Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae troseddwr rhyw wedi’i ddedfrydu i 18 mis o garchar yn Llys y Goron Abertawe ar ôl cael ei ddal yn tynnu ffotograffau uwchsbecian o ferched ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Plediodd Isa Ayan, 38, o Gaerfyrddin, yn euog i tair achos o geisio gweithredu offer o dan ddillad rhywun arall heb ganiatâd.
Ar 10 Chwefror 2026, derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad gan un o aelodau staff siop Poundland, Caerfyrddin, yn dweud ei fod wedi gweld dyn yn ymddwyn yn amheus yn y siop a’i fod yn poeni ei fod yn ceisio tynnu llun o dan sgert merch ysgol.
Yn dilyn ymchwiliad gan dditectifs yn CID Rhydaman a Chaerfyrddin, cafodd Ayan ei adnabod drwy ddarn ffilm TCC, a chafodd ei arestio wedi hynny. Datgelodd ymholiadau fforensig digidol fod Ayan wedi cymryd delweddau o sawl merch ysgol o ardal Caerfyrddin. Roedd y dioddefwyr a gafodd eu hadnabod rhwng 13 ac 14 oed.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock, “Mae’r troseddau a gyflawnwyd gan Isa Ayan yn arbennig o annifyr. Yn gyntaf, mae’r tîm ymchwilio’n ddiolchgar i aelod staff siop Poundland a adroddodd am ei bryderon wrth yr heddlu. Arweiniodd ei wyliadwriaeth at arestio a chyhuddo Ayan.
“Yn dilyn arést Ayan, datgelodd ein hymholiadau faint ei droseddu. Fe wnaethom adnabod dioddefwyr a’u teuluoedd. Roedd pob un ohonynt yn gwbl anymwybodol fod y troseddau wedi digwydd. Rhaid nodi nad yw diffyg ymwybyddiaeth gychwynnol y dioddefwyr o droseddu diraddiol Ayan yn lleihau’r effaith arnynt.
“Rydym yn eu canmol am eu dewrder a’u hurddas o ran ein cynorthwyo â’n hymchwiliad, ar ôl derbyn gwybodaeth mor ofidus.
“Byddwn yn annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw weithredoedd neu ymddygiadau amheus, amhriodol a rheibus, p’un a ydynt yn ddioddefwyr neu’n dystion. Rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos y gallwn sicrhau euogfarnau ar gyfer troseddwyr peryglus a diogelu’r rhai mwyaf agored i niwed o fewn ein cymunedau drwy weithio gyda’r cyhoedd a’n partneriaid.”
Er mwyn adrodd am unrhyw drosedd rhywiol, galwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101, neu galwch heibio i’n gwefan.
Os oes argyfwng, galwch 999 bob amser. Gellir cyflwyno adroddiadau’n ddienw hefyd drwy gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.