Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Carcharu dyn o Lundain a gafodd ei ddal â 4.5 cilogram o ganabis mewn maes parcio yng Nghaerfyrddin am ddwy flynedd
Mae dyn wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar ar ôl cael ei ddal â dros 4.5 cilogram o ganabis a miloedd o bunnoedd mewn arian parod mewn maes parcio yng Nghaerfyrddin.
Plediodd Florin Kasmi, 37, o Golders Green, Llundain, yn euog i feddu â’r bwriad o werthu cyffuriau dosbarth B a meddu ar eiddo troseddol ar ôl iddo gael ei ddal â gwerth amcangyfrifol o £40,000 o gyffuriau a dros £12,700 mewn arian parod yng Nghaerfyrddin.
Ddydd Llun 3 Awst, llwyddodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ddod o hyd i Florin Kasmi mewn maes parcio ar Heol Dŵr Fach, Caerfyrddin, yn dilyn gwybodaeth bod ei gerbyd MG gwyn yn cael ei ddefnyddio i gludo cyffuriau o Loegr i ardal Sir Gaerfyrddin.
Ar ôl nodi patrwm teithio amheus yn ymwneud â'r cerbyd MG gwyn, fe wnaeth swyddogion gadw Kasmi o dan y ddeddf camddefnyddio cyffuriau i gynnal chwiliad.
Yng nghist y cerbyd, daeth swyddogion o hyd i becyn wedi’i lapio mewn bag bin du a oedd yn cynnwys swm mawr o ganabis wedi’i rannu rhwng pedwar bag. Yn y blwch menig, daeth swyddogion o hyd i fag plastig gwyn ag ysgrifen goch arno a oedd yn cynnwys dros £12,700 mewn arian parod hefyd.
Arestiwyd Kasmi ac aed ag ef i ddalfa’r heddlu.
Amcangyfrifodd arbenigwr cyffuriau gyda Heddlu Dyfed-Powys y gallai’r 4.54 cilogram o ganabis a atafaelwyd o gerbyd Kasmi fod â gwerth o tua £40,000 ar y stryd.
Ni wnaeth Kasmi unrhyw sylw yn ei gyfweliad, ond plediodd yn euog i feddu â’r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth B a meddu ar eiddo troseddol pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli’r diwrnod canlynol.
Ddydd Mawrth 18 Awst, dedfrydwyd Kasmi i ddwy flynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tom Morgan o Uned Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig Heddlu Dyfed-Powys: “Mae dosbarthu canabis yn aml yn dibynnu ar lefelau camfanteisio difrifol ar wahanol gamau yn y gadwyn gyflenwi.
“Mae cyflenwi canabis yn drosedd difrifol, a thrwy atal yr unigolion hyn, rydyn ni’n dileu cyffuriau niweidiol o’n strydoedd ac yn mynd i’r afael â’r rhwydwaith gyffuriau ehangach sy’n bodoli i gamfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed.
“Ni waeth ble rydych chi’n byw, os fyddwch chi’n dod â chyffuriau i mewn i ardal Dyfed-Powys, byddwch chi’n cael eich dal a’ch trin yn gadarn.
“Mae dedfryd Florin Kasmi yn amlygu ein hymrwymiad i wneud ardal Dyfed-Powys yn elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau.”