Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn wedi ei garcharu am dreisio a cham-drin merch ifanc yn rhywiol dros gyfnod o naw mlynedd.
Canfu Paul David Withnell, 74 oed, o Lanandras, Powys, yn euog o 19 trosedd rhyw yn erbyn plentyn yn dilyn treial 8 diwrnod yn Llys y Goron Merthyr ym mis Tachwedd 2025. Nid yw’r troseddau hyn yn rhai diweddar.
Heddiw, dedfrydwyd y treisiwr plentyn i 21 mlynedd o garchar.
Yn y treial fis Tachwedd, clywodd y llys bod y dioddefydd ond yn saith mlwydd oed pan gymerwyd ei phlentyndod oddi wrthi mewn ffordd greulon. Esboniodd yr erlyniad mai cychwyn patrwm o gam-drin rhywiol oedd hyn a fyddai’n parhau tan ei bod hi’n 15 oed.
Clywodd y llys bod y cam-drin wedi dechrau yn y 1980au fel gêm gyfoglyd o’r enw ‘goglais ac ymladd’ lle byddai’r troseddwr yn gofyn i’r dioddefydd gyffwrdd â’i bidyn, a byddai ef yn cyffwrdd â’i gwain.
Dros amser, dechreuodd Withnell ddyfeisio ffantasi gwyrdroëdig lle’r oedd ef a’r ferch ifanc mewn perthynas rhamantus. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd Withnell dreisio ei ddioddefydd, a arweiniodd ati’n beichiogi unwaith yn ystod y gwyliau haf.
Dim ond tua 13 oed oedd hi.
Gan gyflwyno ei datganiad effaith yn y llys heddiw, dywedodd y dioddefydd, “Wrth imi edrych nôl dros fy mhlentyndod, rwyf wedi fy ngadael â thrawma parhaol, ôl-fflachiau ac atgofion a fydd byth yn fy ngadael i...
"Difethwyd fy niniweidrwydd yn rhy ifanc o lawer, a chefais fy ngorfodi i fyw mewn byd ar gyfer oedolion pan oeddwn ond yn blentyn…”
Datgelwyd maint diddordeb rhywiol Withnell mewn merched ifainc ymhellach drwy ei gasgliad o ffotograffau noeth a dyluniadau personol o ferched ifainc. Pan ofynnwyd iddo am y delweddau noeth, dywedodd y diffynnydd wrth yr heddlu, “Rwy’n credu mai plant, merched, rhwng 13 ac 16/17 oed sydd harddaf. Neu roeddwn i arfer credu hynny. Dyna pam roeddwn i eisiau cipio hynny yn fy nyluniadau.”
Ym mis Mawrth 2025, plediodd Withnell yn euog i un cyhuddiad o dynnu ffotograffau anweddus o blentyn, ond gwadodd y cyhuddiad arall yn ei erbyn.
Gan barhau â’i datganiad, disgrifiodd y dioddefydd effaith hirdymor y cam-drin a ddioddefodd fel plentyn. Meddai, “Does dim ots pa mor gadarn rwyf wedi dysgu i fod fel oedolyn, ni fyddaf byth yn dianc rhag cywilydd fy ngorffennol. Rwy’n teimlo fy mod i wedi fy ngadael â staen brwnt parhaol sydd bob amser yno, a sut bynnag rwy’n byw fy mywyd nawr a cheisio anghofio fy ngorffennol, mae’r staen hwnnw’n parhau – ac mae’n anochel y bydd yn parhau drwy gydol fy nyfodol.”
Canfu Withnell yn euog o’r troseddau canlynol:
Gan ddedfrydu Withnell yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, esboniodd y barnwr ei fod wedi clywed am ganlyniadau gweithredoedd y diffynnydd ar fywyd y dioddefydd, gan achosi ‘caledi, trallod a gofid aruthrol’ iddi.
"Achosoch galedi, trallod a gofid aruthrol i [y dioddefydd]. Fe wnaethoch iddi ddioddef degawdau o boen emosiynol… a nawr mae’n rhaid ichi wneud iawn am eich ymddygiad ofnadwy," dywedodd.
“Rwy’n meddwl am y ferch 14 oed honno wrth iddi golli ei baban… ac rwy’n gofyn imi’n hun pa mor ofnus ac unig y byddai’r ferch ifanc honno yn ei harddegau’n teimlo wrth orfod dioddef a mynd trwy’r profiad hwnnw.
"Mae’n amhosibl bron i fynegi’n ddigonol mewn geiriau pa mor erchyll fyddai’r profiad hwnnw wedi bod iddi.”
Mae Withnell hefyd wedi’i orchymyn i lofnodi’r gofrestr troseddwyr rhyw am oes, ac mae’n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Christine Beaton, “Rwyf eisiau canmol y dioddefydd yn yr achos hwn am ei dewrder o ran dod ymlaen i adrodd am y troseddau erchyll hyn.
“Deallaf y gall adrodd am droseddau o’r natur hwn fod yn arbennig o frawychus, yn enwedig sawl blwyddyn ar ôl iddynt ddigwydd.
“Mae’r urddas a’r cryfder a ddangoswyd drwy gydol yr ymchwiliad yn dyst i’w chadernid, ei dewrder a’i phenderfynoldeb i sicrhau cyfiawnder.
“Diolch i’w chefnogaeth hi, a gwaith diwyd y tîm ymchwilio, o’r diwedd, mae Withnell wedi’i ddal i gyfrif am ei weithredoedd ffiaidd.
“Wrth i Withnell wynebu ei amser yn y carchar, rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw’n rhoi rhywfaint o gysur i’r dioddefydd yn yr achos hwn wrth iddi ddechrau symud ymlaen â’i bywyd.
“Rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn sicrhau eraill y byddwn ni bob amser yn trin adroddiadau am gam-drin rhywiol yn ddifrifol iawn, ni waeth pa mor ddiweddar, neu ba mor bell yn ôl, ddigwyddon nhw.
“Os ydych chi wedi dioddef trais neu gam-drin rhywiol, dywedwch wrthym. Rydyn ni’n dosturiol, yn fedrus, ac wedi ymrwymo i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.”