Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 5am a 7am ar ddydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Mewn ymateb i ganllawiau ar gyfer rhieni gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd, i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, ni fyddwn ni’n cyhoeddi ffotograffau o blant sy’n dangos yn glir pwy ydynt ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel mater o drefn rhagor.
Ni fydd y newid hwn yn berthnasol lle mae diben plismona dilys dros gyhoeddi delwedd plentyn, megis apeliadau i helpu i ddod o hyd i blentyn coll, adnabod rhywun, neu lle mae angen gweithredol neu ddiogelu clir arall dros wneud.
Gwyddom fod ein dilynwyr yn mwynhau straeon positif sy’n cynnwys pobl ifainc a’r ymgysylltu gwych rhyngddyn nhw a’n timoedd – a byddwn ni’n parhau i ddathlu eu llwyddiannau a thynnu sylw at y gwaith arbennig sy’n digwydd ar draws ein hardal heddlu. Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, byddwn ni’n gwneud hyn gan ddefnyddio delweddau sydd ddim yn dangos pwy yw’r plant, neu drwy ddewis ffotograffau lle nad yw wynebau plant i’w gweld ac sy’n gwarchod eu preifatrwydd.
Mae’r newid hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu plant ac ymateb i’r peryglon sy’n esblygu a gyflwynir gan ddatblygiadau mewn technoleg.
Er nad oes unrhyw awgrym bod delweddau a rannwyd yn flaenorol gan yr heddlu wedi’u camddefnyddio, credwn ei fod yn bwysig arddel agwedd ragofalus yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Drwy wneud y newid hwn, gobeithiwn y bydd yn codi ymwybyddiaeth o'r canllawiau ac yn annog rhieni a gwarcheidwaid i ystyried eu hymagwedd eu hun.
Diolch am ddeall ac am eich cefnogaeth barhaus wrth inni addasu ein harferion i helpu i gadw plant yn ddiogel, all-lein ac ar-lein.
Os hoffech ddysgu mwy am y canllawiau cenedlaethol a’r bygythiad sy’n esblygu a gyflwynir gan ddelweddau o gam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, cliciwch ar y linc canlynol: AI-Generated Child Sexual Abuse Material: New Guidance for Parents