Stamp amser presennol: 25/08/2026 14:41:31
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae treisiwr plant lluosog wedi’i garcharu am 21 mlynedd

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:00 25/08/2026

Jordan Richards Jailed SM.jpg

 

Carcharwyd Jordan Richards, dyn 35 oed o Kidderminster, am 25 mlynedd ar ôl pledio’n euog yng nghanol yr achos i 36 trosedd rhywiol hanesyddol yn erbyn yr un plentyn.

Pleidiodd Richards yn euog yn wreiddiol yn Llys y Goron Abertawe. Dechreuodd y llys glywed am y cam-drin, gan gynnwys 31 achos o drais a dros 600 o ddelweddau anweddus o’r oroeswraig yn cael eu cynhyrchu, a ddigwyddodd yn ardal Rhydaman rhwng 2012 a 2016. Newidiodd ei ble ar ail ddiwrnod yr achos llys a chyfaddefodd ei fod yn euog o gyflawni pob trosedd.

Ymddangosodd Richards yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 21 Awst 2026 i gael ei ddedfrydu. Roedd y troseddau’n cynnwys:

  • 3 achos o ymosod ar ferch 15 neu 16 oed drwy dreiddio.
  • 10 achos o drais â cheg yn erbyn merch 15 oed.
  • 10 achos o drais â cheg yn erbyn merch 16 oed.
  • 10 achos o dreisio merch 17 oed.
  • 1 achos o dreisio merch 16 neu 17 oed drwy’r waun.
  • 1 achos o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn 13 i 15 oed.
  • Cynhyrchu dros 600 delwedd anweddus o blant

Ystyriodd y barnwr fod troseddu Richards yn ‘greulon ac ynysol’. Dywedodd fod y ffordd y tynnwyd y delweddau anweddus yn tanlinellu’r pleser a gymerodd Richards yn ‘ei agwedd chwantus a mochaidd tuag at yr oroeswraig. Cydnabu’r ‘effaith ddwys a pharhaol ar yr oroeswraig a’i theulu’ cyn cyflwyno ei ddedfryd.

Rhoddwyd dedfryd estynedig o garchar o 25 mlynedd i Richards, sy’n cynnwys 21 mlynedd o garchar a chyfnod estyniad o 4 blynedd. Yn ogystal, bydd ganddo Orchymyn Atal Niwed Rhywiol amhendant, gorchymyn atal amhendant yn erbyn goroeswraig ei gam-drin, a rhaid iddo hysbysu am oes o dan y Ddeddf Troseddwyr Rhywiol.  

Dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock o Heddlu Dyfed-Powys:

“Hoffwn gymryd y cyfle i dynnu sylw at ddewrder goroeswraig y cam-drin hwn. Dioddefodd gam-drin rhywiol ffiaidd drwy ofn a rheolaeth dan law Richards. Mae’n cymryd dewrder aruthrol i ddod dros hynny a dod ymlaen i roi tystiolaeth. Diolch i’w gwydnwch hi drwy’r ymchwiliad, bydd Jordan Richards yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar. Rwy’n mawr obeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi synnwyr o gyfiawnder a heddwch iddi ac yn ei galluogi i symud ymlaen â’i bywyd.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Morgan, a’r holl staff arbenigol yn ein Huned Fforensig Digidol. Heb os nac oni bai, mae eu hymdrechion nhw o ran sicrhau a chyflwyno’r dystiolaeth allweddol yn yr achos hwn wedi arwain at y ple euog a gafwyd yn y pen draw.

“Rwy’n gobeithio bod yr euogfarn hon yn dangos i oroeswyr eraill, sydd heb ddod ymlaen eto, y gellir sicrhau cyfiawnder ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio. Bydd ein swyddogion arbenigol yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr trais rhywiol annibynnol o sefydliad Llwybrau Newydd i’ch cefnogi’n dosturiol drwy’r broses."

Mae’r oroeswraig yn yr achos hwn wedi croesawu dedfryd Richards, ac yn dymuno rhannu’r canlynol:

“Hoffwn ddweud fy mod i’n fodlon â chanlyniad y ddedfryd heddiw. Mae’r ymchwiliad wedi bod yn un hir, ac yn sicr, mae’r baich arnaf wedi bod yn drwm. Rwyf am ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys am yr holl amser, ymrwymiad a chefnogaeth maen nhw wedi rhoi imi drwy gydol y broses, ac, yn bwysig iawn, am wneud imi deimlo’n ddiogel.

"Hoffwn ddiolch a dangos fy ngwerthfawrogiad hefyd i’r Ditectif Gwnstabl Phil Morgan, fy ngweithiwr achos, sydd wedi dangos penderfynoldeb ac wedi gweithio’n galed drwy gydol yr achos, ynghyd â’r Ditectif Ringyll Carl Pocock, sydd hefyd wedi gweithio mor galed i sicrhau canlyniad heddiw.

"Rwyf hefyd eisiau diolch yn arbennig i sefydliad Llwybrau Newydd, sydd wedi bod yno bob cam o’r ffordd, ac sy’n parhau i’m cefnogi.

"Nid yw’r achos hwn wedi bod yn hawdd o gwbl, ond byddwn yn annog pobl sydd heb ddod ymlaen eto i adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt oherwydd cewch eich clywed a’ch cefnogi.

"Nid dioddefwyr ydym, ond goroeswyr.”

Gall unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rywiol gysylltu â Llwybrau Newydd, sy’n cynnig cymorth arbenigol, ar newpathways.org.uk. Gellir adrodd wrth Heddlu Dyfed-Powys ar 101, neu 999 mewn argyfwng, neu’n ddienw trwy Crimestoppers ar 0800 555 111.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.