys, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Benfro yn cydweithio yn ystod tymor prysuraf y sir er mwyn cadw preswylwyr ac ymwelwyr yn ddiogel.
Bydd yr ymgyrch yn lansio yn Ninbych-y-pysgod, Llanusyllt a’r ardaloedd cyfagos yn ystod yr ŵyl gyhoeddus ddechrau Mai, ac yn para drwy’r haf.
Bob penwythnos, bydd swyddogion ychwanegol o’r Timoedd Plismona Bro ac Atal a Phlismona Ymateb yn mynd i leoliadau allweddol er mwyn atal y cynnydd posibl o ran trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dros yr haf, bydd nifer o ddigwyddiadau poblogaidd yn cael eu cynnal yn Ninbych-y-pysgod, gan gynnwys CARTEN, Taith Beiciau Modur y Bonheddwyr, Pencampwriaethau Firefly a regata hwylio Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod, penwythnos Cwrs Hir, y Sioe Haf ac IronMan Cymru, sydd, gyda’i gilydd, yn denu miloedd o dwristiaid, pobl ar wyliau ac athletwyr i’r dref.
Er bod y digwyddiadau hyn yn hwb mawr i’r ardal, mae’r mewnlifiad o ymwelwyr wedi arwain at fwy o alwadau i’r heddlu am wasanaeth yn ystod hafau blaenorol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Louise Harries, Comander URS Sir Benfro: “Heb os nac oni bai, mae’r haf yn amser prysur iawn ar gyfer yr heddlu a’n partneriaid ledled Sir Benfro, wrth inni weld cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’n trefi a’n traethau ledled yr ardal heddlu.
“Rydyn ni wedi sylwi bod y cynnydd o ran galw wedi dechrau’n gynt eleni. Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon ein cymunedau, ac ymateb drwy symud ein cynlluniau ar gyfer plismona ac ymgysylltu ymlaen.
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pawb – preswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd – yn gallu mwynhau’r ardal a’r digwyddiadau rydyn ni’n cynnal yma’n ddiogel, ac mae Ymgyrch Lion yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn.
“Dros yr ychydig fisoedd nesaf, gall aelodau o’r cyhoedd ddisgwyl gweld presenoldeb heddlu amlwg yn ein hardaloedd prysuraf, a fydd yn gweithredu fel presenoldeb cysurlon yn ogystal â ffactor ataliol ar gyfer troseddwyr posibl.
“Er bod Ymgyrch Lion yn ymwneud â gwaith yr heddlu a phartneriaid yn Ninbych-y-pysgod a Llanusyllt yn benodol, gall preswylwyr ledled Sir Benfro fod yn dawel eu meddyliau y bydd presenoldeb heddlu amlwg a phatrolau’n cael eu cynnal ledled y sir ac y bydd ein hymateb ar y cyd i unrhyw ddigwyddiadau’n parhau’n gryf a chadarn.”
Mae partneriaid hefyd wedi rhoi eu cynlluniau ar waith ar gyfer yr haf.
Dywedodd Richard Brown, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Benfro: “Mae Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod dal yn llefydd diogel, cyfeillgar a chroesawgar, lle mae miloedd o bobl yn dod bob blwyddyn i ymlacio, archwilio a mwynhau popeth sydd gan ein sir odidog i’w gynnig. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn gyfrifol a pharchus, gan helpu i greu’r awyrgylch cadarnhaol mae Sir Benfro’n enwog amdano.
“Mae’n dda gennym weld Ymgyrch Lion yn dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod, ochr yn ochr â gwell amlygrwydd a mwy o batrolau heddlu ledled y sir. Mae’r mesurau hyn yn ymwneud â thawelu meddyliau, cefnogi preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, a sicrhau bod pawb yn gallu parhau i fwynhau eu hamser yma â hyder.
“Gan weithio’n agos â’r heddlu a’n partneriaid, rydyn ni dal wedi ymrwymo i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymdrin yn gyflym ac effeithiol â’r lleiafrif bach a all ddewis ymddwyn yn anghyfrifol, fel bod Sir Benfro’n parhau’n le mae pobl wrth eu bodd yn ymweld ag ef a dychwelyd iddo.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Dros Dro Jonathan Cooze o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Bydd unrhyw un sy’n teithio i Ddinbych-y-pysgod ac yn ôl dros yr haf yn gweld swyddogion ar y rhwydwaith rheilffyrdd, yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid er mwyn darparu presenoldeb amlwg, sicrhau’r cyhoedd a helpu i atal anhrefn.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl drin staff rheilffyrdd a chyd-deithwyr yn gwrtais a pharchus, ac i rieni a gwarcheidwaid fod yn ymwybodol o ble mae eu plant yn mynd a beth maen nhw’n ei wneud.
“Mae ein ffocws ar helpu pawb i fwynhau eu teithiau a’u hamser yn yr ardal yn ddiogel a chyfrifol. Os fyddwch chi’n gweld rhywbeth sy’n eich poeni, adroddwch amdano yn syth drwy anfon neges destun at yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016, neu drwy siarad â swyddog heddlu neu aelod o staff rheilffordd.”
Ychwanegodd Simon Turton, Rheolwr Diogelwch Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n dda gennym gefnogi Ymgyrch Lion yn Ninbych-y-pysgod unwaith yn rhagor eleni, gyda diogelwch ychwanegol ar drenau ac mewn gorsafoedd rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin, ac arian ar gyfer goramser swyddogion heddlu i gadw ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn ddiogel.
“Mae Dinbych-y-pysgod yn le gwych am wyliau neu ddiwrnod allan, ac rydyn ni eisiau i bawb sy’n ymweld â’r dref ar y trên fedru gwneud hynny’n ddiogel.
“Mae gan ein holl drenau gamerâu TCC o safon uchel, a bydd ein staff sy’n gweithio ar y trenau’n gwisgo camerâu corff er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i deithwyr.
“Os fyddwch chi’n ymweld â’r dref eleni, mwynhewch mas draw, a pharchwch eich cyd-deithwyr, preswylwyr lleol a staff rheilffyrdd.”
Fel arfer, misoedd yr haf yw amser prysuraf y flwyddyn ar gyfer ystafell reoli’r heddlu, sy’n trin galwadau 999 ac 101 yn ogystal ag e-byst ac adroddiadau ar-lein, hefyd.
Bob dydd, mae trinwyr galwadau’n ateb miloedd o alwadau ffôn gan aelodau o’r cyhoedd yn gofyn am ein cymorth – weithiau mewn argyfwng, ac weithiau gan bobl sydd ddim angen cymorth brys.
Gall fod yn anodd barnu a yw’n argyfwng ai peidio. Yn gyffredinol, dylech alw 999 os:
⚠️ Mae perygl uniongyrchol o niwed i fywyd neu eiddo rhywun.
⚠️ Mae trosedd yn mynd rhagddo, neu mae'r troseddwr dal yn yr ardal gyfagos.
⚠️ Rydych chi wedi bod yn rhan o wrthdrawiad difrifol neu wedi gweld un, neu mae perygl ar y briffordd.
Os nad yw’r hyn rydych chi angen dweud wrthym yn dod o dan y categorïau hyn, rydyn ni nawr yn cynnig mwy o ffyrdd ar gyfer adrodd am drosedd difrys ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy cyfleus ichi gysylltu â ni.
Mae hyn yn cynnwys annog pobl i fynd ar-lein er mwyn cyflwyno adroddiadau difrys. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy effeithiol i’n cymunedau, a chynorthwyo’r rhai sydd angen cymorth mewn argyfwng.
Mae dal gennym wasanaeth ffôn 101 24 awr y gallwch alw os na allwch adrodd ar-lein.
Er mwyn adrodd am drosedd ar-lein, cliciwch yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/