Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
DEDFRYD | Dedfrydu dyn a dreuliodd dwy flynedd ar ffo yn dilyn ymosodiad cemegol.
Mae Dean Mayze wedi’i ddedfrydu i 18 mis yn y carchar, ar ôl iddo bledio’n euog i achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn ymosodiad cemegol a niweidiodd dyn yn ddifrifol ym mis Rhagfyr 2022.
Arestiwyd y dyn busnes 38 oed o Aber-craf gan heddlu Rwmania ddydd Gwener 19 Medi 2025 ar ôl i warant ryngwladol gael ei chyhoeddi ar gyfer ei arést.
Clywodd y llys sut yr oedd Dean Mayze, perchennog busnes, wedi ymosod ar westai a oedd yn aros yn ei encilfa ysbrydol, Hafan-y-Coed, yn Aber-craf, ar ôl i’r ddau ddechrau cweryla.
Dywedwyd bod sylwedd cemegol a ddisgrifir fel ‘alcalin cryf iawn’ wedi’i dynnu o boced Mayze yn ystod y cweryl, a’i daflu at lygaid, trwyn a cheg y dioddefydd.
Er gwaethaf ymdrechion taer y dioddefydd i olchi’r cemegyn i ffwrdd, bu’n rhaid iddo fynd i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w wyneb, gan gynnwys colli rhan o’i amrant, a oedd angen misoedd o driniaeth.
Aeth Heddlu Dyfed-Powys ati i arestio Mayze fel rhan o’u hymchwiliad, ond yn ddiweddarach, cawsant wybod bod y drwgdybyn wedi dianc o’r wlad.
Treuliodd Mayze dros ddwy flynedd yn osgoi’r heddlu wrth iddo deithio drwy dir mawr Ewrop, a hynny tra’n wynebu cyhuddiadau troseddol difrifol nôl yn y DU.
Fel rhan o’r ymgais i ddianc rhag yr heddlu, aeth Jemma Webb, partner Mayze a chydberchennog yr encilfa ysbrydol, at yr heddlu a chyfaddef ei bod hi wedi taflu’r cemegyn a niweidio’r dioddefydd.
Darganfu ymholiadau pellach gan yr heddlu fod Webb wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Mayze, a’i bod hyd yn oed wedi teithio i Ewrop i ymweld ag ef. Yn ddiweddarach, cafodd ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Dedfrydwyd Webb, 38 oed, i wyth mis o garchar, wedi’i atal am 18 mis.
Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddwyd gofyniad post i Mayze i ateb cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol â bwriad, ond ni ymddangosodd yn ei wrandawiad llys.
Parhaodd ymholiadau arést, ac yn y diwedd, daethpwyd o hyd i Mayze yn Rwmania, lle y cafodd ei arestio cyn cael ei anfon nôl i’r DU. Cafodd ei gadw ar remand yn y ddalfa ddydd Gwener 20 Medi.
Ymddangosodd Mayze yn y llys ar 13 Ionawr 2026, lle y gwadodd y cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol â bwriad. Yn hytrach, plediodd yn euog i gyhuddiad llai, sef achosi niwed corfforol difrifol, a gafodd ei dderbyn yn y gwrandawiad.
Heddiw, yn Llys y Goron Abertawe, dedfrydwyd Mayze i 18 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Christine Beaton: “Mae dedfryd heddiw’n nodi canlyniad ymchwiliad hir a chymhleth, gan ddwyn Dean Mayze gerbron y llys i wynebu canlyniadau ei weithredoedd ffiaidd yn 2022.
“Rwyf eisiau diolch i’r tîm ymchwilio a weithiodd yn ddiflino i ddod â Mayze nôl i’r DU, ac i’r cyhoedd am rannu ac ymateb i’n hapêl i ddod o hyd i’r troseddwr peryglus hwn.
“Ni fyddwn yn dioddef unrhyw fath o drais yma yn Nyfed-Powys, ac mae’r canlyniad hwn yn dangos y byddwn yn erlid troseddwyr o’r fath yn ddiflino.”