Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 5am a 7am ar ddydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Heddiw (22/7) cafodd Alan Raymond Pyart, 60 oed, o Hwlffordd ei garcharu am saith mlynedd yn Llys y Goron Abertawe am drais ac ymosodiad rhywiol heb fod yn ddiweddar a ddigwyddodd yn 1988.
Digwyddodd y troseddau yn Hwlffordd yn Awst 1988 yn erbyn unigolyn a oedd bryd hynny’n ferch yn ei harddegau. Cafwyd Pyart yn euog o achos o drais ac achos o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio digidol yn dilyn treial wythnos o hyd yn Chwefror eleni.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sarah Totterdale o CID Sir Benfro: “Mae’r achos hwn yn dangos yr effaith hirdymor y gall cam-drin rhywiol ei gael ar ddioddefwyr a’u teuluoedd. Hoffwn gymeradwyo’r dioddefydd am y dewrder aruthrol a ddangosodd wrth ddod ymlaen a siarad am yr hyn a ddigwyddodd iddi’r holl flynyddol yn ôl.
“Gall camdriniaeth o’r natur hon adael creithiau parhaus, ond nid yw byth yn rhy hwyr ceisio cyfiawnder. Rydym yn gobeithio y bydd yr euogfarn a’r dedfrydu hyn yn anfon neges glir y bydd Heddlu Dyfed Powys yn erlid troseddwyr, waeth faint o amser sydd wedi pasio.
“Rydw i hefyd eisiau annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol, boed hynny’n ddiweddar neu nifer o flynyddoedd yn ôl, i roi gwybod i ni amdano. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich cefnogi, ac yn eich cymryd o ddifri.”
Os oes angen cefnogaeth arnoch yn dilyn trais neu ymosodiad rhywiol, gallwch gael cymorth a chefnogaeth yma: Cefnogaeth ar ôl trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol | Heddlu Dyfed-Powys
I roi gwybod am drais neu drosedd rhywiol, ewch at ein gwefan yma: Ripotrio treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Dyfed-Powys