Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Mae bachgen 16 oed wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner wedi iddo ymosod ar athrawes tra roedd wedi ei arfogi â chyllell mewn ystafell ddosbarth.
Ar 5 Chwefror eleni, fe wnaeth y bachgen yn ei arddegau, a oedd yn 15 oed ar y pryd – ac na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol – ddilyn y dioddefydd i ystafell ddosbarth a gofyn am gymorth gyda gwaith cartref cyn ymosod arni.
Llwyddodd yr athrawes i ddiarfogi’r bachgen yn ei arddegau, fodd bynnag cafodd anafiadau a oedd angen eu trin mewn ysbyty. Yn ffodus, llwyddodd wella yn dilyn triniaeth.
Yng Ngorffennaf, cafwyd y bachgen yn euog o anafu bwriadol. Roedd eisoes wedi pledio’n euog i fod â chyllell yn ei feddiant.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Sarah Totterdale: “Yn dilyn y digwyddiad ofnadwy hwn yn Chwefror, aeth ein swyddogion yn gyflym i’r safle yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ynghyd â gwasanaethau brys eraill, a gosodwyd cyfyngiadau symud.
“Ychydig yn ddiweddarach, llwyddom ganfod ac arestio’r bachgen a oedd yn 15 oed ar y pryd, ac yn dilyn hynny cafodd ei gyhuddo ar 7 Chwefror.
“Mae’r dioddefydd yn yr achos hwn wedi dangos dewrder aruthrol, ac mae’n rhaid bod ail-fyw digwyddiadau’r diwrnod hwnnw yn ystod y treial wedi bod yn drawmatig dros ben. Rydym yn ddiolchgar am ei chymorth yn yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn gobeithio y gall gydag amser roi’r profiad erchyll hwn y tu ôl iddi.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i athrawon a myfyrwyr Ysgol Gyfun Aberdaugleddau a’r gymuned leol, a fydd hefyd wedi teimlo effaith y digwyddiad hwn yn fawr. Yn olaf, diolch i’n partneriaid yn y gwasanaethau brys a Chyngor Sir Penfro am eu cymorth, ac i aelodau’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth.”