Stamp amser presennol: 09/07/26 03:17:34
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Gang troseddau cyfundrefnol yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:48 30/06/2026

Mae wyth o bobl wedi cael eu heuogfarnu o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin dros gyfnod o naw mis.

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys i gyflenwad cocên ar raddfa fawr wedi arwain at gyhuddo wyth aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol o droseddau cyffuriau difrifol cyn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Dechreuodd yr ymchwiliad pan gafodd fan negesydd DPD ei stopio gan swyddogion heddlu ar yr M4 ger Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin ar 8 Awst 2025. Cafodd dros 1.6kg o gocên purdeb uchel, gwerth bron i £190,000, ei rhyng-gipio.

Yn dilyn ymholiadau pellach nodwyd fod wyth o bobl yn rhan o gynllwyn cymhleth i gyflenwi'r cyffuriau hyn. Roedd y rhain yn cynnwys cyflenwyr ym mhen uchaf y gadwyn gyflenwi a chludwyr y tu hwnt i ardal Dyfed-Powys, cwsmeriaid yn prynu symiau cyfanwerthu, a dosbarthwyr lleol.

Nododd swyddogion o Dîm Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yr heddlu fod Tommy Lee Jones, o Monkton, yn chwarae rhan flaenllaw fel pennaeth gang Sir Benfro. Roedd yn caffael sawl cilogram o'r cyffuriau anghyfreithlon ar bob dyddiad dosbarthu gan y cyflenwr Ahmed Al-Farraji a'i gydweithiwr Adam Noraddin, y ddau o Gaerdydd.

Byddai Jones yn cysylltu'n rheolaidd â'r cyflenwyr, a throsglwyddwyd taliadau arian parod mawr i Al-Farraji. Yna byddai'r cyflenwr yn trefnu i'r cyffuriau gael eu danfon mewn ceir moethus o Fryste a Birmingham i leoliadau gwledig gan gynnwys Stepaside, Llandyfái, Hundleton a Monkton i'w cyflenwi ymlaen gan aelodau'r gang oedd wedi'u lleoli yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Kalum Haines, Leon Haines, a Zak Fecci eu hadnabod fel aelodau dibynadwy o'r gang, gan gymryd meddiant o'r cyffuriau'n uniongyrchol gan y cyflenwyr ym mhen uchaf y gadwyn gyflenwi a gweithredu fel dosbarthwyr y cocên yn Sir Benfro. Cyflawnodd Ryan Hare yr un rôl yn Sir Gaerfyrddin a chafodd ei adnabod fel yr un sy'n gyfrifol am drefnu casglu a danfon cyffuriau a atafaelwyd gan yr heddlu ar 8 Awst.

Canfuwyd bod Usman Afsar wedi chwarae rhan sylweddol yng ngweithgareddau'r gang pan yrrodd o Fryste i Sir Benfro fel negesydd a chyfarfu ag aelodau'r gang oedd yn reidio beiciau trydan ym Mhenfro.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Mark Jones, o Dîm Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol Heddlu Dyfed-Powys: “Ar ôl nifer o fisoedd o ymholiadau, fe wnaethon ni adeiladu achos yn dangos yn glir bod Ahmed Al-Farraji wedi teithio o Gaerdydd i gyfarfod â Tommy Lee Jones mewn lleoliadau gwledig, byddai negeswyr cyflenwi ym mhen uchaf y gadwyn gyflenwi hefyd yn gyrru o Fryste i Sir Benfro ar y dyddiadau hyn ac yn cyflenwi Tommy Lee Jones â symiau mawr o gocên.

“Yna casglwyd y danfoniadau hyn gan ei gwsmeriaid ffyddlon a’u dosbarthu ledled dwy sir.”

Cynhaliwyd ymgyrch heddlu ragweithiol i arestio'r wyth unigolyn dan amheuaeth dros gyfnod o wythnos. Cynhaliwyd gwarantau gan y Tîm Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol a thimau plismona ac atal bro yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Caerdydd a Bryste, gyda'r diffynyddion canlynol wedi'u harestio a'u cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A:

  • Tommy Lee Jones, 33 oed, o Castle Quarry ym Monkton
  • Ryan Hare, 27 oed, o Heol Cae Pownd yng Nghefneithin
  • Kalum Haines, 22 oed, o Woodland Park yn Neyland
  • Leon Haines, 26 oed, o Ashdale Lane ym Mhenfro
  • Zack Fecci, 20 oed, o Hawkstone Road yn Noc Penfro
  • Ahmed Al-Farraji, 25 oed, o Stryd Topaz yng Nghaerdydd
  • Usman Afsar, 41 oed, o Woodborough Street ym Mryste
  • Adam Noraddin, 25 oed, o Blas Nanthelyg yng Nghaerdydd

Mae'r holl ddiffynyddion wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe lle cyfaddefodd Jones, Hare, Haines, Haines a Fecci eu rôl yn yr achos.

Cafwyd Al-Farraji, Noraddin ac Afsar yn euog o’r un troseddau yn dilyn achos llys chwe wythnos o hyd.

Ychwanegodd swyddog yn yr achos, Cwnstabl Sam Burson: “Mae’r unigolion hyn wedi gweithio gyda’i gilydd fel gang troseddu trefnedig gan ddod â symiau mawr o gyffuriau dosbarth A i’n trefi a’n pentrefi.

“Maen nhw wedi dangos diffyg parch llwyr at ddiogelwch cymunedau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac wedi cyfrannu at yr effaith andwyol y mae cyffuriau’n ei chael ar lesiant cymdeithasol ac economaidd y lleoedd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddynt.

“Trwy ddadansoddiad ymchwil manwl a thrylwyr, rydym wedi dwyn cyhuddiadau yn erbyn grŵp o bobl, ac wedi chwalu’r grŵp hwn, a oedd yn credu y gallent elwa o’u gweithgaredd troseddol. Fodd bynnag, mae cryfder y dystiolaeth yn eu herbyn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol ac euogfarn i’r unigolion hyn.”

Bydd y diffynyddion yn cael eu dedfrydu ar ddyddiad yn y dyfodol.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.