Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Plediodd Daniel Rockett, 43, o Rhiwderyn Close, Caerdydd, yn euog i feddu â’r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a bod yn gysylltiedig â chyflenwi cocên yn Llys y Goron Abertawe heddiw (21 Awst).
Am oddeutu 11.45 o’r gloch nos Fawrth 21 Gorffennaf, stopiodd swyddogion plismona’r ffyrdd Sir Benfro gerbyd ar yr A4076 ger Johnston, Hwlffordd, yn dilyn gwybodaeth bod y car yn cael ei ddefnyddio i ddelio cyffuriau.
Gweithredoedd swyddogion ar dystiolaeth bod cerbyd Rockett - Nissan Qashqai arian - wedi teithio o Gaerdydd i Aberdaugleddau ar dri achlysur gwahanol yr wythnos cyn iddo gael ei arestio, gan aros yn yr ardal am gyn lleied â 10 munud cyn dychwelyd i Gaerdydd.
 rheswm i amau bod y teithiau rheolaidd hyn ar gyfer dibenion gwerthu cyffuriau, ymunodd ditectifs ac Eric, ci heddlu, â swyddogion plismona’r ffyrdd i chwilio’r cerbyd.
Yng nghist y car, daeth y tîm o hyd i 142g o gocên mewn bag ategolyn ffôn symudol a oedd wedi’i guddio yn yr adran ar gyfer olwyn sbâr.
Awgrymodd arbenigwr cyffuriau yn Heddlu Dyfed-Powys y byddai gwerth cymaint â hynny o gocên ar y stryd rhwng £14,240 a £17,800.
Arestiwyd Rockett ar amheuaeth o feddu â’r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, ac fe’i cyhuddwyd yn ddiweddarach a’i gadw yn y ddalfa.
Wrth chwilio ei gartref, daethpwyd o hyd i fwy o declynnau yn ymwneud â chyffuriau a symiau bach o ganabis a chocên. Cryfhaodd negeseuon testun a lawrlwythwyd o ffôn symudol Rockett yr achos bod Rockett yn gysylltiedig â chyflenwi cocên ymhellach.
Er ei fod wedi ceisio darbwyllo swyddogion ei fod yn cael ei fygwth i werthu cyffuriau i gychwyn, pleidiodd Daniel Rockett yn euog i’r cyhuddiadau o flaen y barnwr yn Llys y Goron Abertawe.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 10 Medi 2026.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Vinny Barrett: “Arweiniodd cryfder y dystiolaeth yn erbyn Rockett ato’n pledio’n euog heddiw, a chroesawn ei benderfyniad i dderbyn cyfrifoldeb am ei droseddu.
“Does dim esgus rhesymol dros ddod â chyffuriau i’n hardal heddlu, ac mae’r canlyniad hwn yn dyst i’n hymrwymiad i wneud ardal Dyfed-Powys yn elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau.
“Disgwyliwn ei ddedfryd.”