Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
CARCHAR | Carcharu dyn o Sir Gaerfyrddin am gipio a rhoi cyffur i ferch yn ei harddegau
Mae Richard Knight, 73 oed, o Bentywyn, Sir Gaerfyrddin, wedi ei garcharu am tair blynedd a naw mis ar ôl cyfaddef i gipio merch yn ei harddegau, gwneud delweddau anweddus o blant, a bod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun 11 Ebrill 2022, gan fam a oedd yn poeni am les ei merch 15 oed. Y noson honno, gwnaeth y ferch alwad drallodus i’w mam, yn dweud ei bod hi eisiau dod adref ar ôl cymryd cyffuriau yn nhŷ Richard Knight.
Aeth yr heddlu i’r cyfeiriad yn syth, ond ni atebodd neb y drws. Gyda phryder yn cynyddu am y ferch ifanc, defnyddiodd swyddogion rym i gael mynediad i’r eiddo. Gwelsant ychydig o ganabis yn cael ei dyfu, ond doedd neb yn yr eiddo.
Daeth swyddogion yn ymwybodol fod Knight wedi defnyddio ei gar i fynd â’r ferch adref. Wedi hynny, dychwelodd Knight i’w gyfeiriad cartref, lle y cafodd ei arestio gan swyddogion ar amheuaeth o yfed a gyrru, meddu ar ganabis â’r bwriad o gyflenwi, a chyflenwi canabis i’w dioddefydd ifanc.
 Knight wedi’i gymryd i ddalfa’r heddlu, yn ystod chwiliad arall o’r eiddo, daethpwyd o hyd i amryw o gyffuriau a reolir y credwyd eu bod yn cael eu cadw at ddefnydd personol. Atafaelwyd sawl dyfais ddigidol o’r tŷ hefyd.
Yn ystod cyfweliad, dywedodd y dioddefydd wrth swyddogion ei bod hi’n credu fod Knight yn gwybod ei bod hi’n 15 oed, er ei bod hi wedi cytuno i gwrdd ag ef, a’i fod hefyd yn gwybod na fyddai’n dweud wrth ei mam i ble’r oedd hi’n mynd.
Dywedodd wrth swyddogion am y cyffuriau amrywiol a roddwyd iddi, a bod rhai wedi’u rhoi iddi ar losinen. Dangosodd ymholiadau TCC Knight yn y siop Spar leol yn prynu losin y prynhawn hwnnw, cyn casglu’r ferch a’i gyrru i’w dŷ.
Arweiniodd archwiliad fforensig trylwyr o’r cyffuriau a’r dyfeisiau a atafaelwyd o’r tŷ at y drwgdybyn yn cael ei arestio ymhellach ym mis Rhagfyr 2022.
Daeth gwaith a wnaed gan yr Uned Gwaith Fforensig Digidol o hyd i 1101 o ddelweddau anghyfreithlon ar ddyfeisiau Knight, gyda 122 ohonynt yn ddelweddau categori A – y math mwyaf difrifol o ddelwedd anweddus.
Dywedodd arbenigwyr cyffuriau yn Heddlu Dyfed-Powys fod gwerth y canabis a oedd yn tyfu yn ei eiddo rhwng £6,000 a £20,000. Yn ogystal â’r canabis, atafaelodd swyddogion chwe math gwahanol o gyffuriau Dosbarth A o’r cyfeiriad.
Yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth, cyhuddwyd Knight â 12 trosedd, gan gynnwys cipio plentyn, meddu ar ddelweddau anweddus o blant, a bod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau a reolir.
Cyfaddefodd Knight i’r troseddau cyffuriau ar 10 Ebrill 2025 ac fe gyflwynodd pledion euog pellach am y tri achos o wneud delweddau anweddus o blant yn yr ail wrandawiad ar 12 Mai 2025.
Gwadodd y diffynnydd y cyhuddiad o gipio plentyn, ac roedd yr achos llys fod cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 12 Ionawr 2026. Newidiodd Knight ei ble yn union cyn i’r achos llys gychwyn.
Heddiw, dedfrydwyd y dyn 73 oed i tair blynedd a naw mis o garchar.
Dywedodd y swyddog sy’n ymchwilio i’r achos hwn, y Ditectif Gwnstabl Jon Gouldson: “Roedd hwn yn achos difrifol iawn a oedd yn ymwneud â dyn a wnaeth feithrin perthynas amhriodol gyda merch ifanc agored i niwed ar gyfer ei bleser ei hun.
“Does dim dwywaith fod Richard Knight yn gwybod nad oedd mynd â’r ferch 15 oed hon i’w gartref yn iawn, a’i fod cyfystyr â chipio plentyn yn y pen draw.
“Mae cymryd plentyn heb ganiatâd rhiant yn drosedd. Does dim meysydd aneglur fan hyn.
“Mae’n anghyfreithlon cymryd, neu gadw, plentyn o dan 16 heb ganiatâd ei riant neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.
“Rydyn ni’n croesawu dedfryd heddiw ac eisiau bod yn glir bod trefnu i gipio plentyn heb ganiatâd rhiant, neu greu/meddu ar ddelweddau anweddus o blant, yn anghyfreithlon, a bod canlyniadau difrifol i hyn.
“Mae canlyniad heddiw’n dangos y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ymchwilio i’r troseddau hyn a dwyn troseddwyr o’r fath i gyfiawnder.”
Os ydych chi’n poeni am eich meddyliau, teimladau neu ymddygiad tuag at blant dan oed, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae cymorth ar gael.
Mae Ymddiriedolaeth Lucy Faithfull yn cynnal gwaith allweddol i atal ymddygiad troseddol posibl drwy ymgysylltu ag oedolion sy’n cydnabod eu bod nhw’n cael meddyliau rhywiol am blant.
Cewch ragor o wybodaeth fan hyn: Stop It Now – Atal cam-drin plant yn rhywiol