Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Jarrod Hill, 59 oed o Bontarddulais, Abertawe, ddedfryd o 12 wythnos, wedi'i gohirio am 12 mis, ar ôl gosod trapiau anifeiliaid i ddal llwynogod yn anghyfreithlon.
Daeth y maglau i sylw swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru wrth gynnal gwiriadau cydymffurfio pysgodfa ym Mhysgodfa White Springs ddydd Gwener 10 Hydref 2025.
Ar ôl ei holi yn y lleoliad, cyfaddefodd Hill ei fod yn gyfrifol am osod y maglau i ddal mamaliaid gwyllt, a oedd yn lladd ei hwyaid medd yntau.
Siaradwyd â Hill a chafodd ei rybuddio nôl y 2022 mewn perthynas â gosod maglau ar linell ffens. Fodd bynnag, bryd hynny, caniatawyd gosod maglau ar yr amod nad oeddent yn cael eu gosod mewn lleoliadau megis cloddiau a llinellau ffens.
Mae’r weithred o osod magl o’r fath natur â’r bwriad tebygol o achosi niwed corfforol i anifail gwyllt nawr yn drosedd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Ni chymerodd Hill sylw o’r rhybudd hwn, a pharhaodd i ddefnyddio maglau, hyd yn oed ar ôl i’r defnydd o faglau gael ei wahardd yng Nghymru.
Gan hynny, heddiw, plediodd Jarrod Hill yn euog i’r drosedd yn Llys Ynadon Llanelli ac mae wedi’i ddedfrydu i … am … mis.
Dywedodd y Rhingyll Paul Roberts o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys:
“Gan weithio’n agos â’n hasiantaeth bartner, Adnoddau Naturiol Cymru, croesawn y canlyniad hwn. Mae maglau’n fygythiad sylweddol i fywyd gwyllt, gan achosi anafiadau difrifol a marwolaethau.
“Rwy’n falch ein bod ni wedi sicrhau’r euogfarn gyntaf o’i math yng Nghymru; mae’r achos hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu bywyd gwyllt a sicrhau bod y rhai sy’n torri’r cyfreithiau hyn yn cael eu dal yn atebol.”