Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau frawd wedi’u canfod yn euog o achosi marwolaeth tad a hyfforddwr rygbi adnabyddus o Bowys ar ôl i râs ‘ddi-hid’ y brodyr orffen mewn gwrthdrawiad ben-ben.
Gwadodd Abubakr Yusaf ac Umar Yusaf fod y ffordd yr oeddent yn gyrru’n gyfrifol am farwolaeth Rhys Jenkins, ac anaf difrifol ei fab, fodd bynnag, profodd cryfder y dystiolaeth a gasglwyd gan Heddlu Dyfed-Powys bod y brodyr ar fai.
Mewn treial wyth diwrnod o hyd, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug sut yr oedd Abubakr ac Umar yn gyrru adref o Aberystwyth i Fanceinion mewn ceir ar wahân pan ddechreuasant rasio yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd tystion eu bod wedi gweld y brodyr yn goddiweddyd yn beryglus ar hyd y darn o’r ffordd, ac yn goryrru, yn gyrru’n rhy agos, ac yn fflachio eu prif oleuadau at geir eraill er mwyn ceisio mynd heibio iddynt.
Ychydig ar ôl i’r ddau frawd fynd rownd tro ar yr ochr anghywir o’r ffordd, gwrthdarodd BMW Abubakr benben â Toyota a oedd yn cael ei yrru gan Rhys Jenkins yn y Belan.
Wrth i yrwyr eraill stopio i helpu’r tad a’i fab, dihangodd y brodyr o’r lleoliad yn Audi S4 Umar.
Aeth y gwasanaethau brys i leoliad y gwrthdrawiad, ac yn anffodus, cadarnhawyd bod Mr Jenkins wedi marw o’i anafiadau catastroffig. Aed â’i fab 9 oed, a oedd yn deithiwr yn y car, i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, lle y treuliodd 10 diwrnod yn cael ei drin am ei anafiadau.
O fewn 40 munud i’r gwrthdrawiad, gyrrodd Umar Yusaf, sy’n 34 oed, yn ôl i leoliad y digwyddiad a dywedodd wrth SCCH bod yr unigolyn cyfrifol gydag ef.
Arestiwyd y brodyr ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus, a lansiwyd ymchwiliad gan Uned Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys.
Disgrifiwyd y ffordd yr oedd y brodyr yn gyrru fel gyrru ‘di-hid’ ac ‘afreolaidd’, ac yn gyson â rasio, mewn datganiadau gan nifer o dystion. Er nad oedd car Umar yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad yn uniongyrchol, pennwyd bod natur ‘gystadleuol’ ei yrru wedi cyfrannu’n sylweddol at y digwyddiad angheuol.
Cyhuddwyd y brodyr o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth heb yswiriant, a methu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd.
Cyhuddwyd Abubakr Yusaf o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant, yrru dan ddylanwad cyffuriau a methu â darparu sbesimen i’w ddadansoddi hefyd.
Heddiw, cafwyd Abubakr Yusaf yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, ac achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant.
Cafwyd Umar Yusaf yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n ddiofal.
Byddant yn cael eu dedfrydu ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026.
Gan siarad am effaith marwolaeth Mr Jenkins ar ei deulu, dywedodd y Rhingyll Sara John o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae hwn yn achos trasig o farwolaeth yr oedd modd ei hosgoi’n llwyr ar ein ffyrdd sydd wedi achosi galar difesur i’w ddau fab ifanc a’i wraig.
“Mae dedfryd heddiw wedi dangos bod Abubakr ac Umar Yusaf yn gyfrifol yn uniongyrchol ac yn llwyr am achosi marwolaeth Rhys Jenkins, anafu ei fab ifanc yn ddifrifol, a distrywio eu teulu.
“Gwadodd y ddau ddiffynnydd gyfrifoldeb o’r cychwyn cyntaf er bod tystiolaeth gref iawn eu bod yn rasio yn erbyn ei gilydd mewn modd peryglus iawn.
“Bu ein hymchwiliad yn ddwys a thrylwyr, a hoffwn ddiolch i’r aelodau o’r cyhoedd yn lleoliad y gwrthdrawiad, a’r rhai a ddaeth ymlaen â gwybodaeth i gefnogi’r ymchwiliad a’r gweithdrefnau llys a ddilynodd. Roedd eu mewnbwn yn hollbwysig i’r dyfarniad euog a gyflwynwyd heddiw.
“I would also like to thank yr holl swyddogion a staff perthnasol am eu hymrwymiad i’r achos a sicrhau’r canlyniad hwn yn y pen draw.
“Yn bwysicach, hoffwn ganmol y dewrder a’r urddas a ddangoswyd gan deulu Rhys yn ystod ein hymholiadau a’r broses cyfiawnder troseddol – mae’r cryfder maen nhw wedi dangos yn rhyfeddol.”
Dywedodd Carrie Jenkins, gwraig Rhys:
“Yn dilyn yr euogfarn, hoffwn ddiolch i’r Llys, y Rheithgor, GEG, yr heddlu, a phawb a oedd yn gysylltiedig â’r achos hwn, gan gynnwys y tystion niferus a ddaeth ymlaen.
Bu colli Rhys mewn ffordd mor annisgwyl a diangen yn dorcalonnus, ond rydyn ni fel teulu wedi canolbwyntio ar ailadeiladu ein bywydau, a gwneud y mwyaf o bob dydd, fel y byddai Rhys eisiau, gyda chefnogaeth ein ffrindiau a’r gymuned.
“Rwy’n gobeithio bod y cyhoeddusrwydd o gwmpas yr achos yn Llys y Goron yn dangos peryglon gyrru’n gyflym iawn i eraill, ac yn eu hatgoffa am y cyfrifoldeb sydd gan bawb ohonom pan fyddwn ni’n cydio mewn olwyn car.”
Dywedodd Joanne Brine, gyfreithiwr Carrie Jenkins: “Mae hwn wedi bod yn amser anhygoel o anodd i Mrs Jenkins, wrth iddi ymdopi â sefyllfa sydd wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi ymdrin â’r sefyllfa’n ddewr a graslon wrth iddi hi, ei phlant, a’u teulu ehangach ddod i delerau â cholli gŵr a thad cariadus.
“Ni fydd unrhyw beth byth yn gwella'r boen aruthrol o'i golli, ond maen nhw'n parhau i lywio eu dyfodol yn y ffordd orau posib, gyda chefnogaeth amhrisiadwy'r gymuned ehangach.
“Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r teulu wrth iddyn nhw barhau ag achos sifil am iawndal am y gweithredoedd a achosodd farwolaeth anamserol Rhys.”