Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o’r Tymbl, Sir Gaerfyrddin, wedi’i garcharu am ddeng mlynedd a hanner am nifer o droseddau rhywiol yn erbyn plant.
Roedd David Prothero, 39 oed, eisoes wedi pledio’n euog i’r troseddau canlynol, a chafodd ei ddedfrydu ddoe.
· Dau achos o dreisio merch 13 oed yn eneuol
· Pedwar achos o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda merch iau na 18 oed
· Pedwar achos o ymosod yn rhywiol ar fenyw
· Cam-drin plentyn drwy ymosod a churo
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Thomas o Dîm Ymchwilio i Drais Sir Gaerfyrddin:
“Roedd hwn yn achos sy’n peri pryder a oedd yn cynnwys dyn a wnaeth gamddefnyddio swydd o ymddiriedaeth yn erbyn dioddefwyr ifainc. Ni ddylai neb, yn arbennig plentyn, ddioddef cam-drin mewn man lle maen nhw’n disgwyl teimlo’n ddiogel.
“Rhaid cydnabod y dewrder a ddangoswyd gan y dioddefwyr yn yr achos hwn. Yn y pen draw, eu dewrder nhw i godi eu lleisiau yn erbyn y camdriniwr hwn sydd wedi rhoi David Prothero yn y carchar heddiw. Mae’r plant hyn yn glod iddyn nhw’u hunain a’u teuluoedd. Os oes unrhyw un, waeth pa beth bynnag yw ei oed, yn canfod ei hun yn dioddef yn dawel, rwyf eisiau’ch annog i ddod ymlaen a siarad gyda ni.
“Mae gennym dîm dynodedig o ymchwilwyr, sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn troseddau o’r math hwn, a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd. Rydyn ni’n dosturiol, ac rydyn ni’n fedrus. Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cyfiawnder, fel yr ydym wedi gweld heddiw.
“Ni fyddaf yn anghofio’r adeg pan ddywedodd un o’r dioddefwyr, “Ni all fy rheoli i rhagor,” wrth i Prothero bledio’n euog. Mae hyn yn ymwneud â rhyddid llawn cymaint ag y mae’n ymwneud â chyfiawnder.
"Rwy’n gobeithio bod gwybod bod Prothero yn y carchar yn calonogi’r dioddefwyr yn yr achos hwn, wrth iddynt ddechrau symud ymlaen â’u bywydau.”