Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cynllun peilot ar gyfer cefnogi pobl ifainc yn y ddalfa a helpu i dorri cylch trosedd wedi’i lansio ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r prosiect Momentau Cyraeddadwy’n anelu i sicrhau bod pobl ifainc yn y ddalfa’n derbyn y cymorth iawn ar yr amser iawn, gan ymgysylltu â nhw drwy weithiwr Adferiad Momentau Cyraeddadwy, a’u harwain tuag at ddewisiadau bywyd cadarnhaol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jenna Jones: “Tra’n bod ni, fel heddlu, yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth yn y gymuned i atal plentyn rhag mynd i’r ddalfa, fe wnaethom adnabod a chydnabod bod bwlch sylweddol o ran cymorth unwaith mae plentyn yn cael ei arestio a’i gymryd i’r ddalfa.
“Pan mae pobl ifainc yn cael eu harestio neu eu cadw yn y ddalfa, maen nhw’n aml yn treulio llawer iawn o amser yn disgwyl cael eu prosesu neu eu cyfweld. Mae’r amser aros hwn yn cyflwyno moment cyraeddadwy hanfodol – cyfle i weithiwr proffesiynol hyfforddedig ymgysylltu ag unigolyn ifanc ar adeg lle mae llai o ddylanwad cyfoedion ac aelodau o’r teulu sy’n cyfrannu at ei droseddu arno, a phryd y gallai fod yn fwy agored i gymorth.
“Ein nod yn y pen draw yw torri’r cylch troseddu, a dylanwadu’n gadarnhaol arnynt i newid eu hymddygiad.”
Mae’r heddlu wedi cyflwyno mesurau craffu eraill o gwmpas plant yn y ddalfa sydd eisoes wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy’n dod trwy ddalfeydd. Yn 2024, arestiwyd a chymerwyd 432 o blant i’r ddalfa. Erbyn diwedd 2025, ar ôl gweithredu lefel craffu uwch o gwmpas arestio plant, gwelwyd gostyngiadau sylweddol, gyda 326 o blant yn cael eu harestio’r flwyddyn honno.
Tra bod pob un o’r cyfarfodydd hyn yn cyflwyno “momentau cyraeddadwy” - cyfleoedd hollbwysig ar gyfer ymyrryd pan mae pobl ifainc fwyaf agored i newid - mae’r prosiect yn anelu i leihau nifer y plant mewn dalfeydd ymhellach drwy gael dealltwriaeth o achosion troseddu a chynnig y cymorth iawn.
Mae’r prosiect peilot, a lansiwyd ar 12 Ionawr 2026, yn cynnig gwasanaeth ‘ar alwad’ 24/7 ar gyfer swyddogion mewn dalfeydd, gan sbarduno ymateb gan Weithiwr Momentau Cyraeddadwy.
Bydd y gweithiwr yn mynd i’r ddalfa er mwyn:
Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno gan Adferiad, elusen Gymreig sy’n darparu cymorth, cefnogaeth a gofal i bobl sydd ag anghenion cymorth iechyd meddwl a defnyddio sylweddau, yn ogystal â phroblemau cymhleth eraill.
Roedd gan Heddlu Dyfed-Powys berthynas weithio gadarnhaol gyda’r elusen yn barod trwy eu gwasanaeth Oedolyn Priodol sy’n gweithredu mewn dalfeydd ledled yr ardal heddlu.
“Ar gyfer y prosiect hwn, mae profiad Adferiad o ran cefnogi plant a phobl ifainc yn allweddol,” meddai’r Prif Arolygydd Jones.
“Mae plentyn sy’n cael ei dywys i’r ddalfa wedi cyrraedd pwynt hollbwysig, ac un lle mae’n aml yn teimlo’n agored i niwed, yn ansicr ac yn unig. Efallai ei fod mewn perygl o gael ei gamfanteisio, ymuno â giang, neu syrthio i gylch aildroseddu.
“Efallai mai dyna pryd y bydd yn dewis ymgysylltu hefyd.
“Gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yw gweithwyr Momentau Cyraeddadwy, sydd ddim yn rhan o unrhyw awdurdod statudol, sy’n gallu cynnig cefnogaeth mewn man diogel heb farnu, gan helpu’r unigolyn ifanc i adlewyrchu ar ei sefyllfa ac ystyried llwybrau amgen.
“Byddant yn meithrin perthynas ymddiriedus, yn cynnig arweiniad a chefnogaeth emosiynol, ac yn helpu i atal niwed pellach, trawma, a chysylltiad â throsedd yn y dyfodol, yn ogystal â lleihau’r trawma a achosir drwy fod yn y ddalfa fel plentyn.”
Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol yn y ddalfa, bydd y gweithiwr Momentau Cyraeddadwy’n cysylltu â’r unigolyn ifanc eto i drefnu apwyntiadau dilynol, a sicrhau bod asiantaethau priodol hefyd wedi bod mewn cysylltiad.
Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn dilyn y cynllun peilot, cynhelir gwerthusiad llawn o’r prosiect er mwyn caniatáu ar gyfer gwneud penderfyniadau o gwmpas parhau i’w ddefnyddio.