Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym 1953, cerddodd Jean Evans y bît ar ei phen ei hun.
Dim radio, dim swyddogion wrth gefn.
Dim ond chwiban a’r hyder i’w ddefnyddio.
Ar #DdiwrnodRhyngwladolyMenywod eleni, ry’n ni’n dathlu menywod sy’n ysbrydoli, yn arwain ac yn cefnogi o fewn plismona i gryfhau cymunedau; tra’n adlewyrchu ar 70 mlynedd o newid drwy lygaid y fenyw ddaeth yn Rhingyll Heddlu – ein Rhingyll Heddlu benywaidd cyntaf – ym 1958.
Ar 6 Mawrth, siaradom â Jean Evans i adlewyrchu ar ei chyfnod yn gwasanaethu’r heddlu yn ystod ei hymweliad coffaol â’r Pencadlys. Cynigiodd adlewyrchiadau a chyngor ar gyfer dyfodol menywod mewn plismona.
“Roeddech chi’n mynd allan ar ben eich hun…y cyfan oedd gyda chi oedd chwiban a hyfforddiant, ac roeddech chi’n gobeithio’r gorau.”
Ymunodd Jean, sydd o San Clêr, â Chwnstabliaeth Sir Gaerfyrddin ym 1953, yn 21 oed, ar ôl gweld hysbyseb yn y papur lleol. Roedd Jean yn un o ddim ond tair neu bedair menyw i ymgeisio, ac ar ôl mynd i gyfweliad ar Heol y Brenin gyda’r Prif Gwnstabl T.H Lewis, daeth yn “swyddog heddlu benywaidd”.
Yn ystod ei chyfweliad, soniodd y Prif Gwnstabl am yr angen ar gyfer rhingylliaid heddlu benywaidd, ac o’r eiliad honno, dyna oedd ei huchelgais.
Ym 1958, cafodd ei dyrchafu’n rhingyll heddlu gyda Chwnstabliaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi – y fenyw gyntaf yn yr heddlu i gael ei dyrchafu i’r rheng hon.

Yn y 1950au, roedd disgyblaeth yn llym. Roedd disgwyl i swyddogion heddlu benywaidd gadw eu gwallt yn fyr a chawsant eu gwahardd rhag gwisgo gemwaith a thynnu eu hetiau i ffwrdd yn gyhoeddus.
“Roedd hi’n hanfodol edrych yn drwsiadus. Byddech chi’n cael eich cosbi pe baech chi’n cael eich gweld heb eich het.”
Gan arwain drwy esiampl mewn maes lle’r oedd gwrywod yn goruchafu, roedd Jean yn gyfrifol am 16 o swyddogion heddlu benywaidd mewn gorsafoedd megis Aberystwyth, Rhydaman a Llanelli, gan eu cefnogi drwy arholiadau bwrdd, dilyniant a datblygiad proffesiynol.
“Nid oedd plismyn uwch yn derbyn cyflwyniad swyddogion benywaidd cymaint â’r plismyn iau. Roedd yn rhaid ichi brofi’ch lle yn y swydd.
“Nid oeddent wedi arfer cael menywod mewn gorsafoedd, ac roedd y rhai a oedd yn briod yn poeni y byddai eu gwragedd yn credu y byddent yn cambihafio – a oedd yn hollol hurt!”

Fel Rhingyll, prif ddyletswyddau Jean oedd ymdrin â menywod a phlant lleol yn bennaf drwy gyfweld â dioddefwyr bregus noethni cyhoeddus, galwadau domestig ac ymddygiad meddw ac afreolus.
“Roeddech chi’n mynd ar ben eich hun. Doedd dim plismon arall gyda chi…ac nid oedd gennyf radio. Y cyfan oedd gyda chi oedd chwiban a hyfforddiant, ac roeddech chi’n gobeithio’r gorau.
“Byddwn i’n aml yn ymweld â’r 39 tafarn yn y dref, yn enwedig ar nosweithiau Sadwrn, i fonitro yfed dan oed ac iaith anweddus er mwyn sicrhau trefn o fewn y gymuned.
“Roeddwn i’n caru fy swydd. Bod allan ar y bît drwy’r dydd. Weithiau, os oedd rhywun dieithr yn y dref, byddwn i’n ymwybodol ohono oherwydd roeddem yn adnabod pawb fwy neu lai.”
Un o’r digwyddiadau trosedd mawr cyntaf roedd Jean yn gysylltiedig ag ef oedd llofruddiaethau John a Phoebe Harris ym Mhentywyn ym 1953.
Cafwyd eu nai, Ronnie Harris, yn euog o’u llofruddio, ac ef oedd y carcharor olaf ond un i gael ei ddedfrydu i farwolaeth drwy grogi yng Ngharchar Abertawe ym 1954.
“Roeddwn i yn y llys drwy gydol y treial i gefnogi’r teuluoedd yn y gweithdrefnau llys a gwelais ef yn cael ei ganfod yn euog o lofruddiaeth.
“Roeddwn i’n adnabod Ronnie drwy fy swydd flaenorol yn gweithio mewn siop leol, a than y ddedfryd, doeddwn i ddim wedi sylweddoli fy mod i wedi mynd i’r ysgol ramadeg gyda’i wraig.”

Pan ofynnwyd iddi pa gyngor fyddai hi’n rhoi i fenywod sy’n mynd mewn i’r maes plismona, neu sy’n gweithio yn y maes plismona nawr, mae ei chyngor yn syml ond yn bwerus.
“Gwnewch yn siŵr fod y gymuned yng nghraidd eich dyletswyddau. Gwybodaeth leol a cherdded y bît oedd fy mlaenoriaeth i bob amser. Gwnewch eich gorau glas a byddwch yn gwrtais bob tro.”
I’r Prif Uwch-arolygydd Jolene Mann mae’r diolch am ymweliad Jean â’r Pencadlys mewn confoi. Meddai:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni’n ein hatgoffa ein bod ni’n elwa wrth roi.
“Mae menywod fel Jean wedi helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer arweinwyr benywaidd fel fi. Fe wnaeth eu penderfynoldeb agor drysau, ac rwy’n falch o fod wedi chwarae fy rhan o ran cadw’r drysau hynny ar agor i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
“Drwy fentora, hyfforddi a chefnogi menywod ar draws rolau swyddogion a staff, rydyn ni’n parhau i ddatblygu sefydliad sydd wir yn gynhwysol – un sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Pan rydyn ni’n rhannu ein profiadau a’n gwybodaeth, ac yn annog a chefnogi ein gilydd yn weithredol, rydyn ni’n cryfhau ein gweithlu ac yn gwella’r gwasanaethau rydyn ni’n darparu i ddioddefwyr a’n cymunedau.
“Rwyf wedi ymrwymo i roi nôl ac ysbrydoli menywod – o fewn a thu allan i’r maes plismona – i weld y proffesiwn hwn fel lle lle y gallant dyfu, arwain a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Mae amgylchedd plismona heddiw wedi newid yn sylweddol ers dod yn flaengar yn dechnolegol, ac yn fwy amrywiol, ac mae’n cynnig cyfleoedd ehangach ar gyfer datblygu, ond mae’r sylfeini’n parhau’r un fath: arwain gyda gwirionedd, unplygrwydd a dewrder.
Mae etifeddiaeth Jean yn parhau, nid yn unig yn y rheng y cyrhaeddodd hi, ond mewn cyfleoedd sydd nawr ar agor i bob menyw sy’n dewis gwisgo’r lifrai.