Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a ‘gollodd ei dymer’ a thaflu ei ferch fach at deledu wedi ei garcharu am 35 mlynedd.
Plediodd Rhydian Lyn Rhys Jamieson yn euog i geisio lladd baban ar ôl achosi anafiadau i’w ferch a roddodd ei bywyd mewn perygl ar 15 Ionawr 2025. Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe heddiw i gael ei ddedfrydu am y drosedd.
Clywodd y llys sut oedd Jamieson, o Gwm-cou, Castellnewydd Emlyn, ar ben ei hun gyda’r baban mewn cyfeiriad yn y Ferwig, Ceredigion, am lai na hanner awr cyn iddi ddioddef yr anafiadau.
Am resymau nad ydynt yn hysbys, cyfaddefodd Jamieson ei fod wedi ‘colli ei dymer’ a thaflu’r plentyn, na ellir ei henwi oherwydd gorchymyn llys, cyn ei rhoi o dan blanced a dianc o’r tŷ. Ar ôl hynny, galwodd ffrind drwy Snapchat ac awgrymodd ei fod wedi lladd y baban, gan ddweud, “Mae hi ar ben arna i.”
Yn ddiweddarach, dywedodd mam y baban wrth yr heddlu ei bod hi wedi colli sawl galwad gan y diffynnydd ar ei ffôn, a’i fod wedi anfon negeseuon llais ati’n dweud, “Ti’n mynd i ‘nghasáu i ... do’n i ddim yn ei feddwl, mae’n ddrwg ‘da fi,” wedi’i ddilyn gan, “Sai’n gwybod os yw hi dal yn anadlu ... sai’n gwybod, gadawais i hi, beth wi wedi ‘neud? Iesu.”
Hysbyswyd y gwasanaethau brys am y digwyddiad pan wnaed galwadau 999 i Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Surrey a Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog gan ffrindiau’r diffynnydd a mam y baban yn mynegi pryderon am les y baban ar ôl derbyn y negeseuon a’r galwadau hyn.
Dychwelodd y fam i’w chartref yn syth ar ôl clywed y negeseuon a dechreuodd chwilio’n wyllt am ei phlentyn. Daeth o hyd iddi â’i hwyneb i lawr ar wely o dan blanced. Roedd y baban yn anadlu, ond roedd ganddi anafiadau amlwg, ac aed â hi i’r ysbyty.
Chwiliodd Heddlu Dyfed-Powys y tŷ, gan ddod o hyd i deledu a ddylai fod wedi bod yn sefyll ar ffrâm wely ar y llawr ar waelod y gwely, a staenau gwaed mân ar shiten. Daethpwyd o hyd i ddillad roedd y baban wedi bod yn gwisgo ar y llawr hefyd.
Llai na hanner awr ar ôl yr alwad gyntaf i’r heddlu, roedd swyddogion wedi dod o hyd i Jamieson a’i arestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol ac esgeulustod. Wrth iddo gael ei dywys i’r ddalfa, dywedodd, “Wi methu credu mod i wedi ceisio lladd fy merch.”
Cafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o geisio llofruddio baban, ac fe gyfaddefodd i’r drosedd yn y llys ar 10 Ebrill 2025.
Heddiw, cafodd ei ddedfrydu i 35 mlynedd o garchar.
Gan siarad am effaith y digwyddiad, dywedodd mam y baban, “Mae’r hyn sydd wedi digwydd wedi newid fy mywyd i a bywyd fy merch am byth, ac mae wedi cael effaith fawr ar fy nheulu cyfan.
“Rwyt ti wedi achosi poen a dioddefaint aruthrol inni.”
Eglurodd fod ei baban wedi dioddef ‘anafiadau difrifol’ ac nad yw arbenigwyr meddygol wedi llwyddo i bennu’r effeithiau tymor hir eto.
“Rwy’n byw bob dydd heb wybod pa un ai a fydd hi’n medru cerdded, siarad, dysgu’n iawn neu fyw bywyd annibynnol,” ychwanegodd y fam. “Mae’r ansicrwydd yn annioddefol.”
“Yn hytrach na mwynhau blwyddyn gyntaf bywyd fy merch, rwyf nawr yn treulio bob dydd yn poeni am y dyfodol. Rwy’n teimlo fy mod i wedi cael fy amddifadu o’r cyfle i fod yn fam ifanc gyffredin.
“Yn hytrach nag adeiladu bywyd hapus a diogel gyda fy merch, fe’m gadawyd i gasglu darnau rhywbeth na feddyliais i byth y byddai’n digwydd.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gary Williams o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hon yn weithred erchyll o drais tuag at faban diamddiffyn – ei ferch ei hun – a oedd wedi’i gadael yng ngofal Jamieson.
“Nid ydym yn gwybod beth wnaeth iddo ymddwyn fel hyn o hyd – beth wnaeth iddo golli ei dymer, i ddefnyddio ei air ei hun – ond hyd yn oed pe bai wedi datgelu’r sbardun i’r ymddygiad ffiaidd hwn, ni ellir ei esgusodi.
“Mae bywydau teulu’r baban wedi eu troi wyneb i waered ers yr ymosodiad ffiaidd ar 15 Ionawr. Maen nhw wedi treulio llawer iawn o amser yn yr ysbyty, a dioddef misoedd o bryder wrth iddynt aros i gael gwybod beth fydd effaith hirdymor ei hanafiadau.
“Hoffwn eu canmol am eu dewrder a’u cydweithrediad drwy gydol ymchwiliad yr heddlu, yn ogystal â’r swyddogion a staff niferus a weithiodd yn ddiflino i ddwyn Jamieson i gyfiawnder.”