Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gan ganolbwyntio ar fannau problemus lleol yn ardaloedd Heol yr Orsaf, Doc y Gogledd a Phenyfan, atafaelodd swyddogion 12 e-sgwter ac un e-feic a ddefnyddiwyd yn anghyfreithlon ddydd Mercher 12 Awst.
Dangosodd canlyniadau arolwg Cyswllt Dyfed-Powys mai’r defnydd o e-feiciau ac e-sgwteri yw’r prif fater yr adroddwyd amdano yn lleol ers mis Gorffennaf.
Gan weithio ochr yn ochr ag uned plismona’r ffyrdd Sir Gaerfyrddin, ffurfiodd yr ymgyrch ran o’u hymateb i’r broblem a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i wella diogelwch y ffyrdd, gwarchod cerddwyr, a mynd i’r afael â’r defnydd anghyfreithlon o gerbydau trydan mewn mannau cyhoeddus.
Rhannodd y Rhingyll Tom Grace o’r Tîm Plismona Bro ac Atal Lleol:
“Nid atafaelu cerbydau o’r fath yw ein nod. Mae ein hymgyrchoedd yn canolbwyntio ar dair elfen allweddol; addysg o gwmpas y gyfraith, atal gwrthdrawiadau a chadw pawb sy’n defnyddio ffyrdd a mannau cyhoeddus Llanelli’n ddiogel.
“Mae defnyddio e-sgwteri ac e-feiciau’n cyflwyno perygl gwirioneddol i’r reidwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
“Os ydych chi’n ystyried prynu neu ddefnyddio e-sgwter neu e-feic, sicrhewch eich bod chi’n deall y gyfraith yn gyntaf. Hyd yn oed ar wefannau masnachwyr stryd fawr adnabyddus, yn aml, byddant yn tynnu’ch sylw at y gyfraith, gan roi rhybudd cyfreithiol ichi cyn ichi hyd yn oed ychwanegu un i’ch basged.
“Gall reidwyr sy’n defnyddio e-sgwter yn anghyfreithlon wynebu dirwy neu bwyntiau cosb, neu gall eu sgwter gael ei atafaelu. Cofiwch, gellir ond eu defnyddio ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir.
“Er nad yw pob e-feic yn anghyfreithlon, rhaid iddo fodloni’r gofynion ar gyfer beic pedal a gynorthwyir yn drydanol, neu fe all gael ei drin fel cerbyd modur.
“Helpwch ni i gadw’r gymuned yn ddiogel. Os ydych chi’n poeni am y defnydd o e-sgwteri neu e-feiciau, adroddwch amdano wrthym drwy:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
💬 | Danfon neges uniongyrchol i ni ar y cyfryngau cymdeithasol
📞 | 101