Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dedfrydu bachgen yn ei arddegau o Rydaman am dreisio merch 12 oed
Mae bachgen yn ei arddegau wedi ei ddedfrydu i 3 blynedd a 6 mis mewn sefydliad troseddwyr ifainc ar ôl pledio’n euog i dreisio merch 12 oed.
Cyfaddefodd Jake Richards, 19 oed, o Garnswllt, ei fod wedi treisio’r ferch pan oedd yn 17 oed ar ôl i’r pâr sgwrsio ar Snapchat cyn cwrdd wyneb yn wyneb.
Adroddodd y dioddefydd am y drosedd i’r heddlu ym mis Awst 2024 ar ôl dweud wrth ffrind beth oedd wedi digwydd. Dywedodd wrth swyddogion ei bod hi wedi cwrdd â Richards, a’u bod nhw wedi cerdded i dwnnel diarffordd lle’r oedd hi’n credu eu bod nhw’n mynd i siarad. Pan oeddent yn y twnnel, fe wnaeth Richards ei hannog i gael rhyw gydag ef, a pharhaodd i’w hannog ar ôl iddi ei wrthod sawl gwaith.
Yn dilyn ymchwiliad hir, a oedd yn cynnwys ymholiadau fforensig a digidol, cyhuddwyd Richards â thrais. Cyfaddefodd i’r drosedd pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe.
Heddiw, ddydd Mercher 21 Ionawr, cafodd ei ddedfrydu i 3 blynedd a 6 mis mewn sefydliad troseddwyr ifainc.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock, o Heddlu Dyfed-Powys: “Yn gyntaf, hoffwn ganmol y dioddefydd, a oedd ond yn 12 oed pan ddigwyddodd y trosedd hwn, am ei dewrder drwy ddod ymlaen i adrodd am y trosedd hwn, ac am ei chydweithrediad yn ystod yr ymchwiliad dilynol.
“Nid yw’n hawdd siarad am drais, neu unrhyw fath o gam-drin rhywiol, ac â hithau mor ifainc, mae’n rhaid bod siarad am ei phrofiad wedi bod yn arbennig o arswydus iddi.
“Er ei bod hi’n wynebu rhywun bum mlynedd yn hŷn na hi, cymerodd y camau cywir drwy ddweud na pan nad oedd hi’n gyfforddus â’r sefyllfa, gan erfyn ar Richards i stopio. Fodd bynnag, serch ei phledion, aeth Richards yn ei flaen er mwyn bodloni ei anghenion ei hun.
“Parhaodd i ddangos ei dewrder pan siaradodd am y trosedd, yn gyntaf gyda ffrind, ac wedi hynny, drwy adrodd amdano wrth yr heddlu er mwyn sicrhau y gellid cymryd camau gweithredu.
“Archwiliodd ein staff arbenigol i gyfrif y dioddefydd yn drylwyr, ac roedd modd iddynt helpu i brofi’r achos drwy dystiolaeth fforensig ddigidol a DNA. Heb os nac oni bai, arweiniodd cryfder y dystiolaeth hon at y ple euog cynnar hwn, gan arbed rhagor o drawma i’r dioddefydd drwy osgoi mynd â’r achos i’r llys.
“Rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig nodi nad oedd y dioddefydd yn yr achos hwn yn gallu rhoi caniatâd oherwydd ei hoed, ac mae’r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael sgyrsiau am aros yn ddiogel ar-lein, y gyfraith a chaniatâd gyda phobl ifainc. Mae hyn yn cynnwys sut i roi caniatâd, sut i beidio â chymryd caniatâd yn ganiataol, a beth i’w wneud os yw rhywun yn parhau â gweithgarwch rhywiol er waethaf diffyg caniatâd.
“Rwyf hefyd yn gobeithio bod yr achos hwn yn dangos bod ein swyddogion yn gwrando ar ddioddefwyr o bob oed a allai fod yn destun cam-drin rhywiol, yn eu cefnogi ac yn ceisio cyfiawnder iddynt.”
Am gyngor ar siarad gyda phlant am ganiatâd, galwch heibio i Siarad gyda phlant yn eu harddegau am berthnasau iach a chaniatâd.