Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr wythnosau diweddar, mae’r heddlu wedi derbyn llif o alwadau’n adrodd am grwpiau mawr o bobl ifainc yn ymgasglu mewn lleoliadau penodol, gan gynnwys adeilad hen Ysgol Tasker Milward, lle mae ymddygiad wedi achosi aflonyddu, braw a gofid i breswylwyr a pherchnogion busnes lleol.
Bu pryderon hefyd o gwmpas yfed alcohol, ac achosion lle mae pobl ifainc wedi dioddef anafiadau wrth dresmasu ar safleoedd adeiladu sydd ddim yn cael eu defnyddio.
Mae timoedd plismona bro ac atal yn cynnal patrolau ychwanegol ac yn gweithio’n agos ag asiantaethau partner a busnesau lleol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
Mae Cyngor Sir Benfro’n cynyddu diogelwch cyffredinol adeilad hen Ysgol Tasker Milward, gan gynnwys ystod o fesurau ar gyfer cefnogi lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherygl difrifol o niwed.
Bydd hyn yn cynnwys cynyddu a disodli byrddau sydd wedi’u difrodi, paneli ffensio, ychwanegu paent gwrth-ddringo a stripiau amddiffyn, a chlirio’r safle o unrhyw rwbel.
Mae adnoddau plismona ychwanegol, gan gynnwys swyddogion ymateb ac unedau arbenigol, hefyd wedi’u pennu er mwyn darparu ymateb cadarnhaol i’r broblem gynyddol.
Mae swyddogion yn defnyddio ystod o bwerau sydd ar gael iddynt o dan ddeddfwriaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys mynnu bod unigolion yn rhoi eu manylion o dan Adran 50 Deddf Diwygio’r Heddlu a chyfeirio unigolion i adael ardal am hyd at 48 awr o dan adrannau 34 a 35 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona.
Lle mae tramgwyddau troseddol yn cael eu hadnabod, cymerir camau gweithredu cadarnhaol, a lle bo’n briodol, dilynir euogfarnau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Louise Harries, Comander URS Sir Benfro: “Ni ellir tanbrisio effaith yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn ar ein cymunedau a busnesau lleol. O’r herwydd, rydyn ni eisiau sicrhau preswylwyr ein bod ni’n cymryd camau gweithredu cadarnhaol drwy ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni fel heddlu, a gweithio’n agos ag asiantaethau partner.
“Mewn perthynas ag adeilad hen Ysgol Tasker Milward, hoffwn fod yn gwbl glir fod torri i mewn i adeilad yn drosedd, ac yn beryglus iawn. Mae plant eisoes wedi’u hanafu ar y safle, ac ni allwn adael i hyn barhau.
“Rydyn ni’n gofyn i rieni a gofalwyr siarad â’u plant am eu hymddygiad, ble maen nhw’n treulio eu hamser, a gyda phwy maen nhw’n ymgysylltu â nhw. Mae llawer o’r grwpiau cysylltiedig yn teithio o wahanol ardaloedd yn Sir Benfro, ac mae’n bwysig bod rhieni’n ymwybodol o hyn.
“Gall tramgwyddau troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gael canlyniadau hirdymor ar gyfer pobl ifainc, gan gynnwys effeithiau posibl ar addysg a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol ar gyfer atal hyn, ac rydyn ni’n gofyn i rieni a gofalwyr gefnogi ein hymdrechion i gadw’r plant hyn, a’n cymuned leol, yn ddiogel.”
Gall rhieni a gofalwyr sy'n pryderu am ymddygiad eu plentyn geisio cymorth drwy Rwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro (PFSN) a thrwy gysylltu â'u Tîm Plismona a Chymdogaeth lleol.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth i deuluoedd ar gael drwy wefan Cyngor Sir Penfro: Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro (PFSN) - Cyngor Sir Benfro
Anogir trigolion i roi gwybod am ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Dyfed-Powys drwy 101 neu ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.