Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal amnest arfau tanio pedair wythnos o hyd ar gyfer pum math o arf tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr o wneuthuriad BRUNI sydd nawr yn anghyfreithlon bod yn berchen arnynt yn dilyn profion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd.
Bydd yr amnest yn digwydd o 2 – 27 Chwefror. Ar ôl hynny, gall unrhyw un sy’n meddu ar un o’r arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr a nodwyd gael ei erlyn a’i anfon i’r carchar am hyd at 10 mlynedd.
Mae profion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi dangos bod pum math o arf tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top yn gallu cael eu trawsnewid yn hawdd, ac felly’n anghyfreithlon.
Mae’n anghyfreithlon i bobl 18 neu hŷn brynu gynnau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr yn y DU heb drwydded heblaw eu bod nhw’n gallu cael eu trawsnewid yn hawdd. Mae profion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd wedi dangos bod y modelau BRUNI canlynol yn gallu cael eu trawsnewid yn hawdd, ac felly’n anghyfreithlon:
Bydd yr amnest yn rhoi cyfle i berchnogion gyflwyno arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr mewn gorsafoedd heddlu o gwmpas Dyfed a Phowys.
Y lleoliadau yn ardal Dyfed-Powys yw:
Cewch ymweld â’r gorsafoedd o 8y.b. – 4y.h. o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Er mwyn sicrhau diogelwch wrth gludo arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr:
Mae’r heddlu’n gofyn i bobl ildio unrhyw arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr cyn 27 Chwefror er mwyn osgoi erlyniad ac atal y pistolau hyn rhag syrthio i’r dwylo anghywir.
Gall llawer o arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr gael eu meddiannu'n ddiniwed ac oherwydd nad ydy pobl yn ymwybodol eu bod yn anghyfreithlon. Efallai eu bod nhw wedi'u hanghofio yng nghartrefi pobl. Mae'r amnest yn rhoi cyfle i bobl gael gwared arnynt yn ddiogel trwy fynd â nhw i un o’r gorsafoedd heddlu a restrir uchod leol a'i roi i mewn.
Yn ystod cyfnod yr amnest, ni fydd y rhai sy'n rhoi un o’r pum arf tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr BRUNI a nodwyd yn wynebu erlyniad am eu meddu'n anghyfreithlon. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw roi eu manylion.
Dywedodd y Rhingyll Haydon Mathias o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae troseddau gynnau yn ardal Dyfed-Powys yn parhau’n brin iawn, ond nid ydym yn hunanfodlon o gwbl, a dyna pam yr ydym yn cefnogi’r amnest cenedlaethol hwn.
“Bydd ildio’r arfau hyn nawr yn helpu i’w hatal rhag syrthio i’r dwylo anghywir yn y dyfodol a chael eu defnyddio gan droseddwyr, felly rydyn ni eisiau cymaint ag sy’n bosibl o arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top i gael eu hildio.”
Os na allwch deithio i un o’r lleoliadau yn ystod yr amnest, cewch ein galw ar 101, lle y gallwn drafod hyn gyda chi i sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan.
Os oes gennych unrhyw amheuon, fe’ch anogwn i gysylltu â ni am gyngor.