Stamp amser presennol: 09/07/26 03:13:39
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Cyngor diogelwch ar gyfer dŵr agored

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:00 01/07/2026

Â’r tywydd yn cynhesu, rydyn ni’n disgwyl gweld mwy o bobl yn ceisio oeri mewn dŵr agored. Mae nifer fawr o draethau, rhaeadrau, afonydd, llynnoedd, ac ardaloedd dŵr agored yn ardal Dyfed-Powys. Rydyn ni eisiau i bawb sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn aros yn ddiogel a deall y peryglon posibl o gwmpas dŵr agored.

Rydyn ni wedi creu canllaw sy’n cynnwys cyngor ar gyfer ar gyfer pob ardal er mwyn ichi aros mor ddiogel â phosibl o gwmpas y dŵr.

Diogelwch Traeth

  1. Defnyddiwch draeth gydag achubwyr bywyd – bydd hyn yn rhoi diogelwch ychwanegol i chi a’ch anwyliaid gan achubwyr bywyd wedi’u hyfforddi hyd at safon uchel.
  2. Gwybod eich baneri - bydd gan draethau sydd ag achubwyr bywyd faneri hefyd i ddangos ichi ble mae’n ddiogel nofio. Byddant hefyd yn dweud wrthych ble i ddefnyddio byrddau syrffio a phadlfyrddau. Yn bwysicaf oll, bydd baneri coch yn dweud wrthych fod y dŵr yn beryglus ac na ddylech fynd mewn iddo mewn unrhyw amgylchiadau.
  3. Gwybod y peryglon – mae ein harfordir yn llawn llanwau uwch, dyfroedd oer, a cherrynt cryfach. Cymerwch yr amser i ddod i wybod am yr ardal rydych chi’n ymweld â hi a deall y peryglon.
  4. Peidiwch â mynd mewn i’r dŵr ar ôl yfed alcohol – gall hyn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau a chynyddu’r perygl y byddwch yn dod i mewn i drafferthion.
  5. Arnofio i fyw – dyma’r peth cyntaf i gofio os fyddwch chi’n dechrau stryffaglu yn y dŵr neu’n syrthio i mewn yn annisgwyl. Ymlaciwch a cheisiwch anadlu yr un fath ag arfer. Pwyswch eich pen yn ôl gyda'ch clustiau dan y dŵr ac yna defnyddiwch eich dwylo i’ch helpu i aros ar ben y dŵr. Bydd hyn yn rhoi cyfle ichi reoli eich anadl ac yna galw am gymorth neu nofio i ddiogelwch.

Dŵr Agored

  1. Peidiwch â nofio ar ben eich hun – Mwynhewch yr ardaloedd hyn fel rhan o grŵp wedi’i drefnu neu gyda’ch ffrindiau/teulu. Gadewch iddynt wybod ble rydych chi’n bwriadu nofio a phryd rydych chi’n disgwyl dychwelyd.
  2. Byddwch yn ymwybodol o dymheredd y dŵr – mae sioc dŵr oer yn beryglus iawn a gall effeithio’n ddifrifol ar eich anadlu a’ch symudiad. Gall y sioc achosi i’ch pibellau gwaed gau a chyfyngu llif gwaed, sy’n golygu bod angen i’ch calon weithio’n galetach. Gall eich anadlu newid yn afreolus, a gallwch ddechrau teimlo panig, gan gynyddu’r siawns y byddwch yn anadlu dŵr i mewn i’ch ysgyfaint.

Gallwch leihau’r perygl drwy wneud y canlynol:

  1. Defnyddio Arnofio i fyw - Ymlaciwch a cheisiwch anadlu yr un fath ag arfer. Pwyswch eich pen yn ôl gyda'ch clustiau dan y dŵr ac yna defnyddiwch eich dwylo i’ch helpu i aros ar ben y dŵr.
  2. Gadael i’r effeithiau cychwynnol fynd heibio - gall hyn gymryd llai na munud, felly ceisiwch beidio â nofio’n syth. Ceisiwch beidio â chynhyrfu, ymlaciwch, ac arnofiwch i fyw, yna galwch am gymorth neu nofiwch i ddiogelwch.
  3. Gwrando ar eich corff - cyfyngwch ar eich amser yn y dŵr ac ewch i gynhesu os fyddwch chi’n dechrau profi; crynu, fferdod/merwino, breichiau neu goesau anystwyth, dryswch, gwefusau/croen glas, gwendid, anadlu cyflym, gên dynn afreolus, neu anhawster siarad.
  1. Gwybod eich galluoedd – Peidiwch â mentro mynd mewn i’r dŵr heblaw eich bod chi’n gwybod ei fod yn ddiogel. Peidiwch â mynd mewn os oes gennych unrhyw amheuon.
  2. Peidiwch â mynd mewn i’r dŵr ar ôl yfed alcohol – gall hyn amharu ar eich barn a chynyddu’r perygl y byddwch yn cael trafferth.
  3. Ceisiwch gyngor a thalwch sylw i arwyddion rhybudd – gwiriwch ble rydych chi’n bwriadu ymweld ag ef a gwrandewch ar unrhyw gyngor neu rybuddion. Gall hyn gynnwys ardaloedd dŵr agored gydag achubwyr bywyd wedi’u hyfforddi.

Rhaeadrau

  1. Cadwch at lwybrau dynodedig a thu ôl i rwystrau – mae’r perygl yn cynyddu’n sylweddol os fyddwch chi’n gadael llwybrau wedi’u nodi o gwmpas rhaeadrau. Nid yw dringo creigiau er mwyn cael golwg gwell neu lun gwell werth y perygl ychwanegol.
  2. Byddwch yn ymwybodol o arwynebau llithrig, tir anwastad, a chreigiau sy’n erydu – mae algâu, mwsogl, a dŵr o’r rhaeadr ar yr ardaloedd o gwmpas rhaeadrau. Gall hefyd fod wedi diflannu neu fod â phridd meddal o gwmpas ymylon. Mae hyn yn gwneud y tir yn llithrig, ac weithiau, gall chwalu o dan eich pwysau.
  3. Byddwch yn effro i gerrynt annisgwyl – gall y cerrynt wrth ymyl rhaeadr fod yn rhyfeddol o gryf, hyd yn oed os yw’r dŵr uwch ei ben yn edrych yn llonydd.
  4. Gwiriwch y rhagolygon yn yr ardal o gwmpas y rhaeadr – gall yr ardaloedd hyn orlifo’n gyflym, hyd yn oed os nad yw’n bwrw glaw lle’r ydych chi. Gall storm i fyny’r afon anfon llawer iawn o ddŵr heb fawr o rybudd. Mae’n bwysig deall y tywydd ar gyfer yr ardal gyfan.
  5. Peidiwch ag ymweld â’r ardal ar ben eich hun – Mwynhewch nhw fel rhan o grŵp wedi’i drefnu neu gyda’ch teulu/ffrindiau. Gadewch iddynt wybod ble rydych chi’n bwriadu ymweld ag ef a phryd rydych chi’n bwriadu dychwelyd.

Afonydd a Chamlesi

  1. Defnyddiwch fynediad diogel yn unig – dylech ond mynd mewn i’r ardaloedd hyn mewn lleoliad diogel y gallwch ei adael yn hawdd. Gall glannau serth eich atal rhag gadael y dŵr yn ddiogel.
  2. Byddwch yn ymwybodol o’r dyfnder a pheryglon na ellir eu gweld – Peidiwch â neidio neu blymio i mewn i’r dyfroedd hyn. Gall y dyfnder amrywio a gall fod peryglon na ellir eu gweld o dân y dŵr, megis cyrs, planhigion, neu hyd yn oed sbwriel a all ddal eich traed.
  3. Byddwch yn ymwybodol o draffig – gwyliwch rhag cychod neu bobl yn teithio ar hyd yr ardaloedd hyn. Gall fod yn anoddach i gychod mwy weld nofwyr.
  4. Byddwch yn ymwybodol o halogyddion a chlefydau a gludir gan ddŵr – yn aml, nid yw dŵr camlas ac afon wedi’i drin. Gall gynnwys clefydau, megis clefyd Weil, llygredd, neu halogyddion biolegol neu gemegol.
  5. Cadwch draw wrth beryglon a cherrynt cryf – peidiwch â mynd mewn i ddŵr ger coredau, cloeon, pibau, a llifddorau. Mae’r rhain yn aml yn gysylltiedig â cherrynt cryf, a gallant eich cario i ffwrdd yn hawdd.

 

Darllen pellach

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub: Cyngor Diogelwch Dŵr – Gwybod y Peryglon

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau  Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau – Cyngor ac arweiniad o ran diogelwch dŵr | Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau

Glandŵr Cymru: Diogelwch ar ein Dyfrffyrdd | Glandŵr Cymru

Y Gymdeithas Achub Bywyd Genedlaethol: Y Gymdeithas Achub Bywyd Genedlaethol

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.