Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 5am a 7am ar ddydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Mae bachgen 16 oed wedi’i euogfarnu o anafu’n fwriadol yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ddydd Iau 5 Chwefror eleni.
Yr oedd eisoes wedi pledio’n euog o fod â chyllell yn ei feddiant.
Am oddeutu 3.20y.h. ar 5 Chwefror, ymosododd y bachgen – na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol – ar y dioddefydd pan oedd ganddo gyllell yn ei feddiant. Yr oedd wedi dilyn y dioddefydd i mewn i ddosbarth ar ôl gofyn iddi am gymorth gyda gwaith ysgol cyn ymosod arni.
Llwyddodd y dioddefydd i ddiarfogi’r disgybl, ond dioddefodd anafiadau yr oedd angen eu trin yn yr ysbyty. Yn ffodus, fe wellodd ar ôl derbyn triniaeth.
Aeth Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â gwasanaethau brys eraill, i’r lleoliad yn ddi-oed a diogelu disgyblion a staff, a rhoddwyd yr ysgol dan gyfyngiadau symud. Yn fuan wedi hyn, daeth yr heddlu o hyd i’r bachgen, a oedd yn 15 oed ar y pryd, a’i arestio.
Cafodd ei gyhuddo ar 7 Chwefror a’i gadw yn y ddalfa cyn yr achos llys.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Sarah Totterdale: “Yn gyntaf, hoffwn ganmol y dewrder a ddangoswyd gan y dioddefydd yn yr achos hwn. Mae’n rhaid bod yr hyn ddigwyddodd iddi ar 5 Chwefror yn frawychus dros ben, felly mae gorfod mynd i’r llys ac ail-fyw’r profiad hwnnw wedi cymryd dewrder aruthrol. Trwy lwc yn unig wnaeth hi ddim dioddef anafiadau hyd yn oed gwaeth, ond ni ellir tanbrisio’r effaith emosiynol. Hoffem ddiolch iddi am ei chymorth drwy gydol yr ymchwiliad hwn.
“Yn ddealladwy, mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio’n fawr ar ddisgyblion ac athrawon eraill yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Yn ffodus, llwyddom i gyrraedd yr ysgol yn brydlon, sicrhau diogelwch disgyblion ac athrawon, yn ogystal â dal y troseddwr.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn y gwasanaethau brys a ymatebodd ochr yn ochr â ni’r diwrnod hwnnw, athrawon, staff a rhieni/gwarcheidwaid a disgyblion o Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau, Cyngor Sir Benfro, ac aelodau o’r gymuned leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.
“Rwy’n gobeithio gall y dioddefydd yn yr achos hwn ddechrau symud ymlaen â’i bywyd nawr bod y gweithdrefnau troseddol wedi dod i ben, ac y gall Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau barhau i addysgu’n angerddol, dysgu a ffynnu gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel.”
Bydd y diffynnydd yn dychwelyd i Lys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ar 3 Medi.