Stamp amser presennol: 03/08/2026 05:14:29
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu gyrrwr danfon nwyddau am achosi marwolaeth dyn ‘gofalgar a disglair’ drwy yrru’n beryglus

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:53 30/03/2026

Daniel Wyke SM image.jpg

Mae gyrrwr danfon nwyddau wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am achosi marwolaeth Aaron Jones, tad o Lanpumsaint mewn gwrthdrawiad yn Rhagfyr 2024.

Ymddangosodd Daniel Douglas Wyke, o Gaerfyrddin, yn Llys y Goron Abertawe heddiw i gael ei ddedfrydu ar ôl pledio’n euog i un achos o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac un achos o yrru’n beryglus.

Clywodd y llys bod Wyke, 28 oed, wedi gwrthdaro ag Aaron wrth yrru drwy’r pentref yn Sir Gaerfyrddin ar gyflymder o 34mya – 14mya yn fwy na’r terfyn cyflymder –  fin nos ar 23 Rhagfyr. Ffodd o’r safle yn ei gerbyd a oedd wedi ei ddifrodi, ac a adnabuwyd yn fuan wedyn fel y cerbyd a oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad, a chafodd ei arestio’r diwrnod canlynol.

Roedd Aaron, oedd yn 38 oed, wedi bod allan yn cerdded ei gi pan gafodd ei ladd. Disgrifiodd ei deulu ef fel ‘dyn rhyfeddol, cryf, gofalgar a disglair a oedd bob amser yn arwain drwy’r esiampl orau’.

Ychwanegasant: “Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed Powys, ac yn arbennig i’r tîm archwilio, am archwilio achos Aaron yn drylwyr ac ein cefnogi ni drwy’r amser ofnadwy hwn, a hefyd am ein helpu ni i sicrhau’r ddedfryd hon heddiw.

“Hoffem hefyd ddiolch i Elusen Galar Plant Sandy Bear am eu cefnogaeth barhaus ac amhrisiadwy i’n teulu ni.

Rydym mor ffodus o gael cefnogaeth gan ein teulu ac ein ffrindiau annwyl, ond hefyd gan gymuned sydd wedi parhau i ofalu amdanom ni wrth i ni geisio ailadeiladu ein bywydau heb Aaron.”

Dywedodd y barnwr fod penderfyniad Wyke i beidio ag aros wrth leoliad y gwrthdrawiad yn "greulon o annynol" a dywedodd wrth y llys bod y gyrrwr yn “poeni mwy am achub ei groen ei hun” yn hytrach nag ystyried y niwed y gallai fod wedi achosi.

Meddai: “Roedd y rhai a oedd yn agos i Mr Jones yn chwilio’n wyllt amdano. Ni ellir dychmygu’r ing yr oeddent yn ei deimlo ar y pryd.”

“O ran canlyniadau’r hyn a wnaethoch, costiodd eich gyrru peryglus fywyd tad tyner dau o blant, gŵr a mab cariadus, a dyn a oedd yn ffrind da i nifer,” ychwanegodd.

Dedfrydwyd Wyke i bedair blynedd a hanner o garchar, ac mae wedi’i wahardd rhag gyrru am wyth blynedd a dau fis.  Dywedodd y Rhingyll Nicholas Brookes o Uned Archwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed Powys: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi gadael teulu sy’n galaru am dad, gŵr a mab, a theimlir y golled ar ei ôl yr un mor gryf heddiw ag a wnaed 15 mis yn ôl.

“Profwyd bod y diffynnydd, Daniel Wyke, yn gyrru’n anhygoel o beryglus drwy bentref Llanpumsaint ar noson 23 Rhagfyr, 2024, a chanlyniad dinistriol – a chwbl osgoadwy – hyn oed marwolaeth Aaron.

“Mae ein hymchwiliad wedi bod yn un hir a manwl wrth i ni weithio’n drylwyr i sicrhau cyfiawnder i deulu Aaron, sydd wedi bod wrth galon pob un o’n gweithredoedd. Rydw i’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r amynedd a ddangoswyd ganddynt drwy gydol yr ymchwiliad hwn.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.