Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r cyn gwnstabl heddlu Jennifer (Jenny) Jenkins, o Aberystwyth, ymysg y rhai a anrhydeddwyd gan Orsedd Cymru yn nigwyddiad eleni yn Llantwd, Sir Benfro.
Anrhydeddwyd unigolion o bob cwr o Gymru am eu cyflawniadau a’u hymrwymiad i Gymru, y Gymraeg a chymunedau lleol ledled y wlad. Rhoddir Derwydd Anrhydeddus - gwisg las - iddynt am eu gwasanaeth i Gymru ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, a gweithgareddau lleol a chenedlaethol.
Mae Jenny wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon am ei chyfraniad gwirfoddol neilltuol i waith elusennol, yn lleol ac yn rhyngwladol.
O fynd â chymorth hanfodol i Wcráin ers 2022, gan wneud dwsinau o deithiau’n casglu a dosbarthu bwyd ac offer meddygol, i wirfoddoli gyda Chanolfan Gymunedol Penparcau yn ystod COVID, mae dewrder ac ymroddiad Jenny wir yn glod i Gymru.
Ar ôl ymddeol o Heddlu Dyfed-Powys yn 2015 wedi gweithio fel swyddog ymateb am chwarter canrif, roedd Jenny’n gwybod bod helpu eraill wrth wraidd popeth mae’n gwneud. Meddai:
“Rhoddodd fy amser gyda Heddlu Dyfed-Powys y penderfynoldeb imi wneud gwahaniaeth. Dangosodd plismona imi fy mod i’n gallu gwneud pethau na fyddwn i erioed wedi meddwl sy’n bosibl.
“Fel swyddog heddlu, eich dyletswydd gyntaf yw cefnogi pobl, a rhoddodd fy amser ar y bît yr ysgogiad imi fod eisiau cefnogi eraill ar raddfa ehangach.”
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae Jenny’n defnyddio ei Chymraeg cymaint â phosibl, hyd yn oed mewn ysgolion a chymunedau yn ystod ei theithiau dros y blynyddoedd.
Gan esbonio pwysigrwydd ei magwraeth Gymreig, dywedodd Jenny:
“Rwy’n fach iawn o fod yn Gymraes, o’m hiaith a’m treftadaeth, a braint oedd cael fy nghydnabod ochr yn ochr â chymaint o bobl eraill.
“Dysgais Gymraeg drwy fy nhad-cu a mam-gu, a chefais fy magu â phwysigrwydd cadw’r iaith a hanes yn fyw. Nid yn unig hynny, rwy’n credu bod Cymru’n cael ei hadnabod yn Wcráin oherwydd mae hanes hir o Gymreictod, a chyfeillach rhwng Cymru ac Wcráin, ac mae’r cwlwm hwnnw dal yn gryf.
“Yn ystod streic glowyr y 1980au, clywodd glowyr Wcráin am dlodi cymoedd Cymru – pobl yn mynd heb fwyd, heb ddillad, plant ddim yn cael anrhegion Nadolig – ac roeddent yn anfon pecynnau gofal yn gyson atynt. Mae bod yn rhan o ddychwelyd y caredigrwydd hwnnw i bobl Wcráin yn dod â llawenydd a balchder mawr imi.
“Rwy’n siarad Cymraeg cymaint â phosibl. Unwaith, yn y gerddi botaneg yn Kiev, rhoddais araith yn Gymraeg. Roedd pawb yn gwrando arnaf, ac roeddent wedi synnu at yr iaith hardd hon. O’r holl ieithoedd yn y byd, pan mae pobl yn clywed Cymraeg, mae pawb yn edrych arnoch chi, oherwydd maen nhw’n meddwl, ‘O, mam fach! Beth yw’r iaith honno?’ Maen nhw wrth eu boddau!”
Ynghyd â’r gefnogaeth mae Jenny wedi derbyn yn ystod ei gwaith yn Wcráin, canmolodd y cyn gwnstabl heddlu ei chymuned leol am eu hymdrechion:
“Yr hyn sydd hefyd yn fy ngwneud i’n falch yw’r ffordd mae fy nghymuned leol yn Aberystwyth yn dod at ei gilydd i gefnogi fy ymdrechion a rhoi’r hyn maen nhw’n gallu,” meddai.
“Mae gennyf fenywod 80 a 90 oed hyd yn oed yn dweud, ‘Gallwn ni ddim gwneud dim byd arall, ond fe wnawn ni wau.’ Ac maen nhw’n gwau a gwau imi, gan wneud ‘tedis trawma’ gydag enwau Cymreig oherwydd maen nhw’n dod yn eicon cadarnhaol i’r plant.
“Rwy’n falch iawn o Gymru. Ry’n i ond yn wlad o dair miliwn a hanner o bobl, ond ry’n ni’n wlad nerthol â galluoedd arbennig. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o hynny.”
Os hoffech gefnogi Apêl Jenny (Penparcau4UA), anfonwch neges ati drwy ei chyfrif Facebook personol.